Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Budd-daliadau
  3. Credyd Cynhwysol
Budd-daliadau Credyd Cynhwysol

Egluro Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal i’ch cefnogi os ydych yn gweithio ac ar incwm isel neu os ydych yn ddi-waith. Rydym yn esbonio sut mae Credyd Cynhwysol yn wahanol i’r budd-daliadau presennol, faint y byddwch yn cael eich talu a sut i wneud cais amdano.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw Credyd Cynhwysol?
  • Faint o amser mae’n ei gymryd i gael Credyd Cynhwysol?
  • Pa mor aml y telir Credyd Cynhwysol?
  • Faint yw Credyd Cynhwysol?
  • Credyd Cynhwysol a gweithio
  • Beth sy’n cyfrif fel incwm ar gyfer Credyd Cynhwysol?
  • Sut mae cynilion yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol?
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • Taliad ymlaen llaw ar Gredyd Cynhwysol
  • Sgamiau Credyd Cynhwysol
  • Cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Beth yw Credyd Cynhwysol?

Mae Credyd Cynhwysol yn daliad budd-dal i bobl sydd mewn gwaith neu’n ddi-waith.

Mae'n disodli rhai o'r budd-daliadau a’r credydau treth y gallech fod yn eu cael nawr:

  • Budd-dal Tai
  • Credyd Treth Plant
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Treth Gwaith
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn galw’r rhain yn fudd-daliadau etifeddol ac, yn gyffredinol, ni allwch wneud cais newydd amdanynt bellach. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch bydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau etifeddol ar hyn o bryd, ac nid oes unrhyw beth yn eich bywyd yn newid, byddwch yn parhau i’w cael hyd nes bod DWP yn gofyn i chi symud i Gredyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf?
I ddarganfod mwy am wneud cais, eich ymrwymiadau, sancsiynau a gweithio wrth hawlio, lawrlwythwch y canllaw ‘Credyd Cynhwysol a Chi’ o ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych yn byw gyda rhywun fel cwpl ac mae gennych chi’ch dau hawl i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn cael cyd-daliad i mewn i gyfrif banc sengl.

Cymru a Lloegr

Os ydych yn cael help â’ch rhent, bydd hyn yn cael ei gynnwys yn eich taliad misol – byddwch wedyn yn talu’ch landlord yn uniongyrchol.

Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Gellir talu’ch rhent yn uniongyrchol i’ch landlord neu gallwch ddewis ei dalu eich hun.

Yn byw yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban?

Yng Ngogledd Iwerddon, mae Credyd Cynhwysol yn gweithio’n wahanol. Darganfyddwch fwy ar nidirect

Yn yr Alban, efallai y cynigir dewisiadau i chi ynglŷn â sut y telir eich Credyd Cynhwysol. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Cynhwysol os ydych yn byw yn yr Alban

Efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os:

  • ydych yn ddi-waith neu ar incwm isel
  • ydych yn 18 oed neu’n hŷn (mae rhai eithriadau os ydych yn 16 neu’n 17 oed)
  • ydych chi neu’ch partner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • oes gennych chi a’ch partner lai na £16,000 mewn cynilion
  • ydych yn byw yn y DU.

Mae rhai sefyllfaoedd lle gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn 16 neu’n 17 oed, neu pan ydych yn astudio.

Darganfyddwch fwy am gymhwysedd ar gyfer Credyd Cynhwysol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Faint o amser mae’n ei gymryd i gael Credyd Cynhwysol?

Mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol cyn gynted ag y bydd gennych hawl, hyd yn oed os nad ydych yn credu eich bod yn gymwys.

Mae hyn oherwydd efallai y bydd rhaid i chi aros hyd at bum wythnos ar ôl hawlio cyn eich taliad cyntaf, gan ei fod yn cael ei dalu mewn ôl-ddyledion.

Os dewch o hyd i swydd newydd, neu os bydd eich amgylchiadau’n newid cyn i’ch cais gael ei gwblhau, byddwch yn gallu ei ganslo.

Ond o leiaf nid oes rhaid i chi gychwyn eich cais o’r dechrau, nac aros am eich taliad cyntaf. Gallai hyn eich helpu i osgoi’r angen i gael taliad ymlaen llaw.

Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw os nad oes gennych ddigon i fyw arno wrth i chi aros am eich taliad cyntaf.

Os ydych yn cael budd-daliadau etifeddol yn barod, mae’n werth gwirio ag ymgynghorydd budd-daliadau arbenigol cyn i chi wneud cais i wirio bod gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yw’r cam cywir i chi.

Mae hyn oherwydd na allwch symud yn ôl i’ch hen fudd-daliadau fel arfer unwaith eich bod ar Gredyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am daliadau ymlaen llaw ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Dyddiad asesu a chyfnod asesu

Y dyddiad y cyflwynwch eich cais yw dyddiad y mis y telir eich taliad Credyd Cynhwysol. Gelwir hyn yn ddyddiad eich asesiad.

Telir Credyd Cynhwysol yn fisol mewn ôl-ddyledion. Felly bydd rhaid i chi aros un mis calendr o’r dyddiad y gwnaethoch gyflwyno’ch cais cyn i chi gael eich taliad cyntaf. Gelwir hyn yn eich cyfnod asesu.

Yna mae rhaid i chi aros hyd at saith diwrnod i’r taliad gyrraedd eich cyfrif banc.

Mae hyn yn golygu y gall gymryd hyd at bum wythnos cyn i chi gael eich taliad cyntaf.

Enghraifft
  • Mae Ben wedi colli ei swydd ac yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol ar 22 Gorffennaf.
  • Mae hyn yn gwneud ei ddyddiad asesu 22 Gorffennaf. Mae’n golygu y bydd yn cael ei dalu ar yr 22 o bob mis.
  • Mae angen iddo aros un cyfnod asesu (un mis calendr) hyd at 21 Awst – gan fod Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu bob mis mewn ôl-ddyledion.
  • Yna mae angen iddo ganiatáu hyd at saith diwrnod i’r arian gyrraedd ei gyfrif.
  • Gall ddisgwyl ei daliad cyntaf erbyn 29 Awst fan bellaf.
  • Os yw 29 Awst yn ddydd Llun gŵyl banc, dylai gael taliad ar y diwrnod gwaith olaf (dydd Gwener) cyn y gwyliau.
A ydych yn poeni am sut y byddwch yn ymdopi’n ariannol nes i chi gael eich taliad cyntaf?
 
Yna darganfyddwch am daliadau ymlaen llaw yn ein canllaw Taliadau ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
Nol i’r brig

Pa mor aml y telir Credyd Cynhwysol?

Telir Credyd Cynhwysol yn fisol mewn ôl-ddyledion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Fodd bynnag, yn yr Alban, gallwch ofyn am daliadau bob pythefnos yn lle.

Yng Ngogledd Iwerddon, y cyfnod talu diofyn yw bob pythefnos. Ond gallwch ddewis cael taliadau misol.

Nol i’r brig

Faint yw Credyd Cynhwysol?

Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfans sylfaenol ynghyd â gwahanol elfennau ar gyfer pethau fel costau tai, magu plant, gofalu neu salwch ac anabledd.

Gall y swm a gewch mewn Credyd Cynhwysol ostwng neu gynyddu, yn dibynnu ar ba incwm a gewch:

  • gweithio
  • pensiwn
  • buddion eraill
  • cynilion a chyfalaf uwch na £6,000.
Darganfyddwch fwy am faint o Gredyd Cynhwysol y gallwch ei gael, a’r gwahanol elfennau, yn ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol?

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar faint o oriau’r wythnos y gallwch weithio os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol.

Yn lle, bydd y swm a gewch yn lleihau’n raddol wrth i chi ennill mwy – felly ni fyddwch yn colli'ch holl fudd-daliadau ar unwaith.

Gall ein Cyfrifiannell Budd-daliadau eich helpu i gael ffigur mwy cywir am faint y gallech ei hawlio. Mae ond yn cymryd ychydig o funudau i'w llenwi.

Defnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau

Os ydych chi’n byw ar incwm isel neu wedi cael sioc incwm, defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo.

Nol i’r brig

Credyd Cynhwysol a gweithio

Cymorth i gynilo

Os ydych yn gweithio ac ar Gredyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn gymwys i gael cyfrif Cymorth i Gynilo. Mae hyn yn rhoi hyd at fonws 50% i chi gan y llywodraeth ar eich cynilion.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Esbonio Cymorth i Gynilo

Gallwch weithio cymaint o oriau ag y dymunwch pan fyddwch ar Gredyd Cynhwysol.

Nid oes unrhyw derfynau fel sydd â budd-daliadau presennol fel Cymhorthdal Incwm neu Gredydau Treth Gwaith.

Os ydych mewn gwaith â thâl, efallai y bydd gennych hawl i gael lwfans gwaith.

Lwfans gwaith Credyd Cynhwysol

Darganfyddwch fwy am y lwfans gwaith a’r tapr enillion ar Turn2usYn agor mewn ffenestr newydd

Y lwfans gwaith yw’r swm o arian y caniateir i chi ei ennill cyn iddo effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol.

Bydd gennych hawl i gael lwfans gwaith os ydych:

  • yn gyfrifol am blant dibynnol, a/neu
  • na allwch weithio cymaint oherwydd salwch neu anabledd.

Os oes gennych hawl i’r lwfans gwaith, gallwch ennill hyd at y trothwy ar gyfer eich amgylchiadau.

Yna bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng 55c am bob £1 rydych yn ei ennill sy'n uwch na’r swm hwn. Gelwir hyn yn dapr enillion.

Os nad ydych yn gymwys i gael y lwfans gwaith, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng 55c am bob £1 ar eich holl enillion.

Mae buddion a delir gan gyflogwyr yn cael eu trin fel enillion. Er enghraifft, Mamolaeth Statudol, Tadolaeth, Mabwysiadu a Thâl Salwch. Mae’r tapr yn effeithio ar y rhain.

Beth sy’n digwydd i’ch Credyd Cynhwysol pan fyddwch yn dechrau gweithio neu’n gweithio mwy o oriau?

Edrychwch ar fideo’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i ddarganfod mwy.

Beth yw Credyd Cynhwysol?

Nol i’r brig

Beth sy’n cyfrif fel incwm ar gyfer Credyd Cynhwysol?

Grant cymorth incwm hunangyflogedig

Os cawsoch grant cymorth incwm hunangyflogedig (SEISS), bydd angen datgan hyn ar eich ffurflen dreth Hunanasesiad.

Gellir tynnu rhywfaint o incwm na chawsoch o weithio o’ch dyfarniad uchaf. Gelwir hyn yn incwm nas enillwyd.

Mae incwm heb ei ennill a fydd yn cael ei dynnu oddi ar eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd
  • Incwm Pensiwn
  • Lwfans Gofalwr
  • rhai budd-daliadau nad ydynt yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol.

Fel arfer, bydd £1 yn cael ei ddidynnu o'ch taliad Credyd Cynhwysol am bob £1 o incwm nas enillwyd.

Mae incwm heb ei ennill na fydd yn cael ei dynnu oddi ar eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Budd-dal Plant
  • taliadau cynhaliaeth plant
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • incwm gan ddisgyblion byrddwyr a lletywyr.
Am restr llawn o beth sy’n cyfrif fel incwm ar gyfer Credyd Cynhwysol, ewch i wefan ‘Revenue Benefits’Yn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Sut mae cynilion yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol?

Os oes gennych gynilion neu gyfalaf – fel buddsoddiadau neu gyfranddaliadau – gallai hyn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael. Ni fydd eich cronfa bensiwn yn effeithio ar swm y Credyd Cynhwysol mae gennych hawl iddo tra eich bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth. 

 Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae cynilion a thaliadau cyfandaliadau yn effeithio ar fudd-daliadau?
Nol i’r brig

Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Pwysig

Os ydych yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, nid oes rhaid i chi ddweud wrth y DWP. Os bydd rhaid iddynt wirio unrhyw beth â chi, byddant yn eich ffonio neu’n anfon neges atoch drwy’ch dyddlyfr ar-lein.

Os oes gennych hawl i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, mae angen i chi wneud cais ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Darganfyddwch pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi gychwyn eich caisYn agor mewn ffenestr newydd ar  GOV.UK.

A ydych chi a’ch partner yn gwneud cais ar y cyd? Yna dim ond un ohonoch fydd angen llenwi’r ffurflen gais ar-lein. Ond bydd angen i’r person hwnnw nodi manylion ar eich cyfer chi’ch dau.

Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth

Mae gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth yn gyfrinachol ac am ddim. Gallant eich helpu i:

  • wirio a oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol
  • cael eich gwaith papur a’ch dogfennau pwysig at ei gilydd i gyflymu’ch cais
  • llenwi eich cais ar-lein.

Cymru a Lloegr

Am fwy o fanylion, ac i ddod o hyd i'ch cangen agosaf ewch i Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd

 

Neu yng Nghymru, ffoniwch 0800 024 1220 a Lloegr, ffoniwch 0800 144 8444

 

Yr Alban

Ymwelwch â Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0800 023 2581

 

Gogledd Iwerddon

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio yn wahanol. Darganfyddwch fwy ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Mynediad i gyfrifiadur

Os ydych yn poeni am ddefnyddio cyfrifiadur i wneud eich cais, mae’n bwysig eich bod yn cael help. Mae hyn oherwydd na fydd eich cais yn cychwyn nes eich bod wedi anfon eich ffurflen ar-lein. Yna arhosir am bum wythnos am eich taliad cyntaf. Gall unrhyw oedi olygu bod rhaid i chi aros yn hwy.

Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur gartref, efallai y gallwch ddefnyddio un am ddim yn:

  • eich canolfan gwaith leol
  • llyfrgell
  • Cyngor ar Bopeth
  • cyngor.

Mae llawer o ganolfannau gwaith bellach yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i bobl sy'n ei chael yn anodd gwneud cais ar-lein. Gallant hefyd eich helpu i ddod â'r holl waith papur sydd ei angen arnoch at ei gilydd.

Gallwch hefyd ofyn i wasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth i’ch helpu i lenwi’r ffurflen ar-lein.

Os ydych yn newydd i gyfrifiaduron neu os nad ydych wedi teimlo’n hyderus am eu defnyddio yn y gorffennol, nawr mae’n amser da i ddechrau magu’ch hyder a’ch gwybodaeth.

Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth sgiliau digidol am ddim yn eich ardal ar  y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol. Neu, ffoniwch 0800 100 900.

Darganfyddwch fwy am gyrsiau ar-lein am ddim i helpu dechreuwyr i ddatblygu sgiliau digidol ar Learn My Way.comYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Taliad ymlaen llaw ar Gredyd Cynhwysol

Awgrym da

Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol dim ond os ydych wedi gwneud cais yn ystod y pum wythnos ddiwethaf, rydych yn aros am eich taliad cyntaf ac rydych eisoes wedi cael cyfweliad yn eich Canolfan Gwaith.

Os ydych wedi bod yn aros am fwy na phum wythnos am eich taliad cyntaf, bydd angen i chi wneud cais gan ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol ar 0800 328 5644.

Oes gennych ychydig neu ddim arian tan eich taliad cyntaf? Yna gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw o’ch anogwr gwaith, neu drwy ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim. 

 

Bydd angen i chi dalu’r arian hwn yn ôl o fewn 24 mis ac mae’r ad-daliad cyntaf fel arfer yn cael ei gymryd o’ch taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Felly, mae’n bwysig gofyn dim ond am yr hyn sydd ei angen arnoch.

Os ydych wedi bod yn hawlio Credyd Cynhwysol am chwe mis, efallai y gallwch wneud cais am daliad cyllidebu am gostau hanfodol.

Os gwnewch gais am daliad ymlaen llaw, bydd angen i chi (a’ch partner os ydych yn gwneud cais ar y cyd):

  • esbonio pam mae angen taliad ymlaen llaw arnoch
  • darparu manylion cyfrif banc lle dylid talu’r taliad ymlaen llaw
  • bod wedi gwirio’ch hunaniaeth mewn Canolfan Gwaith.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
Nol i’r brig

Sgamiau Credyd Cynhwysol

Cadwch rif cywir DWP yn eich llyfr ffôn

Roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn arfer ffonio o rif a ddaliwyd yn ôl, ond nawr bydd yn dangos ar eich galwadau sy’n dod i mewn fel 0800 023 2635. Mae’n werth cadw’r rhif hwn yn llyfr cyfeiriadau eich ffôn fel eich bod yn cofio ateb yr alwad.

Mae hawlwyr budd-daliadau’n cael eu targedu gan sgamwyr sy'n cynnig benthyciadau neu grantiau cost isel gan y llywodraeth.

Efallai y bydd rhywun sy’n honni eu bod yn gweithio i Ganolfan Byd Gwaith yn eich ffonio, neu’n cysylltu â chi trwy hysbysebion cyfryngau cymdeithasol. Mae gan lawer o'r sgamwyr wefannau argyhoeddiadol, â logos a thystebau’r llywodraeth.

Efallai y byddant yn gofyn am eich ID a’ch manylion banc. Yna byddant yn cynnig gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a gwneud cais am daliad ymlaen llaw ar eich rhan – gan gymryd rhywfaint o’r arian hwn fel eu ffi.

Fodd bynnag, mae angen ad-dalu swm llawn y taliadau ymlaen llaw o daliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol. Felly byddwch yn talu’r swm cyfan a fenthycwyd yn ôl.

Mae hefyd yn bwysig peidio â chael eich temtio gan y cynigion hyn os ydych eisoes yn hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol. Er enghraifft, credydau treth neu Fudd-dal Tai.

Mae hyn oherwydd y bydd eich hen fudd-daliadau yn dod i ben, ac efallai y bydd yr arian a gewch ar Gredyd Cynhwysol yn llai na beth rydych yn ei gael nawr.

Os cewch gynnig o fenthyciad gan y llywodraeth a gofynnant i chi roi eich ID a’ch manylion banc, efallai y bydd y sgamiwr yn ceisio gwneud cais Credyd Cynhwysol heb yn wybod i chi. Mae’n bwysig peidio â dosbarthu’r manylion hyn – oherwydd efallai na fydd gennych hawl i Gredyd Cynhwysol a gallai hyn gael ei ystyried yn dwyll budd-daliadau.

A ydych yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf ac angen help i wneud cais am daliad ymlaen llaw? Yna bydd Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth yn eich helpu i gael y taliad sydd ei angen arnoch am ddim.

Am fanylion, gwelwch yr adran ‘Help â chais ar-lein am Gredyd Cynhwysol’ yn y canllaw hwn.

Os ydych wedi cael eich targedu, hyd yn oed os nad ydych wedi dioddef ohono, gallwch adrodd hynny i Action Fraud. Ffoniwch 0300 123 2040 neu defnyddiwch yr offeryn adrodd ar-lein ar Action Fraud
 
Neu, ewch i ScamSmart y FCA 

Darllenwch ein post blog ar sgamiau Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am sylwi, osgoi ac adrodd sgamiau yn ein canllaw Canllaw dechreuwr i dwyll
Nol i’r brig

Cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Os oes angen help arnoch â'ch cais, ffoniwch llinell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim ar:

  • Ffôn: 0800 328 1744
  • Ffôn testun: 0800 328 1344

8am i 6pm, ddydd Llun i ddydd Gwener (ar gau ar wyliau banc a gwyliau cyhoeddus). Mae galwadau am ddim.

Darganfyddwch fwy o fanylion cyswllt ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaethau Credyd Cynhwysol yn lle:

  • Ffôn: 0800 012 1331
  • Ffôn testun:  0800 012 1441
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Share this article
E-bost Facebook Twitter
Share this with
WhatsApp LinkedIn
Copy this link
Anfon e-bost
Copy this link
Credyd Cynhwysol

Credyd Cynhwysol

  • Taliadau Credyd Cynhwysol ar y cyd i gyplau
  • Faint yw Credyd Cynhwysol?
  • Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
  • Credyd Cynhwysol os ydych yn byw yn yr Alban
  • Cap ar fudd-daliadau
  • Beth yw'r dreth ystafell wely?
  • Egluro Credyd Cynhwysol
  • Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf?
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • A ddylwn i newid i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau etifeddol felcredydau treth neu fudd-dal tai?
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Credyd Cynhwysol

  • Taliadau Credyd Cynhwysol ar y cyd i gyplau
  • Faint yw Credyd Cynhwysol?
  • Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
  • Credyd Cynhwysol os ydych yn byw yn yr Alban
  • Cap ar fudd-daliadau
  • Beth yw'r dreth ystafell wely?
  • Egluro Credyd Cynhwysol
  • Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf?
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • A ddylwn i newid i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau etifeddol felcredydau treth neu fudd-dal tai?
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2024 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AP. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni'n fyw i gael arweiniad pensiynau gan ddefnyddio'r ffôn
  • O dramor +44 207 932 5780
  • Hunangyflogedig 0345 602 7021
Oriau
  • Llun–Gwener9am-5pm
  • Sat-Sun

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg 0800 138 7777*
  • Typetalk 18001 0800 915 4622*
  • O dramor +44203 553 2279
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sat, Sun andWedi cau

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Talk to us live about pensions guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Talk to us live about money guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Download app: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau