Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Budd-daliadau
  3. Credyd Cynhwysol
Budd-daliadau Credyd Cynhwysol

Faint yw Credyd Cynhwysol?

Fel arfer, telir Credyd Cynhwysol i chi fel taliad misol sengl, ond mae’n cynnwys nifer o wahanol elfennau. Mae’n bwysig gwybod y gwahanol lwfansau a’r elfennau a allai fod yn ddyledus ichi, faint allwch chi ei gael am bob un a sut y gall taliadau gael eu heffeithio gan incymau a chynilion eraill.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Lwfans Safonol Credyd Cynhwysol
  • Elfennau ychwanegol
  • Faint o Gredyd Cynhwysol a gaf os wyf yn gweithio?
  • Cynilion a Chredyd Cynhwysol
  • Dyledion a didyniadau sy’n cael eu cymryd o’ch taliad Credyd Cynhwysol
  • Budd-daliadau eraill a Chredyd Cynhwysol
  • Os cymerwch allan Daliad Ymlaen Llaw o Gredyd Cynhwysol
  • Credyd Cynhwysol a’r cap ar fudd-daliadau
  • Sut mae sancsiynau yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol?
  • Cyfrifiannell Credyd Cynhwysol

Newidiadau sydd wedi’u cyhoeddi yn Natganiad yr Hydref

Caiff ychydig o’r wybodaeth sydd ar y dudalen hon ei heffeithio gan newidiadau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth ar 22 Tachwedd 2023. Ni fydd y rhan fwyaf yn digwydd tan fis Ebrill 2024 neu’n hwyrach.

I ddarganfod beth sy’n digwydd, gweler ein blog Beth mae Datganiad yr Hydref yn ei olygu i chi.

Lwfans Safonol Credyd Cynhwysol

Os ydych yn gwneud cais am  Gredyd Cynhwysol, fe gewch un lwfans safonol ar gyfer eich cartref. Y swm a gewch yn 2023/24 fydd:

  • £292.11 y mis i hawlwyr sengl dan 25 oed
  • £368.74 y mis i hawlwyr sengl 25 oed neu hŷn
  • £458.51 y mis i hawlwyr ar y cyd dan 25 oed
  • £578.82 y mis i hawlwyr ar y cyd gyda’r naill neu’r llall yn 25 oed neu hŷn.

Am gael amcangyfrif o faint o Gredyd Cynhwysol gewch chi? Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau.Yn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Elfennau ychwanegol

Yn ychwanegol i’r lwfans safonol, fe allech gael lwfansau ychwanegol.  Mae'r rhain yn cynnwys:

  • elfen plentyn
  • elfen costau gofal plentyn
  • elfen gallu cyfyngedig i weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith (LCWRA)
  • elfen gallu cyfyngedig i weithio ac elfen gwaith (dim ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o hawlwyr newydd ar ôl 3 Ebrill 2017)
  • elfen gofalwr
  • elfen costau tai.

Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth

Mae gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth yn gyfrinachol ac am ddim. Gallant eich helpu i:

  • wirio a oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol
  • cael eich gwaith papur a’ch dogfennau pwysig at ei gilydd i gyflymu’ch cais
  • llenwi eich cais ar-lein.

Cymru a Lloegr

Am fwy o fanylion, ac i ddod o hyd i'ch cangen agosaf ewch i Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd

 

Neu yng Nghymru, ffoniwch 0800 024 1220 a Lloegr, ffoniwch 0800 144 8444

 

Yr Alban

Ymwelwch â Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0800 023 2581

 

Gogledd Iwerddon

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio yn wahanol. Darganfyddwch fwy ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Elfen plentyn

Ydych chi’n gofalu am blentyn dan 16 oed, neu unigolyn ifanc cymwys dan 20 oed?  Yna rydych yn gymwys am yr elfen plentyn.

Darganfyddwch fwy am y meini prawf ar gyfer person ifanc cymwys ar Turn2usYn agor mewn ffenestr newydd

Yn 2023/24, mae’r elfen plentyn yn rhoi’r hawl i chi gael:

  • £315 y mis ar gyfer y plentyn cyntaf neu unig blentyn a aned cyn 6 Ebrill 2017
  • £269 y mis ar gyfer plentyn dan bob sefyllfa arall.

Gallwch ond hawlio’r elfen plentyn am uchafswm o dau o blant.  Mae hyn oni bai bod eithriad yn berthnasol, fel genedigaethau lluosog, neu os ydych wedi mabwysiadu plentyn.

Os oes gan eich plentyn gyflwr iechyd hirdymor neu os yw’n anabl, fe allech fod yn gymwys i hawlio un o’r elfennau plentyn anabl canlynol:

  • £146.31 y mis fesul plentyn neu unigolyn ifanc cymwys sy’n cael Lwfans Byw I’r Anabl (DLA) neu Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) ar hyn o bryd.
  • £456.89 y mis fesul plentyn neu unigolyn ifanc cymwys os yw’n cael y gyfradd uchaf o’r elfen gofal o’r Lwfans Byw i’r Anabl, cyfradd uwch o’r Taliad Annibyniaeth Personol ar gyfer bywyd beunyddiol neu os yw wedi’i gofrestru fel rhywun dall.

Elfen costau gofal plant

Os ydych yn gweithio, gallwch gael hyd at 85% o’ch costau gofal plant wedi’i dalu. Yn 2023/24, mae hyn hyd at uchafswm o £646.35 y mis am un plentyn, neu £1,108.04 y mis am ddau blentyn neu fwy. Disgwylir i’r cyfraddau hyn gynyddu i £951 ar gyfer un plentyn a £1,630 ar gyfer dau blentyn o 29 Mehefin 2023.

Rhaid i’r ddau ohonoch fod yn gweithio os ydych yn hawlio fel cwpl. Mae hyn oni bai bod y partner nad yw’n gweithio:

  • gyda gallu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd yn gysylltiedig â gwaith (LCWRA)
  • yn ofalwr i rywun sydd ag anabledd difrifol
  • yn absennol dros dro -  er enghraifft mewn carchar, ysbyty neu mewn gofal preswyl.

Os oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol, ni allwch gael taliadau gofal plant di-dreth.

Darganfyddwch fwy am ofal plant di-dreth yn ein canllaw Opsiynau gofal plant

Help gyda chostau byw

Poeni am arian oherwydd rhenti cynyddol, biliau ynni uchel neu ddyled? Os felly, rydym yma i helpu.

Cymerwch y camau cyntaf i ddod o hyd i’ch ffordd ymlaen gyda’n canllawiau i’ch helpu gyda chostau byw.

Gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd yn gysylltiedig â gwaith

Fe gewch £390.06 y mis (2023/24) os byddwch chi’n bodloni’r Asesiad Gallu i Weithio (WCA) a bod gennych chi allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd yn gysylltiedig â gwaith (LCWRA).

Os ydych yn gwneud cais ar y cyd, dim ond un ohonoch yn unig sydd angen bod â LCWRA i gael yr elfen hon.

Ni chewch hwn os ydych yn ennill mwy na’r hyn sy’n cyfateb i 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.  Mae hyn oni bai eich bod yn cael y Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) hefyd neu’r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), y Taliad Anabledd Oedolion (ADP) yn yr Alban.

Elfen gallu cyfyngedig i weithio

Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw’r elfen gallu cyfyngedig i weithio ar gael os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar ôl 3 Ebrill 2017.

Fe gewch £146.31 (2023/24) y mis os oes gennych chi’r elfen gallu cyfyngedig i weithio yn dilyn yr Asesiad Gallu i Weithio.

Elfen gofalwr

Os ydych yn gofalu am unigolyn sy’n ddifrifol anabl am 35 awr yr wythnos o leiaf, fe gewch £168.81 y mis.

Os ydych yn gwneud cais ar y cyd, gall y ddau ohonoch gael yr elfen gofalwr.  Ond ni allwch fod yn gofalu am yr un unigolyn.

Nid ydych yn gymwys am yr elfen gofalwr os ydych wedi ennill cyflog o’ch cyfrifoldebau gofalu.

Os ydych yn gwneud cais fel unigolyn sengl, yna un elfen gofalwr a gewch yn unig.  Mae hyn hyd yn oed os ydych yn gofalu am fwy nag un unigolyn anabl.

Os oes mwy nag un unigolyn yn gofalu am yr un unigolyn, yna bydd angen i chi benderfynu pwy fydd yn cael yr elfen gofalwr.

Elfen costau tai

Mae’r elfen costau tai yn eich helpu i dalu am y cyfan - neu ran - o’ch rhent a rhai costau gwasanaeth.

Bydd faint a gewch yn ddibynnol ar ble ydych chi’n byw ac a ydych chi’n denant preifat neu gymdeithasol.

Tenantiaid preifat

Mae’r elfen costau tai ar gyfer tenantiaid preifat yn seiliedig ar y Lwfans Tai Lleol (LHA) lle rydych chi’n byw.

Cyfrifir yr LHA yn ôl prisiau rhentu cyfartalog eich ardal ar gyfer y nifer o ystafelloedd sydd eu hangen arnoch.

Er enghraifft, bydd LHA hawlydd sengl heb blant yn seiliedig ar gost gyfartalog rhentu fflat ag un ystafell wely yn yr ardal honno.  Os ydych o dan 35 heb blant, bydd eich LHA fel arfer yn seiliedig ar rentu ystafell yn fflat neu dŷ a rennir. 

Golyga hyn efallai na fydd eich elfen costau tai yn ddigon i dalu’r cyfan o’ch rhent.

Tenantiaid tai cymdeithasol

Os ydych yn denant tai cymdeithasol, mae’r elfen costau tai yn seiliedig ar eich rhent cymwys.

Mae’r rhent cymwys yn ystyried y nifer o ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch. Caniateir un ystafell wely i chi am:

  • bob cwpl oedolyn
  • pob unigolyn sy’n hŷn nag 16 oed
  • dau blentyn dan 16 oed o’r un rhyw
  • dau blentyn dan 10 oed waeth beth yw eu rhyw
  • unrhyw blentyn arall
  • gofalwr dros nos nad yw’n byw gyda chi fel arfer.

Os oes gennych chi fwy o ystafelloedd gwely nag sydd eu hangen arnoch mewn gwirionedd, bydd eich rhent cymwys yn cael ei leihau:

  • 14% ar gyfer un ystafell wely ychwanegol
  • 25% ar gyfer dwy neu ragor o ystafelloedd gwely ychwanegol.

Ni fydd y gostyngiad hwn yn effeithio arnoch os ydych yn:

  • ofalwyr maeth
  • yn rhieni rhywun sydd yn y lluoedd arfog neu yn fyfyriwr amser llawn
  • yn rhiant plentyn sydd ag anabledd difrifol.

Darganfyddwch gymorth ariannol arall

Defnyddiwch declyn Lightning Reach i wirio a allwch wneud cais am grantiau neu gymorth ariannol ychwanegol os ydych yn byw ar incwm isel. Mewn 15 munud yn unig allwch ddarganfod sut i wneud cais am gyllid gan elusennau, eich cyngor lleol a sefydliadau eraill.

Crëwch eich proffil Lightning ReachYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Faint o Gredyd Cynhwysol a gaf os wyf yn gweithio?

Gallwch weithio cymaint o oriau ag y mynnwch pan fyddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol ond gallai hyn effeithio ar faint gewch chi.

Mae hyn yn dibynnu a ydych yn gymwys ai peidio i gael lwfans gwaith. Dyma’r swm y gallwch ei ennill cyn i’ch taliad Credyd Cynhwysol gael ei effeithio.

Efallai y byddwch yn gymwys am lwfans gwaith:

  • os ydych mewn swydd gyflogedig ac yn gyfrifol am blentyn dibynnol,
  • os na allwch chi weithio cymaint â’r arfer oherwydd salwch neu anabledd.

Mae lwfansau gwaith misol (2023/24) wedi eu gosod ar:

  • £379 os yw’ch Credyd Cynhwysol yn cynnwys cymorth tai
  • £631 os nad ydych yn derbyn cymorth tai.

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau 55c o am bob £1 y byddwch yn ei hennill uwchben y lwfans gwaith.

Os na fyddwch yn cael y lwfans gwaith, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau 55c am bob £1 ar eich holl enillion.

Darganfyddwch fwy am incwm a Chredyd Cynhwysol ar entitledtoYn agor mewn ffenestr newydd

Incwm nad yw’n gysylltiedig â gwaith a Chredyd Cynhwysol

Incwm nad yw’n gysylltiedig â gwaith yw unrhyw arian a gewch, nad yw’n deillio o waith neu fudd-daliadau – er enghraifft,pensiwn.

Am bob £1 a gewch fel incwm nad yw’n gysylltiedig â gwaith, ceir gostyngiad o £1 yn eich taliad Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am yr hyn sy’n cyfri fel incwm nad yw’n gysylltiedig â gwaith ar  entitledtoYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Cynilion a Chredyd Cynhwysol

Oes gennych chi neu’ch partner gynilion dros £6,000 (£10,000 os ydych yn hŷn na’r oed pensiwn y wladwriaeth)?  Yna bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn dechrau lleihau.

Os oes gennych chi neu’ch partner fwy na £16,000 mewn cynilion, ni fyddwch yn gymwys am Gredyd Cynhwysol o gwbl.

Darganfyddwch fwy am sut all cynilion effeithio ar daliadau budd-dal yn ein canllaw Sut mae cynilion a thaliadau cyfandaliadau yn effeithio ar fudd-daliadau?

Cynilion a Symud i Gredyd Cynhwysol

O fis Ebrill 2023, os ydych yn cael credydau treth yn unig, efallai bydd DWP yn gofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel rhan o’i raglen Symud i Gredyd Cynhwysol i symud pawb sydd ar fudd-daliadau etifeddol i Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn symud draw i Gredyd Cynhwysol o gredydau treth drwy Symud i Gredyd Cynhwysol, ni fydd unrhyw gynilion dros £16,000 yn effeithio ar eich cymhwysedd i Gredyd Cynhwysol am 12 cyfnod asesu (tua 12 mis).

Ar ôl hynny, bydd y rheolau cynilion Credyd Cynhwysol arferol yn berthnasol.

Defnyddiwch Gymorth i Gynilo i gael hwb ariannol

Os ydych ar Gredyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn gymwys i agor cyfrif Cymorth i Gynilo. Mae'r cyfrifon hyn yn cynnig bonws y llywodraeth o 50% o'r hyn rydych chi'n ei dalu i mewn.

Darganfyddwch fwy am a ydych yn gymwys a sut i wneud cais ar ein tudalen sy’n esbonio  Cymorth i Gynilo.

Nol i’r brig

Dyledion a didyniadau sy’n cael eu cymryd o’ch taliad Credyd Cynhwysol

Os oes gennych ddyledion penodol, neu ordaliadau budd-daliadau, yna gellir tynnu’r rhain o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Gallwch weld beth sy’n cael ei ddidynnu ar eich datganiad Credyd Cynhwysol drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Mae’r pethau a allai gael eu tynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys:

  • gordaliad Credyd Cynhwysol
  • gordaliad budd-dal arall (fel credyd treth)
  • taliad caledi adenilladwy
  • ad-daliad Benthyciad Trefnu
  • hyd at dri (ar y tro) didyniadau trydydd parti ar gyfer dyledion (gweler isod).
Darganfyddwch fwy am arian y gellid ei gymryd o’ch Credyd Cynhwysol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Beth yw didyniadau dyled trydydd parti?

Didyniadau trydydd parti yw pan fydd arian yn cael ei dynnu oddi ar eich Credyd Cynhwysol i dalu’ch dyledion am bethau gan gynnwys:

  • cyfleustodau, fel trydan, nwy a dŵr
  • Treth Cyngor
  • cynhaliaeth plant
  • rhent
  • taliadau gwasanaeth
  • dirwyon llys.

Dim ond tri didyniad trydydd parti y gellir eu cymryd ar unrhyw un adeg. Byddwch yn derbyn neges yn eich dyddlyfr Credyd Cynhwysol ar-lein pan fydd didyniad trydydd parti yn dechrau.

Nid yw'r mwyaf a gymerir ar y tro fel arfer yn fwy na 25% (30% mewn rhai amgylchiadau prin) o'ch lwfans safonol. Darganfyddwch fwy ar GOV.UK (Agor mewn ffenestr newydd)

Ydych chi wedi methu taliad?

Defnyddiwch ein Teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion diduedd ac am ddim ar-lein, dros y ffon neu yn agos at le rydych yn byw.

Nol i’r brig

Budd-daliadau eraill a Chredyd Cynhwysol

Mae yna ystod o fudd-daliadau eraill y gallwch eu hawlio ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol. Mae’r rhain yn cynnwys Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd, Lwfans Gofalwr a Lwfans Mamolaeth.

Am bob £1 a gewch fel incwm o’r rhain a rhai budd-daliadau eraill, ceir gostyngiad o £1 yn eich taliad Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am ba fudd-daliadau eraill sy’n effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol ar entitledtoYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Os cymerwch allan Daliad Ymlaen Llaw o Gredyd Cynhwysol

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf, gallwch ofyn am hyd at daliad mis llawn fel daliad ymlaen llaw. Bydd yn rhaid ad-dalu’r swm hwn dros y 12 mis dilynol.

Didynnir yr ad-daliadau hyn o’ch taliadau Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am Daliadau Ymlaen Llaw o Gredyd Cynhwysol yn ein canllaw Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall

Os yw'r didyniadau'n achosi caledi ariannol, efallai y gallwch eu gohirio neu eu lleihau. Ond, mae bob amser gwerth ei wneud, yn y lle cyntaf, siarad â'ch Anogwr Gwaith. Darganfyddwch pa help sydd ar gael yn ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth gwneud taliadau i DWP neu CThEM.

Nol i’r brig

Credyd Cynhwysol a’r cap ar fudd-daliadau

Mae’r cap ar fudd-daliadau yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol. Mae’n cyfyngu ar yr uchafswm allwch chi ei gael mewn budd-daliadau i (2023/24):

  • £2,110.25 y mis i gyplau a rhieni sengl os ydych chi’n byw yn Llundain
  • £1,835 y mis i gyplau a rhieni sengl y tu allan i Lundain
  • £1,413.91 y mis i unigolyn sengl heb blant yn Llundain
  • £1,229.41 y mis i unigolyn sengl heb blant y tu allan i Lundain.

Ni fydd y cap ar fudd-daliadau yn berthnasol i rai pob. Er enghraiffft, os ydych yn gweithio neu os oes gennych chi anabledd.

Darganfyddwch fwy am ba bryd mae’r cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch a phwy sy’n cael eu heithrio, yn ein canllaw Y cap ar fudd-daliadau
Nol i’r brig

Sut mae sancsiynau yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol?

Os ydych yn methu â bodloni’r cyfrifoldebau yn eich ymrwymiad hawlydd, fe gewch eich sancsiynu.  Mae hyn yn golygu bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei dorri.

Mae faint mae hyn yn lleihau eich taliad ac am ba hyd yn dibynnu ar y rheswm dros y sancsiwn ac a ydych wedi cael eich sancsiynu o’r blaen.

Darganfyddwch fwy am sancsiynau yn ein canllaw Sancsiynau budd-daliadau a sut i ddelio â nhw
Nol i’r brig

Cyfrifiannell Credyd Cynhwysol

Mae’n anodd rhoi ffigwr pendant o ran faint o Gredyd Cynhwysol gewch chi cyn i chi wneud cais gan fod y swm yn dibynnu ar eich bywyd teuluol a phethau eraill, fel a ydych yn gweithio. 

Gall ein Cyfrifiannell Budd-daliadau eich helpu i gael ffigur mwy cywir am faint y gallech ei hawlio. Mae ond yn cymryd ychydig o funudau i'w llenwi.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Credyd Cynhwysol

Credyd Cynhwysol

  • Taliadau Credyd Cynhwysol ar y cyd i gyplau
  • Faint yw Credyd Cynhwysol?
  • Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
  • Credyd Cynhwysol os ydych yn byw yn yr Alban
  • Cap ar fudd-daliadau
  • Beth yw'r dreth ystafell wely?
  • Egluro Credyd Cynhwysol
  • Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf?
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • A ddylwn i newid i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau etifeddol felcredydau treth neu fudd-dal tai?
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Credyd Cynhwysol

  • Taliadau Credyd Cynhwysol ar y cyd i gyplau
  • Faint yw Credyd Cynhwysol?
  • Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
  • Credyd Cynhwysol os ydych yn byw yn yr Alban
  • Cap ar fudd-daliadau
  • Beth yw'r dreth ystafell wely?
  • Egluro Credyd Cynhwysol
  • Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf?
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • A ddylwn i newid i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau etifeddol felcredydau treth neu fudd-dal tai?
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2024 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AP. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni'n fyw i gael arweiniad pensiynau gan ddefnyddio'r ffôn
  • O dramor +44 207 932 5780
  • Hunangyflogedig 0345 602 7021
Oriau
  • Llun–Gwener9am-5pm
  • Sat-Sun

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg 0800 138 7777*
  • Typetalk 18001 0800 915 4622*
  • O dramor +44203 553 2279
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sat, Sun andWedi cau

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Talk to us live about pensions guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Talk to us live about money guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Download app: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau