Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Gofal tymor hir
Teulu a gofal Gofal tymor hir

Cytundebau taliad gohiriedig ar gyfer pobl sy’n berchen ar eu cartref ac sy’n symud i mewn i gartref gofal

Os ydych yn symud i gartref gofal a bod y rhan fwyaf o’ch arian ynghlwm â’ch cartref, efallai y bydd eich awdurdod lleol yn cynnig cytundeb talu gohiriedig i chi.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Egluro cytundebau taliad gohiriedig
  • Pryd allech ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
  • A ydw i’n gymwys i ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
  • A oes unrhyw ffioedd gyda chytundeb taliad gohiriedig?
  • Beth yw’r manteision o ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
  • Beth yw’r anfanteision o ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
  • Gosod eich cartref i’w rentu os ydych yn cytuno i gytundeb taliad gohiriedig
  • Pethau eraill i’w hystyried gyda chytundeb taliad gohiriedig
  • Y Lwfans Incwm Gwario
  • Cael cyngor ariannol am dalu am ofal hirdymor

Egluro cytundebau taliad gohiriedig

Awgrym da

Mae cytundeb talu gohiriedig yn gweithio mewn ffordd debyg i gynllun rhyddhau ecwiti gan ddarparwr masnachol. Efallai yr hoffech gymharu’r rhain i weld pa rai sy’n addas i chi.

Mae cytundeb talu gohiriedig yn drefniant â’r cyngor lleol sy’n caniatáu i bobl ddefnyddio gwerth eu cartrefi i helpu i dalu costau cartref gofal.

Os ydych yn gymwys, bydd eich cyngor lleol yn helpu i dalu biliau eich cartref gofal ar eich rhan. Gallwch oedi eu had-dalu’n ôl nes i chi ddewis gwerthu’ch cartref, neu tan ar ôl eich marwolaeth.

Byddwch yn llofnodi cytundeb cyfreithiol, gan nodi y bydd yr arian yn cael ei ad-dalu pan werthir eich cartref.

Fel arfer mae’r cyngor yn sicrhau bod yr arian sy’n ddyledus gennych mewn ffioedd gofal yn cael eu had-dalu trwy roi arwystl cyfreithiol ar eich eiddo. Mae’n gwneud hyn trwy gysylltu â’r Gofrestrfa Dir i osod yr arwystl. Mae’r arwystl yn cael ei ddiddymu pan fydd y ddyled wedi ei had-dalu.

Fel arfer ni allwch ddefnyddio mwy na 70%-80% o werth eich cartref i dalu am ffioedd.

Mae hyn er mwyn gadael digon o arian i chi, neu ysgutor eich ewyllys, i dalu am unrhyw daliadau llog a gweinyddu, a chost gwerthu’r eiddo. Mae hefyd yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cael eu harian yn ôl hyd yn oed os yw prisiau tai yn gostwng.

Pan fydd 70% o werth eich cartref yn cael ei ohirio, dylai'r awdurdod lleol adolygu cost eich gofal gan gynnwys ai cytundeb talu gohiriedig yw'r ffordd orau o hyd i dalu'ch costau gofal.

Ni ddylai cytundeb talu gohiriedig gymryd mwy na 12 wythnos i’w sefydlu. Felly dylai’r cytundeb fod yn barod erbyn i chi ddechrau cyfrannu at y ffioedd. Pwrpas y cytundeb talu gohiriedig yw osgoi bod perchennog tŷ yn gorfod gwerthu ei eiddo lle caiff ei gynnwys yn yr asesiad ariannol.

Nid yw’r cynllun hwn yn berthnasol i gyfnodau byr mewn cartref gofal.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hunangyllido’ch gofal hirdymor – eich dewisiadau

Mae cyllid gofal yn gweithio’n wahanol ledled y DU. Mae talu ffioedd cartrefi gofal yn gymhleth, ac mae’n dibynnu ar lawer o bethau sy’n unigryw i chi.

Am fwy o wybodaeth:

Yr Alban

  • Ffoniwch llinell gymorth Age Scotland am wybodaeth fwy manwl neu gyngor personol – ffoniwch 0800 12 44 222 (Dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm). Am fwy o fanylion cyswllt, ewch i wefan Age Scotland
  • Am amrywiaeth o daflenni gwybodaeth, ewch i wefan Age Scotland
  • Mae mwy o wybodaeth ar wefan Care Information Scotland

Cymru

  • Am arweiniad a gwasanaethau, ewch i wefan Llywodraeth Cymru
  • Gallwch hefyd ffonio Age Cymru ar 08000 223 444 (Dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm) neu ewch i wefan Age Cymru

Gogledd Iwerddon

  • Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes system daliadau gohiriedig ffurfiol. Ond gallai fod ar gael o hyd - gofynnwch i'ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol leol
  • Cysylltwch â’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Darganfyddwch eich ymddiriedolaeth leol ar wefan nidirect
  • Ffoniwch Age NI ar 0808 808 7575 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) neu ewch i wefan Age NI
Nol i’r brig

Pryd allech ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?

Y sefyllfa fwyaf cyffredin lle efallai yr hoffech ystyried cytundeb taliad gohiriedig yw pan fydd eich cynilion ac asedau eraill (ar wahân i’ch cartref) yn isel, ond mae gwerth eich cartref yn mynd â chi dros y trothwy ar gyfer talu rhan neu’r cyfan o’ch gofal cartref eich hun.

Mae cytundeb taliad gohiriedig yn golygu na fydd yn rhaid i chi werthu eich cartref yn ystod eich oes i dalu am gostau gofal.

Os yw’ch partner, plentyn dibynnol, perthynas dros 60 oed, neu rywun sy’n sâl neu’n anabl yn dal i fyw yn eich cartref, ni fydd yn cael ei gyfrif fel rhan o’ch asedau. Felly does dim rhaid i chi ddefnyddio’r cyfoeth sydd ynghlwm yn eich cartref i dalu am ofal, ac nid oes angen cytundeb taliad gohiriedig arnoch.

Ad-dalu’r cyngor lleol

Rhaid ad-dalu unrhyw arian sy’n ddyledus ar y cytundeb talu a ohiriwyd, gan gynnwys llog a chostau gweinyddu os byddwch yn gwerthu’ch cartref.

Os byddwch yn marw, ysgutor eich ewyllys fydd yn gyfrifol am ad-dalu’r swm sy’n ddyledus ar ba bynnag un o’r dyddiadau canlynol sydd gynharaf:

  • y dyddiad y caiff yr eiddo neu’r ased ei werthu neu ei waredu; neu
  • 90 diwrnod ar ôl dyddiad y farwolaeth.

Gall eich cyngor lleol roi cyfnod hirach i’r ysgutor ad-dalu’r swm os ceir anawsterau neu oedi wrth ad-dalu.

Dylai’ch ysgutor gysylltu â nhw os yw’n credu y bydd problem.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyllid awdurdod lleol am gostau gofal - a ydych yn gymwys?
Nol i’r brig

A ydw i’n gymwys i ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?

I gymryd rhan mewn cynllun taliad gohiriedig:

  • Dylech gael cynilion a chyfalaf sy’n werth llai na swm penodol, heb gynnwys gwerth eich cartref. Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon mae hyn yn £23,250. Yn yr Alban mae’n £18,500. Ac yng Nghymru mae’n £50,000.
  • Rhaid eich bod yn berchen ar eich cartref neu ased arall y gall y cyngor lleol ddefnyddio fel sicrwydd
  • Mae gwerth eich cartref yn cael ei ystyried wrth asesu’r hyn y dylech ei dalu am ffioedd eich cartref gofal. Er enghraifft, oherwydd ni fydd unrhyw bartner na dibynnydd yn byw yno.
  • Mi ddylech fod neu’n cynllunio i fod mewn cartref gofal yn hirdymor. Ni fyddwch yn gallu cymryd cytundeb taliad gohiriedig am gyfnodau dros dro mewn gofal
  • Byddai angen i chi gytuno â thelerau'r cytundeb talu gohiriedig 

Os ydych chi'n cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd, rhaid i'ch awdurdod lleol drafod yr opsiwn o gytundeb talu gohiriedig gyda chi. Rhaid i chi ofyn am gytundeb talu gohiriedig - ni ellir ei orfodi arnoch chi.

Os oes gennych forgais o hyd, gwiriwch y telerau ac amodau a siaradwch â’ch benthyciwr. Ni fydd rhai benthycwyr yn gadael i chi gymryd benthyciad arall wedi’i warantu ar y cartref.

Newidiadau i’r cap gofal cymdeithasol yn Lloegr o fis Hydref 2025

Cyhoeddodd y llywodraeth gap newydd o £86,000 ar y swm y dylech orfod ei dalu am ofal cymdeithasol o fis Hydref 2025.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw A wyf yn gymwys i gael cyllid cyngor lleol am gostau gofal?

Nol i’r brig

A oes unrhyw ffioedd gyda chytundeb taliad gohiriedig?

Gall yr cyngor lleol godi ffioedd gweinyddu arnoch i dalu costau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cost sefydlu’r cynllun - er enghraifft, ffioedd y Gofrestrfa Tir, cael eich cartref wedi’i brisio, ffioedd cyfreithiol, postio, ffôn ac argraffu
  • ffioedd unwaith ac am byth yn nes ymlaen - er enghraifft, os yw’r swm sy’n ddyledus gennych i’r cyngor lleol yn cyrraedd hanner gwerth eich cartref, bydd angen i’ch cartref gael ei ailbrisio’n rheolaidd. A bydd ffi brisio bob tro.

Rhaid i ffioedd cyngor lleol fod yn rhesymol a pheidio â bod yn fwy na’u costau nhw. Rhaid iddynt sicrhau bod rhestr o’r ffioedd hyn ar gael i’r cyhoedd.

Costau llog ar daliadau gohiriedig

Gallai’ch cyngor lleol, ond does dim rhaid iddynt, godi llog ar y taliadau gohiriedig i dalu am eu costau.

Yng Nghymru a Lloegr, gall y cyngor lleol osod y swm y mae’n ei godi. Ond ni all fod yn fwy na chyfradd safonol a gymeradwywyd gan y llywodraeth, yn gysylltiedig â ‘chyfradd gilt y farchnad’ ynghyd â 0.15%.

Nid yw’r gyfradd llog yn sefydlog - mae’n cael ei adolygu bob chwe mis ym mis Ionawr a mis Gorffennaf.

Yn yr Alban, nid oes unrhyw gostau llog tra bod gennych y cytundeb talu gohiriedig. Codir llog dim ond pan ddaw’r cytundeb i ben gan yr unigolyn neu o 56 diwrnod ar ôl eu marwolaeth. Yna dylid codi llog ar ‘gyfradd resymol’ a bennir gan y cyngor lleol.

Os nad yw’r arian yn cael ei ad-dalu’n brydlon ar ddiwedd y cytundeb, gallai’r cyngor lleol godi llog ychwanegol hyd nes bod y ddyled wedi’i thalu. Mae’n bosib hefyd y bydd ffioedd gweinyddu parhaus ar ben y llog.

Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes system daliadau gohiriedig ffurfiol. Ond gallai fod ar gael – gofynnwch i’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol lleol.

Darganfyddwch eich ymddiriedolaeth leol ar wefan nidirect

Nol i’r brig

Beth yw’r manteision o ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?

  • Bydd y cyngor lleol naill ai’n talu’r cartref gofal yn uniongyrchol neu’n rhoi benthyg yr arian i chi wneud y taliadau eich hun. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi ddod o hyd i’r arian ar unwaith.
  • Dim ond am yr amser rydych mewn gofal rydych yn cronni dyled yn erbyn gwerth eich cartref. Os yw’n debygol efallai mai dim ond am amser byr y bydd angen i chi ei dreulio mewn gofal, er enghraifft oherwydd bod eich cyflwr yn derfynol, gallai hwn fod yn opsiwn sy’n werth ei ystyried.
  • Efallai y bydd gwerth eich cartref yn parhau i gynyddu mewn gwerth, gan dalu tuag at eich costau gofal i bob pwrpas.
  • Efallai y bydd yn bosibl rhentu eich eiddo a defnyddio’r rhent tuag at eich ffioedd.

Os oes gennych hawl i’r budd-daliadau hyn, gallwch barhau i’w hawlio:

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i’r Anabl (elfen gofal)
  • Taliad Annibyniaeth Personol (elfen bywyd bob dydd).

Ond gallwch hefyd barhau i’w cael os gwnaethoch dalu am eich gofal trwy werthu eich cartref neu ddefnyddio cynnyrch rhyddhau ecwiti.

Nol i’r brig

Beth yw’r anfanteision o ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?

  • Byddwch yn dal i orfod talu am gynnal a chadw eich cartref.
  • Efallai y bydd rhaid i chi ddal i dalu am wresogi a biliau goleuo fel nad yw’r tŷ yn edrych yn wag.
  • Bydd rhaid i chi ddal i dalu i yswirio eich cartref ac fe allai hyn fod yn broblem os nad oes neb yn byw yno.
  • Os oes gennych forgais ar yr eiddo o hyd, byddwch yn dal angen ei dalu.
  • Gall prisiau tai ostwng gan eich gadael gyda llai o arian i dalu’r ffioedd yn ôl.
  • Mae’n gallu bod yn anodd gweinyddu’r gwaith o osod eich eiddo.
  • Os oes gennych gynllun rhyddhau ecwiti yn barod, efallai na fyddwch yn gallu mynd i mewn i gynllun taliad gohiriedig.

Efallai yr hoffech hefyd gymharu defnyddio cytundeb talu gohiriedig gyda’r dewis arall, er enghraifft, gwerthu’ch cartref a rhoi’r enillion mewn cyfrif cynilo.

Yn dibynnu ble mae’ch cartref, gallai’r enillion o’i rentu amrywio rhwng 3% a 7% y flwyddyn.

O hyn, byddai angen i chi ddidynnu:

  • llog a’r ffioedd ar gyfer y cynllun taliad gohiriedig
  • costau cynnal ac yswirio’r cartref, a
  • ffioedd unrhyw asiant gosod rydych yn ei ddefnyddio.

Er hynny, gallai’r enillion ar ôl yr holl gostau fod yn uwch o hyd na’r enillion isel iawn sydd ar gael ar gynilion arian parod. A gallai fod elw ar werthiant y cartref yn y pen draw os yw prisiau tai wedi codi.

Nol i’r brig

Gosod eich cartref i’w rentu os ydych yn cytuno i gytundeb taliad gohiriedig

Gall gosod eich eiddo roi incwm ychwanegol i chi i dalu am eich ffioedd, ond rhaid ystyried ambell beth cyn i chi wneud hyn:

  • Rhaid i’ch cyngor lleol gytuno y gallwch osod eich eiddo. Weithiau byddant yn cynnig gosod tenantiaid o’u rhestr aros am dai i eiddo gwag a thalu rhent i chi.
  • Gallai rhentu’r eiddo leihau’r incwm a gewch o unrhyw fudd-daliadau sy’n ddibynnol ar brawf modd, fel Credyd Pensiwn.
  • Efallai y bydd gennych gyfrifoldebau fel landlord na fyddwch yn gallu eu bodloni tra’ch bod mewn gofal. Efallai y bydd rhaid i chi ddefnyddio asiant gosod neu gael aelod o’r teulu neu ffrind i reoli’r eiddo ar eich rhan.
  • Mae’n bosibl na fydd tenantiaid ar gyfer yr eiddo o hyd neu gallai costau’r cartref gofal godi’n gynt na’r swm o rent allwch chi godi. Efallai na fydd gennych ddigon o incwm o rent i dalu eich ffioedd neu gostau eraill ar bob adeg.

A fydd yr incwm o rent, wedi’i ychwanegu at eich incwm arall, yn talu'r cyfan neu fwy na ffioedd eich cartref gofal? Yna fe allech ddewis rhentu’r eiddo heb gymryd cytundeb taliad gohiriedig o gwbl.

Dylech gofio hefyd ar ôl gosod eich eiddo am 18 mis y bydd eich eiddo yn dod yn ased trethadwy o safbwynt Treth ar Enillion Cyfalaf os ydych yn ei werthu yn y dyfodol.

Os ydych yn ystyried gosod eich cartref, mae’n syniad da i gael cyngor ariannol annibynnol a siarad ag asiant gosod i weld sut mae’r farchnad rhentu yn eich ardal cyn gwneud penderfyniad.

Nol i’r brig

Pethau eraill i’w hystyried gyda chytundeb taliad gohiriedig

Nid yw cytundeb taliad gohiriedig yn effeithio ar y ffordd yr asesir eich incwm a’ch cynilion i weld faint y dylech ei dalu tuag at eich gofal.

Fel arfer bydd disgwyl i chi gyfrannu tuag at eich costau gofal allan o’ch incwm. Fodd bynnag, rhaid i’ch awdurdod lleol adael i chi gadw o leiaf swm penodol fel y gallwch barhau i fforddio cynnal ac yswirio’ch cartref. Gweler y ‘Lwfans Incwm Gwario’ isod.

Mae’r cytundeb taliad gohiriedig yn golygu, ar ôl i’r awdurdod lleol gael ei ad-dalu, y bydd llai o arian ar ôl o werthu eich cartref. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw un a allai ddisgwyl etifeddu gennych yn derbyn llai.

Oes gennych gytundeb taliad gohiriedig ac mae unrhyw un, ar y cyd, yn berchen eich cartref gyda chi? Yna bydd yn rhaid iddynt gydsynio i’r cytundeb a chytuno y bydd y cartref yn cael ei werthu pan ddaw’r amser i ad-dalu’r cyngor lleol.

Nol i’r brig

Y Lwfans Incwm Gwario

Yn Lloegr yn unig, os oes gennych gytundeb taliad gohiriedig, rhaid i’ch cyngor lleol ystyried cost cynnal a chadw’ch cartref wrth benderfynu faint y mae’n rhaid i chi ei dalu tuag at eich costau gofal.

Mae’n gwneud hyn trwy osod eich cyfraniad ar lefel sy’n eich galluogi i gadw isafswm incwm bob wythnos. Gelwir hyn yn Lwfans Incwm Gwario ac mae wedi’i osod ar £144 yr wythnos.

Mae’r lwfans yn rhoi digon o arian i chi dalu am gostau cadw’ch cartref, fel:

  • yswiriant
  • biliau ynni
  • costau cynnal a chadw.

Gallwch ddewis cyfrannu mwy tuag at gostau eich gofal a chadw llai na £144 yr wythnos os yw’n well gennych. Byddai hynny’n lleihau’r swm sy’n ddyledus gennych i’r awdurdod lleol trwy gytundeb taliad gohiriedig.

Nol i’r brig

Cael cyngor ariannol am dalu am ofal hirdymor

Gyda chymaint o opsiynau i’w ddewis, mae’n bwysig iawn i gael cyngor ariannol cyn i chi wneud penderfyniad terfynol.

Gall cynghorydd ariannol sy’n arbenigo mewn bywyd yn ddiweddarach, ddarparu cymorth arbenigol i ddeall system ofal cymhleth, yn enwedig os ydych yn wynebu straen anghenion gofal brys.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael cyngor ariannol ar sut i ariannu eich gofal hirdymor
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Gofal tymor hir

Defnyddio'r gwerth yn eich cartref i dalu am ofal

  • Defnyddio cynllun ôl-feddiannu cartref i dalu am eich gofal
  • Defnyddio cynllun rhyddhau ecwiti i gyllido eich gofal
  • Cytundebau taliad gohiriedig ar gyfer pobl sy’n berchen ar eu cartref ac sy’n symud i mewn i gartref gofal
  • Cael tŷ llai i ariannu eich gofal hirdymor
  • Defnyddio morgais gydol oes i dalu am eich gofal hirdymor
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Defnyddio'r gwerth yn eich cartref i dalu am ofal

  • Defnyddio cynllun ôl-feddiannu cartref i dalu am eich gofal
  • Defnyddio cynllun rhyddhau ecwiti i gyllido eich gofal
  • Cytundebau taliad gohiriedig ar gyfer pobl sy’n berchen ar eu cartref ac sy’n symud i mewn i gartref gofal
  • Cael tŷ llai i ariannu eich gofal hirdymor
  • Defnyddio morgais gydol oes i dalu am eich gofal hirdymor
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2024 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AP. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni'n fyw i gael arweiniad pensiynau gan ddefnyddio'r ffôn
  • O dramor +44 207 932 5780
  • Hunangyflogedig 0345 602 7021
Oriau
  • Llun–Gwener9am-5pm
  • Sat-Sun

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg 0800 138 7777*
  • Typetalk 18001 0800 915 4622*
  • O dramor +44203 553 2279
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sat, Sun andWedi cau

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Talk to us live about pensions guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Talk to us live about money guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Download app: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau