Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Gofal tymor hir
Teulu a gofal Gofal tymor hir

Profion modd i gael cymorth gyda chostau gofal – sut maent yn gweithio

Hyd yn oed os ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar hyd eich oes, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi gyfrannu rhywbeth at gost eich gofal hirdymor. Darganfyddwch sut y cyfrifir y costau ac a fydd angen i chi dalu.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Gweithio allan pwy sy’n mynd i dalu am ofal hirdymor
  • Sut mae prawf modd yn gweithio
  • Os ydych yn berchennog cartref
  • Profion modd ar gyfer gwahanol fathau o ofal
  • A oes rhaid i mi gyfrannu at gostau gofal fy mhartner?
  • Cael gwared ar asedau i osgoi talu am ofal

Gweithio allan pwy sy’n mynd i dalu am ofal hirdymor

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn mynd tuag at bethau fel eich Pensiwn y Wladwriaeth ond nid ydynt yn cyfrif tuag at gostau gofal cymdeithasol.

Rheolir y math hwn o ofal gan eich cyngor lleol. Felly mae’n rhaid i chi wneud cais iddynt os byddwch angen help i dalu am ofal hirdymor.

Bydd eich cyngor lleol (neu’ch ‘Health and Social Care Trust’ yng Ngogledd Iwerddon) yn cynnal asesiad o anghenion gofal yn gyntaf er mwyn canfod pa gymorth sydd ei angen arnoch.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae asesiad cyngor lleol o anghenion gofal yn gweithio

Y cam nesaf yw gweithio allan pwy sy’n mynd i dalu. Gallai’ch cyngor lleol dalu am y cyfan, am rywfaint neu ddim o gwbl.

Penderfynir ar eich cyfraniad at gost eich gofal ar ôl asesiad ariannol. Gelwir hyn yn brawf modd.

If you want to know more about your options in England, you can get personalised information from the Care Confidence toolOpens in a new window The tool can help you feel better prepared to make the best decision for you or your loved one. It’s free, anonymous and only takes a few minutes to complete.
Nol i’r brig

Sut mae prawf modd yn gweithio

Mae prawf modd yn edrych ar:

  • Eich incwm rheolaidd – fel pensiynau, budd-daliadau neu enillion. Fel rheol bydd disgwyl i chi ddefnyddio rhan o’ch incwm i helpu i dalu am y gofal. Er y bydd rhywfaint o incwm yn cael ei ddiystyru, fel eich enillion o unrhyw waith â thâl a wnewch.
  • Eich cyfalaf – fel cynilion arian a buddsoddiadau, tir ac eiddo (gan gynnwys eiddo tramor), ac asedau busnes. Os yw’ch cyfalaf yn uwch na throthwy penodol, bydd yn rhaid i chi dalu costau llawn eich gofal eich hun. Os yw eich cyfalaf yn is na’r trothwy hwnnw ond yn uwch na therfyn is, caiff ei ystyried trwy dybio ei fod yn cynhyrchu incwm (a elwir yn ‘incwm tariff’) ar gyfradd benodol. Anwybyddir unrhyw incwm o’r cyfalaf.
Nol i’r brig

Os ydych yn berchennog cartref

Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun ac yn dal i fyw yno, nid yw ei werth wedi'i gynnwys yn y prawf modd.

Os byddwch yn symud yn barhaol i gartref gofal, gallai gwerth cartref rydych chi'n berchen arno - neu'ch cyfran ohono os ydych chi'n berchen arno ar y cyd - gael ei gyfrif fel cyfalaf ar ôl 12 wythnos.

Fodd bynnag, ni fydd eich cartref yn cyfrif fel cyfalaf os yw rhai pobl yn dal i fyw yno. Maent yn cynnwys:

  • eich gŵr, gwraig, partner neu bartner sifil
  • perthynas agos sy’n 60 neu drosodd, neu sy’n analluog
  • perthynas agos dan 16 oed rydych yn gyfreithiol atebol i’w gynnal
  • eich cyn ŵr, cyn wraig, cyn bartner sifil neu cyn bartner os ydynt yn riant unigol

Efallai bydd eich cyngor lleol neu’ch ymddiriedolaeth leol yn dewis peidio â chyfrif eich cartref yn gyfalaf mewn amgylchiadau eraill. Er enghraifft os yw’ch gofalwr blaenorol yn byw yno a’u bod wedi rhoi eu cartref i fyny i ofalu amdanoch.

Os yw’ch cartref yn cyfrif fel cyfalaf, gallwch ddewis gwneud cytundeb taliad gohiriedig gyda’r cyngor lleol, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwyso. Mae hyn yn golygu yn lle talu’ch cyfran chi o’r costau gofal ar unwaith, mae’r cyngor lleol i bob pwrpas yn benthyca’r arian i chi ac mae’r ddyled yn cael ei had-dalu pan fydd eich cartref yn cael ei werthu yn y pen draw.

Yng Ngogledd Iwerddon nid oes system ffurfiol o gytundebau taliad gohiriedig, er gall y 'Health and Social Care Trust' lleol hwyluso y fath yma o drefniant.

Os ydych yn penderfynu gosod eich eiddo, yna ystyrir ei werth fel cyfalaf. At ddibenion y prawf modd, anwybyddir yr incwm rhent. Fodd bynnag, gallech ddewis i dalu incwm i’r cyngor lleol i leihau eich dyled os ydych yn cymryd rhan mewn cytundeb taliad gohiriedig.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cytundebau taliad gohiriedig ar gyfer pobl sydd yn berchen ar eu cartrefi ac sydd yn symud i mewn i gartref gofal
Nol i’r brig

Profion modd ar gyfer gwahanol fathau o ofal

Prawf modd cartref gofal

Os ydych yn symud i gartref gofal a bod gennych fwy na’r symiau a nodir yng ngholofn canol y tabl isod, bydd yn rhaid i chi dalu holl ffioedd y cartref gofal fel arfer.

Os yw eich cyfalaf ddim mwy na’r swm a nodi’r yn y golofn olaf, bydd eich cyfalaf yn cael ei ddiystyru.

Mae’r trothwyon hyn yn cynnwys gwerth eich eiddo oni bai bod eich partner neu ddibynnydd arall yn dal i fyw yno.

Rhwng y ddau drothwy, cymerir bod eich cyfalaf yn cynhyrchu ‘incwm tariff’. Tybir bod swm yr incwm tariff yn £1 yr wythnos am bob £250 o gyfalaf sydd gennych uwchlaw’r trothwy is.

Er enghraifft, os byddech yn byw yn yr Alban a bod gennych gyfalaf o £25,100. Diystyrir y £18,500 cyntaf o’ch cyfalaf. Rhennir y £6,600 sy’n weddill yn ddarnau £250 (gan drin yr od £100 fel talp cyflawn). Byddai 27 talp, felly byddech yn cael eich trin fel pe baech yn derbyn £27 yr wythnos o’ch cyfalaf.

Anwybyddir unrhyw incwm o’ch cyfalaf. Ond mae’r incwm tariff yn cael ei ychwanegu at eich incwm cyn gweithio allan faint sy’n rhaid i chi ei gyfrannu.

Os yw’r prawf modd yn datgelu y dylai’r cyngor lleol dalu am eich lle mewn cartref gofal, bydd yn rhaid i chi gyfrannu’r cyfan o’ch incwm (yn cynnwys yr incwm tariff) ac eithrio ychydig o arian y cewch ei gadw ar gyfer treuliau personol.

Prawf modd gofal yn y cartref

Os ydych yn derbyn gofal yn eich cartref eich hun, mae’r prawf modd yn gweithio fel ag uchod, ond gyda’r gwahaniaethau canlynol.

  • Ni ystyrir gwerth eich cartref wrth gyfrifo faint mae’n rhaid i chi ei dalu.
  • Rydych yn cael cadw swm llawer uwch o incwm fel bod gennych ddigon o hyd i dalu’ch biliau ac i fyw arno.

Dylai pob cyngor lleol gyhoeddi ei bolisi codi tâl, sut maent yn gweithio allan faint i’w godi a faint o isafswm incwm y cewch ei gadw er eich dibenion eich hun, a sicrhau ei fod ar gael.

Mae yna hefyd rai gwahaniaethau cenedlaethol. Yng Nghymru er enghraifft, mae cap ar yr uchafswm y bydd yn rhaid i chi ei dalu. Tra yn yr Alban, mae gwasanaethau gofal am ddim hyd at derfyn penodol.

Rhanbarth Trothwy cynilion uchaf ar gyfer unrhyw gyllid cyngor lleol yn 2023/24 Trothwy cynilion is ar gyfer unrhyw gyllid cyngor lleol yn 2023/24

Lloegr

£23,250

£14,250

Cymru

£24,000 (gofal yn y cartref) neu £50,000 (gofal mewn cartref gofal)

£24,000 gofal yn y cartref) neu £50,000 (gofal mewn cartref gofal)

Yr Alban

£29,750

£18,500

Gogledd Iwerddon

£23,250

£14,250

 

Newidiadau i gap gofal cymdeithasol yn Lloegr o fis Hydref 2025

Cyhoeddodd y llywodraeth gap newydd o £86,000 ar y swm y dylech orfod ei dalu am ofal cymdeithasol o fis Hydref 2025. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ydw i'n gymwys i gael cyllid cyngor lleol ar gyfer costau gofal? 

Nol i’r brig

A oes rhaid i mi gyfrannu at gostau gofal fy mhartner?

Os oes angen gofal ar eich partner, ni ddylid ystyried unrhyw gynilion neu asedau sy’n eiddo i chi yn unig.

Fodd bynnag, os ydych yn dal y cynilion neu’r asedau ar y cyd â’ch partner - er enghraifft arian parod mewn cyfrif cynilo ar y cyd - bydd eu cyfran yn cael ei hystyried yn y prawf modd.

Bydd cynghorau lleol yn eich trin chi a’ch partner fel un sydd â rhan gyfartal yn y cynilion neu’r asedau oni bai eich bod yn gallu dangos eich bod chi’n berchen ar fwy neu lai na hanner.

Efallai y cewch eich temtio i aildrefnu pa un ohonoch sy’n berchen ar y cynilion neu’r asedau neu i wario peth o’ch cynilion.  Bydd hyn yn dod â hwy o dan y trothwyon a ddangosir yn y tabl ac felly cael mwy o arian gan eich cyngor lleol.

Byddwch yn ofalus o wneud hyn. Mae’r rheolau ‘amddifadedd asedau’ yn golygu y gellir trin y person sydd angen gofal fel un sy’n dal i fod yn berchen ar gyfalaf y maent wedi’i roi neu ei wario pe bai’r cymhelliad i leihau eu cyfraniad tuag at eu costau gofal.

Er enghraifft, pe bai’r unigolyn sydd angen gofal yn trosglwyddo rhywfaint o gynilion o’u henw hwy yn unig i gyfrif ar y cyd â chi, byddent yn rhoi rhodd o hanner y cynilion i chi. Ond gallai’r cyngor lleol eu trin fel bod yn dal i fod yn berchen ar yr holl gynilion.

Nol i’r brig

Cael gwared ar asedau i osgoi talu am ofal

Weithiau, mae rhywun yn trosglwyddo buddsoddiadau neu weithredoedd eiddo’n fwriadol i rywun arall, fel aelod o’r teulu. Mae hyn er mwyn bod islaw’r trothwy ac osgoi talu cost lawn eu gofal. Yr enw ar hyn yw amddifadu asedau.

Nid yw gwneud hyn yn golygu o reidrwydd y bydd yr asedau hynny’n cael eu diystyru mewn prawf modd. Mae’r cyngor lleol yn debygol o’ch trin chi fel rhywun sydd yn berchen ar yr asedau o hyd. Gelwir hyn yn ‘gyfalaf tybiannol’.  Ac ni fyddech yn gymwys i gael cymorth hyd nes y byddwch wedi talu digon o gostau gofal i wagio eich cyfalaf tybiannol hyd at y terfyn prawf modd.

Os oes gennych gynilion a chyfalaf a’ch bod yn dymuno cyfrifo’r ffordd orau o dalu am ofal, dylech gael cyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol.

Gweler ein canllaw ar ddod o hyd i’r ymgynghorydd cywir i chi

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael cyngor ariannol ar sut i ariannu eich gofal hirdymor

Mae gan Age UK rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol am amddifadu asedau a'r prawf modd, yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU:

  • Yng Nghymru
  • Yn Lloegr

Os ydych yn byw yn Yr Alban, darganfyddwch wybodaeth ar wefan Care Information Scotland

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan AgeUK NI

Ffactorau eraill sy’n effeithio ar faint rydych yn ei dalu am ofal

Mae cost gofal yn amrywio llawer ledled y DU. Mae’r gost fel arfer yn uwch lle mae costau cyflogaeth ac eiddo yn ddrytach.

Gellir rhannu costau byw mewn gofal preswyl i:

  • eich costau gofal, a
  • costau’r gwesty - yn cynnwys y gost o lety a bwyd.

Darganfyddwch sut mae’ch cyngor lleol yn codi tâl am wasanaethau gofal.

Dewch o hyd i’ch cyngor lleol:

  • yng Nghymru a Lloegr ar wefan GOV.UK
  • yn yr Alban, ar wefan mygov.scot

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch eich ‘Health and Social Care Trust’ ar wefan nidirect

Gall pa gartref gofal a ddewiswch hefyd effeithio ar faint rydych yn ei dalu.

Gallwch ddewis un ddrytach nag y mae’r cyngor lleol yn barod i dalu amdano. Ond fel arfer bydd yn rhaid i’ch teulu (neu weithiau chi) dalu’r gwahaniaeth.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Gofal tymor hir

Cyllid y llywodraeth ar gyfer gofal

  • Gwasanaethau gofal i’ch helpu i aros yn eich cartref eich hun
  • Ydw i’n gymwys am gyllid gofal iechyd parhaus y GIG?
  • Taliadau uniongyrchol - trefnu a thalu am eich gofal
  • Sut mae asesiad awdurdod lleol o anghenion gofal yn gweithio
  • Profion modd i gael cymorth gyda chostau gofal – sut maent yn gweithio
  • Gofal nyrsio a ariennir gan y GIG
  • A ydw i'n gymwys i gael cyllid cyngor lleol (awdurdod lleol) ar gyfer costau gofal?
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Cyllid y llywodraeth ar gyfer gofal

  • Gwasanaethau gofal i’ch helpu i aros yn eich cartref eich hun
  • Ydw i’n gymwys am gyllid gofal iechyd parhaus y GIG?
  • Taliadau uniongyrchol - trefnu a thalu am eich gofal
  • Sut mae asesiad awdurdod lleol o anghenion gofal yn gweithio
  • Profion modd i gael cymorth gyda chostau gofal – sut maent yn gweithio
  • Gofal nyrsio a ariennir gan y GIG
  • A ydw i'n gymwys i gael cyllid cyngor lleol (awdurdod lleol) ar gyfer costau gofal?
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2024 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AP. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni'n fyw i gael arweiniad pensiynau gan ddefnyddio'r ffôn
  • O dramor +44 207 932 5780
  • Hunangyflogedig 0345 602 7021
Oriau
  • Llun–Gwener9am-5pm
  • Sat-Sun

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg 0800 138 7777*
  • Typetalk 18001 0800 915 4622*
  • O dramor +44203 553 2279
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sat, Sun andWedi cau

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Talk to us live about pensions guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Talk to us live about money guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Download app: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau