Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Budd-daliadau
  3. Credyd Cynhwysol
Budd-daliadau Credyd Cynhwysol

Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Dyma sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf, pa waith papur y byddwch ei angen a chael help os ydych yn cael anhawster mynd ar-lein. Mae'r canllaw hefyd yn cynnwys ble i gael cymorth am ddim cyn i chi wneud cais i sicrhau bod Credyd Cynhwysol yn iawn i chi.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • Cais sengl neu ar y cyd – sut mae’n gweithio
  • Gwaith papur cais Credyd Cynhwysol
  • Pryd ddylwn i wneud cais am Gredyd Cynhwysol?
  • Os oes angen help arnoch i fynd ar-lein i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Cyn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf, mae’n bwysig gwirio sut y gall effeithio ar fudd-daliadau eraill rydych eisoes yn eu cael neu y gallai fod gennych hawl iddynt.

Mewn rhai achosion, gallai wneud synnwyr i wneud cais am fudd-dal gwahanol yn lle neu ochr yn ochr â Chredyd Cynhwysol.

Ac os ydych chi - a’ch partner os ydych mewn cwpl - eisoes yn cael rhai budd-daliadau neu gredydau treth efallai na fydd bob amser yn gwneud synnwyr symud i Gredyd Cynhwysol. Mewn rhai achosion fe allech waethygu pethau a methu â mynd yn ôl.

Darganfyddwch fwy am sut mae'n gweithio yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol  

Os ydych chi eisoes yn hawlio ‘budd-dal presennol’, ac nid oes dim yn newid yn eich bywyd byddwch yn y pen draw, yn cael eich symud i Gredyd Cynhwysol. Bydd y DWP yn dweud wrthych pan mae'n amser.

Fodd bynnag, os ydych yn cael newid mewn amgylchiadau, fel colli eich swydd, cael babi neu bod eich partner yn symud i mewn neu allan o'r cartref, gallai hyn olygu bod rhaid i chi nawr wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Mae budd-daliadau presennol yn cynnwys:

  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Budd-dal Tai. 
Darganfyddwch fwy am sut a phryd y bydd hyn yn digwydd yn ein canllaw Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf?

Defnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau

Os ydych chi’n byw ar incwm isel neu wedi cael sioc incwm, defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo.

Nol i’r brig

Cais sengl neu ar y cyd – sut mae’n gweithio

Mae dyfarniadau Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar incwm a chynilion eich cartref:

  • Os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu’n rhannu fflat neu dŷ ond nad ydych yn rhan o gwpl, byddwch yn gwneud cais sengl ar-lein.
  • Os ydych yn byw gyda rhywun neu’n symud i fyw fel cwpl bydd angen i chi wneud cais ar-lein ar y cyd. Bydd yn rhaid  chi wneud hyn hyd yn oed os nad yw’ch partner eisoes yn cael Credyd Cynhwysol. Dim ond un ohonoch fydd angen llenwi’r ffurflen gais ar-lein - ond bydd angen i bwy bynnag sy’n ei gwneud rhoi manylion i’r ddau ohonoch.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ceisiadau Credyd Cynhwysol ar y cyd i gyplau
Nol i’r brig

Gwaith papur cais Credyd Cynhwysol

Bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol fel rhan o’ch cais:

  • manylion cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd
  • cyfeiriad e-bost
  • costau tai, fel rhent neu daliadau morgais, taliadau gwasanaeth, ac ati
  • incwm cyflogedig neu hunangyflogedig
  • manylion cynilion a buddsoddiadau - er enghraifft cyfranddaliadau neu eiddo rydych yn ei rentu
  • unrhyw gostau gofal plant cyfredol
  • eich ffurflen P45 os ydych wedi colli eich swydd.
Os nad oes gennych gyfrif banc, darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis cyfrif banc ar gyfer eich taliadau budd-daliadau

I wirio’ch hunaniaeth ar-lein, byddwch hefyd angen prawf adnabod. Gallai hyn fod yn:

  • pasbort
  • cerdyn debyd neu gredyd
  • trwydded yrru.

Darganfyddwch fwy am beth rydych ei angen cyn i chi ddechrau’ch cais ar GOV.UK

Os na allwch ddod o hyd i unrhyw ran o’r gwaith papur hwn, neu os nad oes gennych ID â llun, peidiwch â gadael i hyn oedi’ch cais. Gallwch gael cefnogaeth gan gynghorydd Help i Hawlio a all eich helpu i ddod o hyd i’r hyn sydd angen arnoch i wneud cais.

Nol i’r brig

Pryd ddylwn i wneud cais am Gredyd Cynhwysol?

Dim ond am fis y gellir ôl-ddyddio ceisiadau am Gredyd Cynhwysol. Felly os nad ydych yn disgwyl unrhyw incwm pellach, mae’n syniad da gwneud cais cyn gynted ag y gallwch.

Fodd bynnag, os ydych yn symud o fudd-daliadau presennol ac nad ydych chi'n siŵr beth fydd yr effaith arnoch, gwiriwch gydag ymgynghorydd Help i Hawlio ei fod yn iawn i chi oherwydd ar ôl i chi symud i Gredyd Cynhwysol, ni allwch fel arfer symud yn ôl i'r budd-daliadau presennol.

Mae’r dyddiad rydych yn cyflwyno’ch cais yn nodi dechrau 'cyfnod asesu' un mis calendr. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, mae’n rhaid i chi aros hyd at saith diwrnod i’r taliad gyrraedd eich cyfrif banc.

Mae hyn yn golygu y gall gymryd hyd at bum wythnos cyn i chi gael eich taliad cyntaf.

Enghraifft o'r amser y mae'n ei gymryd rhwng gwneud cais a chael eich taliad cyntaf

  • Mae Ben wedi colli ei swydd ac mae’n gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol ar 22 Gorffennaf.
  • Mae angen iddo aros un cyfnod asesu – hynny yw mis calendr – i 21 Awst. Mae hyn oherwydd bod Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol mewn ôl-ddyledion.
  • Mae angen iddo hefyd ganiatáu hyd at saith diwrnod i’r arian gyrraedd ei gyfrif.
  • Dylai ddisgwyl ei daliad cyntaf o Gredyd Cynhwysol erbyn 28 Awst fan bellaf. Bydd yn cael ei dalu ar yr 28ain o bob mis.
  • Os yw 28 Awst yn ddydd Llun gŵyl y banc, dylai gael taliad ar y diwrnod gwaith olaf (dydd Gwener) cyn yr ŵyl.

Os ydych yn poeni am sut y byddwch yn ymdopi am arian nes i chi gael eich taliad cyntaf, darllenwch ein canllaw Cymorth wrth aros am daliadau budd-dal.

Fodd bynnag, os cawsoch eich diswyddo neu os ydych yn disgwyl i gwsmeriaid eich talu, gall fod yn well aros nes eich bod wedi cael eich arian terfynol cyn i chi wneud cais.

Mae hyn oherwydd y gallai unrhyw incwm a gewch yn ystod y cyfnod asesu ar ôl i chi wneud eich cais effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol. Efallai y bydd yn golygu nad oes gennych hawl i daliad hyd yn oed.

Efallai y bydd eich siec gyflog derfynol hefyd yn uwch na’r arfer oherwydd bod ganddo dâl diswyddo, tâl gwyliau neu dâl yn lle rhybudd wedi’i ychwanegu ato.

Enghraifft o sut y gall amrywiadau yn eich incwm effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol

  • Mae Ben yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar 22 Gorffennaf ac yna’n cael ei siec gyflog derfynol ar 31 Gorffennaf. Bydd hyn yn cael ei gynnwys fel incwm yn y cyfnod asesu rhwng 22 Gorffennaf a 21 Awst.
  • Mae ei daliad Credyd Cynhwysol cyntaf sy’n ddyledus ar 28 Awst yn sero. Mae hyn  oherwydd bod ei incwm yn rhy uchel i fod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol y mis hwn.
  • Rhaid iddo fyw oddi ar ei siec gyflog olaf tan 28 Medi, pan fydd yn cael ei daliad Credyd Cynhwysol llawn nesaf. Mae’r taliad hwn yn seiliedig ar incwm sero yn y cyfnod asesu rhwng 22 Awst a 21 Medi.
  • Os bydd yn aros tan 1 Awst i wneud y cais, bydd ei incwm yn cael ei asesu fel sero yn ystod y cyfnod asesu rhwng 1 a 31 Awst. Felly dylai gael ei daliad Credyd Cynhwysol llawn cyntaf bum wythnos yn ddiweddarach - ar 7 Medi.

Gall gweithio allan pryd i wneud cais pan fyddwch yn disgwyl incwm ychwanegol fod yn gymhleth. Felly os nad ydych yn siŵr sut y bydd yn effeithio arnoch, cysylltwch ag ymgynghorydd Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth i wirio yn gyntaf.

Cymru a Lloegr

Am fwy o fanylion, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth

Neu, yn Lloegr, ffoniwch 0800 144 8444. Yng Nghymru, ffoniwch 0800 024 1220

Yr Alban

Ewch i Citizens Advice Scotland neu ffoniwch 0800 023 2581

Gogledd Iwerddon

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio'n wahanol. Darganfyddwch fwy ar nidirect

Darganfyddwch fwy am adael gwaith ac angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar y Grŵp Diwygio Treth Incwm Isel (LITRG)

Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Dechreuwch eich cais ac i wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar GOV.UK.

Nol i’r brig

Os oes angen help arnoch i fynd ar-lein i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Gwneud cais

Os ydych yn poeni am ddefnyddio cyfrifiadur i wneud eich cais Credyd Cynhwysol, mae’n bwysig eich bod yn cael help.

Mae hyn oherwydd na fydd eich cais yn dechrau nes eich bod wedi anfon eich ffurflen ar-lein. Yna bydd yn rhaid aros am bum wythnos am eich taliad cyntaf. Gall unrhyw oedi golygu bod yn rhaid i chi aros yn hwy na hyn.

Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur gartref, efallai y gallwch ddefnyddio un am ddim yn eich Canolfan Gwaith, llyfrgell, Cyngor ar Bopeth neu gyngor lleol.

Mae llawer o Ganolfannau Gwaith bellach yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i bobl sy’n ei chael hi’n anodd gwneud cais ar-lein. Gallant hefyd eich helpu i ddod â’r holl waith papur sydd ei angen arnoch at ei gilydd.

Dewch o hyd i'ch cyngor lleol yng Nghymru a Lloegr ar GOV.UK

Dewch o hyd i'ch cyngor lleol yn yr Alban ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd

Dewch o hyd i'ch cyngor lleol yng Ngogledd Iwerddon ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych yn newydd i gyfrifiaduron neu os nad ydych wedi teimlo’n hyderus am eu defnyddio yn y gorffennol, mae’n amser da iawn nawr i adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch hyder wrth eu defnyddio.

Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth sgiliau digidol am ddim yn eich ardal chi gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol ar 0800 100 900

Ewch i’r Rhwydwaith Canolfannau Ar-lein i ddod o hyd i’ch canolfan hyfforddi agosaf ac mae LearnMyWay.com yn cynnig cwrs ar-lein am ddim i helpu dechreuwyr i ddatblygu sgiliau digidol.

Os na allwch wneud cais ar-lein oherwydd salwch neu anabledd

Efallai y bydd gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein yn anoddach os oes gennych salwch neu anabledd sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd neu reoli pethau eich hun.

Os ydych angen help , gallwch ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol i drefnu apwyntiad i rywun eich ffonio yn ôl i wneud y cais dros y ffôn.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) hefyd yn gweithredu gwasanaeth ymweld os na allwch adael eich cartref neu os ydych yn yr ysbyty.

Darganfyddwch fwy am wasanaeth Ymweliadau Cartref DWP ar wefan GOV.UK

Gall ymgynghorydd Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth hefyd eich cefnogi trwy gydol eich cais am Gredyd Cynhwysol. Gallant hefyd eich helpu i drefnu ymweliad cartref gan DWP.

Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth

Mae gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth yn gyfrinachol ac am ddim. Gallant eich helpu i:

  • wirio a oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol
  • cael eich gwaith papur a’ch dogfennau pwysig at ei gilydd i gyflymu’ch cais
  • llenwi eich cais ar-lein.

Cymru a Lloegr

Am fwy o fanylion, ac i ddod o hyd i'ch cangen agosaf ewch i Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd

 

Neu yng Nghymru, ffoniwch 0800 024 1220 a Lloegr, ffoniwch 0800 144 8444

 

Yr Alban

Ymwelwch â Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0800 023 2581

 

Gogledd Iwerddon

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio yn wahanol. Darganfyddwch fwy ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Os ydych angen help gyda’ch cais, gallwch ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim ar:

Ffôn: 0800 328 1744

Ffôn testun: 0800 328 1344

8am i 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ar gau ar wyliau banc a gwyliau cyhoeddus). Mae galwadau am ddim.

Mae’r llinell gymorth yn brysur iawn oherwydd yr argyfwng presennol. Mae’n well defnyddio’ch cyfrif ar-lein os gallwch. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Credyd Cynhwysol

Credyd Cynhwysol

  • Taliadau Credyd Cynhwysol ar y cyd i gyplau
  • Faint yw Credyd Cynhwysol?
  • Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
  • Credyd Cynhwysol os ydych yn byw yn yr Alban
  • Cap ar fudd-daliadau
  • Beth yw'r dreth ystafell wely?
  • Egluro Credyd Cynhwysol
  • Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf?
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • A ddylwn i newid i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau etifeddol felcredydau treth neu fudd-dal tai?
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Credyd Cynhwysol

  • Taliadau Credyd Cynhwysol ar y cyd i gyplau
  • Faint yw Credyd Cynhwysol?
  • Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
  • Credyd Cynhwysol os ydych yn byw yn yr Alban
  • Cap ar fudd-daliadau
  • Beth yw'r dreth ystafell wely?
  • Egluro Credyd Cynhwysol
  • Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf?
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • A ddylwn i newid i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau etifeddol felcredydau treth neu fudd-dal tai?
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2024 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AP. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni'n fyw i gael arweiniad pensiynau gan ddefnyddio'r ffôn
  • O dramor +44 207 932 5780
  • Hunangyflogedig 0345 602 7021
Oriau
  • Llun–Gwener9am-5pm
  • Sat-Sun

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg 0800 138 7777*
  • Typetalk 18001 0800 915 4622*
  • O dramor +44203 553 2279
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sat, Sun andWedi cau

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Talk to us live about pensions guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Talk to us live about money guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Download app: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau