Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Dod yn rhiant
Teulu a gofal Dod yn rhiant

Help gyda chostau gofal plant

Mae gofal plant yn ddrud a gall gymryd rhan fawr o gyllideb eich teulu. Mae’r llywodraeth yn cynnig cymorth fel Gofal Plant Di-dreth sy’n cynnig hyd at £2,000 y plentyn bob blwyddyn.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Gwiriwch pa help y gallech ei gael gyda chostau gofal plant
  • Gofal Plant Di-dreth
  • Sut i wneud cais am Ofal Plant Di-dreth
  • Oes gennych chi hawl i 15 neu 30 awr o help gyda chostau gofal plant?
  • Credyd Cynhwysol
  • Credyd Treth Gwaith - yr elfen gofal plant
  • Meithrinfeydd yn y gweithle
  • Neiniau a theidiau yn gofalu am wyrion

Gwiriwch pa help y gallech ei gael gyda chostau gofal plant

Amcangyfrifwch faint o help y gallech ei gael gan y llywodraeth ar gyfer gofal plant cymeradwy, gan ddefnyddio’r gyfrifiannell gofal plant ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch fwy am gael gofal plant am ddim ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Gofal Plant Di-dreth

Beth yw gofal Plant Di-dreth?

Cynllun gan y llywodraeth yw Gofal Plant Di-dreth i helpu rhieni sy’n gweithio gyda chost gofal plant yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gall dalu am:

  • gwarchodwyr plant, meithrinfeydd a nanis cofrestredig
  • brecwast cofrestredig, clybiau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae, cynlluniau gwyliau
  • ysgolion cofrestredig (heb gynnwys ffioedd ysgol, oni bai bod eich plentyn yn is na'r oedran ysgol gorfodol)
  • gweithwyr gofal cartref sy’n gweithio i asiantaeth gofal cartref cofrestredig.

Gallwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth ar yr un pryd â defnyddio 15 awr neu 30 awr o ofal plant am ddim.

Ond, ni allwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth ar yr un pryd â:

  • Credyd Cynhwysol
  • Credydau treth
  • Talebau Gofal Plant

Mewn nifer o achosion, bydd y budd-daliadau sydd wedi’u rhestru uchod yn talu mwy na Gofal Plant Di-dreth.

Os ydych yn cael cymorth gyda chostau gofal plant o Gredyd Cynhwysol neu gredydau treth yn barod, bydd agor cyfrif Gofal Plant Di-dreth yn stopio eich taliadau budd-dal i gyd, nid yn unig y rhai sydd am ofal plant.

Os nad ydych yn siŵr os byddwch yn well eich byd yn defnyddio Gofal Plant Di-dreth neu fudd-daliadau’r wladwriaeth, efallai byddwch am siarad ag ymgynghorydd annibynnol ar fudd-daliadau ar Advice LocalYn agor mewn ffenestr newydd

Pwy all ei gael?

I fod yn gymwys, fel rheol mae angen i riant neu rieni:

  • bod yn gweithio a bod â phlant o dan 12 oed – neu o dan 17 oed os oes gan eich plentyn   anabledd. Maent yn rhoi'r gorau i fod yn gymwys ar 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 11 oed. Mae plant a fabwysiadwyd yn gymwys, ond nid yw plant maeth  
  • Dros y tri mis nesaf rhaid i chi a'ch partner (os oes gennych un) ddisgwyl ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog BywYn agor mewn ffenestr newydd am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.
  • heb fwy na £ 100,000 o incwm net wedi'i addasu bob blwyddyn, fesul rhiant. Darganfyddwch fwy am incwm net wedi'i addasu ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
  • yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig. Os ydych chi neu’ch partner ar gyfnod mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu efallai y byddwch yn dal yn gymwys. Gallwch wneud cais os ydych chi’n dechrau neu’n ail-ddechrau gwaith o fewn y 31 diwrnod nesaf.

Oes gennych chi gyfrifoldebau gofalu, neu a ydych chi’n sâl neu’n anabl ac felly ddim yn gallu gweithio? Yna byddwch yn dal yn gymwys i gael cyfrif gofal plant os yw un rhiant yn gweithio ac nad yw’r llall yn gallu gweithio ac yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:

  •  Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Analluogrwydd neu Fudd-dal Analluogrwydd tymor hir
  •  Lwfans Anabledd Difrifol
  •  Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau
  •  Credydau yswiriant gwladol oherwydd analluogrwydd neu allu cyfyngedig i weithio.

Faint ydyw?

Am bob £8 rydych yn ei dalu i’ch cyfrif gofal plant, bydd y llywodraeth yn talu £2 i mewn – hyd at uchafswm o £2,000 y plentyn bob blwyddyn, neu £4,000 y plentyn anabl bob blwyddyn.

Felly os oes gennych un plentyn a’ch bod yn talu £8,000 i’ch cyfrif gofal plant, bydd y llywodraeth yn talu £2,000 i mewn. Ar ôl i chi roi’r arian i mewn, bydd y diwrnod gwaith nesaf yn ychwanegu ato fel rheol.

Fel rheol, bydd taliadau i’ch cyfrif yn cymryd un diwrnod gwaith ar gyfer taliadau cardiau debyd a thri diwrnod gwaith ar gyfer trosglwyddiadau banc. Bydd taliadau’n dangos fel ‘arian sydd ar gael’ ar ôl iddynt brosesu.

Mae cyfraniadau’r llywodraeth wedi'u cyfyngu i £500 bob tri mis neu £1,000 i blentyn anabl. I gael y cyfraniad mwyaf rhaid i chi gyfrannu at eich cyfrif ar-lein ym mhob cyfnod o dri mis neu chwarter y flwyddyn.

Gall eraill, fel neiniau a theidiau neu ffrindiau teulu, hefyd dalu i mewn i’r cyfrif.

Nol i’r brig

Sut i wneud cais am Ofal Plant Di-dreth

Rydych chi’n gwneud cais ar-lein trwy sefydlu cyfrif gofal plant yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Bob tri mis, bydd angen i chi wirio a chadarnhau eich bod yn gymwys o hyd - defnyddiwch eich cyfrif gofal plant ar-lein ar gyfer hyn. Byddwch yn derbyn nodyn atgoffa i wneud hyn.

Os nad yw eich amgylchiadau wedi newid, cadarnhewch hyn. Os yw eich sefyllfa wedi newid, bydd y llywodraeth yn ail-wirio a ydych yn gymwys o hyd.

Nol i’r brig

Oes gennych chi hawl i 15 neu 30 awr o help gyda chostau gofal plant?

Mae gan bob plentyn tair a phedair oed yn y DU hawl i gael rhywfaint o addysg gynnar neu ofal plant am ddim.

Gallwch ddefnyddio’r oriau rhad ac am ddim hyn mewn darparwyr gofal plant cofrestredig fel:

  • meithrinfeydd a dosbarthiadau meithrin
  • cylchoedd chwarae a chyn-ysgolion
  • gwarchodwyr plant cofrestredig
  • Canolfannau Plant Sure StartYn agor mewn ffenestr newydd
  • cynlluniau gwyliau, clybiau brecwast ac ar ôl ysgol.

 

Dewis y gofal plant cywir

Dewch o hyd i'r opsiwn gofal plant iawn i chi gyda'n canllaw Dewisiadau gofal plant

Mae faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar ba wlad rydych yn byw. Gallwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth ar yr un pryd â defnyddio 15 neu 30 awr o ofal plant am ddim.

Gofal plant newydd a ariennir gan y llywodraeth

Efallai y byddwch yn gymwys i gael 15 awr o gyllid yr wythnos ar gyfer eich plentyn dwy oed. Rhaid eich bod yn gweithio ac yn ennill o leiaf yr hyn sy'n cyfateb i 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol, ond llai na £100,000 y flwyddyn.

Os ydych yn gwpl, yna mae hyn yn berthnasol i’r ddau ohonoch. Os nad yw un ohonoch yn gweithio neu os yw un ohonoch yn ennill dros £100,000, ni fyddwch yn gymwys. Gallwch addasu eich incwm net trwy gynyddu eich cyfraniad pensiwn i aros o dan y terfyn, os gallwch fforddio gwneud hyn.

O fis Medi 2024, efallai y byddwch yn gymwys i gael 15 awr o gyllid yr wythnos os oes gennych blentyn rhwng naw mis a dwy oed.

Gallwch nawr wneud cais am y cynigion gofal plant newydd a ariennir gan y llywodraethYn agor mewn ffenestr newydd

Lloegr

Sut i wneud cais

Gallwch wneud hyn ar-lein trwy sefydlu cyfrif gofal plant yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Mae rhai cynghorau yn rhestru darparwyr sy'n cynnig yr oriau ychwanegol ar eu gwefan, neu gallwch gysylltu â’ch darparwr gofal plant i weld a ydyn nhw’n eu cynnig. Gallwch ddod o hyd i ddarparwyr gofal plant cofrestredig Ofsted yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Mae gan rai plant dwy oed hawl i 15 awr o ofal plant neu addysg gynnar am ddim am 38 wythnos. Efallai y bydd eich plentyn yn gymwys os oes ganddo anabledd neu os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau. Darganfyddwch a ydych chi’n gymwys yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch wneud cais i’ch cyngor lleol am yr oriau hyn. Defnyddiwch yn GOV.UK i ddod o hyd i dudalen gais eich cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd

Mae gan blant tair a phedair oed hawl i 15 awr bob wythnos am 38 wythnos o addysg gynnar neu ofal plant am ddim bob blwyddyn.

Mae gan rai plant tair i bedair oed hawl i 15 awr ychwanegol, gan ddod â’u cyfanswm i 30 awr am 38 wythnos y flwyddyn. I fod yn gymwys am y 15 awr ychwanegol o ofal plant am ddim:

  • rhaid i’r ddau riant fod yn gweithio, neu rhaid i’r unig riant fod yn gweithio mewn teulu un rhiant. A rhaid byw yn Lloegr yn barhaol.
  • Dros y tri mis nesaf mae'n rhaid i chi a'ch partner (os oes gennych un) ddisgwyl ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Darganfyddwch fwy yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
  • ennill llai na £100,000 y flwyddyn.

Os na ddefnyddiwch eich holl oriau mewn un wythnos, ni allwch eu defnyddio mewn wythnos arall. Mae llawer o ddarparwyr yn cyfartaleddu’r oriau dros y flwyddyn, felly mae gennych chi gyfwerth â 22 awr yr wythnos. Gofynnwch i’ch darparwr sut maen nhw’n gwneud hyn.

Cymru

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais gan ddefnyddio’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol. Darganfyddwch fwy ar wefan FamilyPointYn agor mewn ffenestr newydd (Opens in a new window)

Mae rhai cynghorau yn rhestru darparwyr gofal plant cymeradwy – gwiriwch a yw darparwyr wedi’u cymeradwyo ar wefan Arolygiaeth Gofal CymruYn agor mewn ffenestr newydd

Gall rhai plant dwy a thair oed sy’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg gael gofal plant rhan-amser am ddim am ddwy awr a hanner y dydd, bum niwrnod yr wythnos am 39 wythnos. Dewch o hyd i'ch gwasanaeth Dechrau’n Deg lleol ar wefan FamilyPoint Yn agor mewn ffenestr newyddYn agor mewn ffenestr newydd

Gall plant tair a phedair oed gael 10 awr o addysg gynnar am ddim yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn, mewn ysgol neu feithrinfa wedi’i hariannu. Gelwir hyn yn Gyfnod Sylfaen.

Mae gan rai plant tair a phedair oed hawl i 20 awr ychwanegol, gan ddod â’u cyfanswm i 30 awr am 48 wythnos o’r flwyddyn.

I fod yn gymwys am yr 20 awr ychwanegol o ofal plant am ddim:

  • rhaid i’r ddau riant fod yn gweithio - neu rhaid i’r unig riant fod yn gweithio mewn teulu un rhiant. A rhaid byw yng Nghymru yn barhaol

  • Dros y tri mis nesaf mae'n rhaid i chi a'ch partner (os oes gennych un) ddisgwyl ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Darganfyddwch fwy yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
  • rhaid i bob rhiant ennill llai na £100,000 y flwyddyn.

Os na ddefnyddiwch eich holl oriau mewn un wythnos, ni allwch eu defnyddio mewn wythnos arall. Mae llawer o ddarparwyr yn cyfartaleddu’r oriau dros y flwyddyn, felly mae gennych gyfwerth â 22 awr yr wythnos. Gofynnwch i’ch darparwr sut maen nhw’n gwneud hyn.

Yr Alban

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais a chael gwybod mwy am ofal plant am ddim ac addysg yn yr Alban ar y wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd

Gall rhai plant dwy oed gael 16 awr o ofal plant yr wythnos yn ystod y tymor os ydyn nhw’n derbyn rhai budd-daliadau.

Mae pob plentyn tair a phedair oed yn gymwys am 16 awr yr wythnos o ddysgu cynnar a gofal plant am ddim yn ystod y tymor.

Gogledd Iwerddon

Mae gan blant hawl io leiaf 12.5 awr o addysg gyn-ysgol am ddim yr wythnos am 38 wythnos yn y flwyddyn cyn iddynt ddechrau Ysgol Gynradd Un.

Darganfyddwch fwy am addysg gyn-ysgol am ddim yng Ngogledd Iwerddon yn nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal i bobl sydd mewn ac allan o waith. Mae’n disodli chwe budd-dal presennol, gan gynnwys Credyd Treth Gwaith.

Gall teuluoedd sy’n gweithio sy’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol hawlio hyd at 85% o’u costau gofal plant misol.

Rhaid i chi dalu am y gofal plant ymlaen llaw yn gyntaf a darparu derbynebau i gael arian yn ôl. Dim ond yn ystod eich cyfnod asesu y gallwch chi hawlio am ofal plant. Os na allwch chi dalu’r gost ymlaen llaw honno, efallai y byddwch chi’n gallu cael help gyda hynny drwy’r Cymorth Hyblyg.Yn agor mewn ffenestr newydd

Os oes gennych chi gynnig swydd, gallwch ofyn am help gyda chostau gofal plant am y mis cyn i chi ddechrau gweithio. Siaradwch â'ch anogwr gwaith ar unwaith am eich cynnig swydd a pha gymorth y gallwch ei gael. 

Gallwch hefyd gael help gyda chostau gofal plant am o leiaf fis ar ôl i'ch swydd ddod i ben i gadw'ch gofal plant i fynd wrth i chi newid rhwng swyddi. Darganfyddwch fwy yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd 

Pwy sy’n ei gael?

Fel arfer bydd angen i chi a/neu’ch partner:

  •  bod yn gweithio (does dim ots faint o oriau rydych chi neu’ch partner yn gweithio), neu
  • bod gyda chynnig swydd.

Faint ydyw?

Gallwch gael £1014.63 y mis am un plentyn, a £1739.37 y mis ar gyfer dau neu fwy o blant.

Gallwch dim ond ei hawlio os yw'ch gofal plant yn cael ei ddarparu gan ddarparwr gofal plant cofrestredig neu wedi'i gymeradwyo gan y llywodraeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol

Sut i wneud cais am eich costau gofal plant

Telir costau gofal plant mewn ôl-ddyledion. Mae hyn yn golygu y byddwch fel arfer yn talu’r costau eich hun, yn hysbysu’r costau trwy eich cyfrif ar-lein ac yn cael eich talu’n ôl ar eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf.

Mae gennych tan ddiwedd yr ail gyfnod asesu ar ôl i’r gofal plant ddigwydd i hysbysu’r costau hyn.

Er enghraifft, os mai’ch dyddiad asesu (y dyddiad y gwnaethoch ddechrau hawlio a chael eich taliad Credyd Cynhwysol) yw’r 10fed a’ch bod am hawlio costau gofal plant a dalwyd gennych ym mis Medi yn ôl, mae gennych tan 10 Tachwedd i roi gwybod am y costau.

Dim ond yn ystod y cyfnod asesu hwnnw y gallwch hawlio costau gofal plant yn ôl. Felly os ydych yn talu costau gofal plant fwy na mis ymlaen llaw, er enghraifft tymor cyfan, byddwch yn anfon eich adroddiad yn yr un ffordd ac yn cael eich talu'n ôl mewn rhandaliadau dros uchafswm o dri chyfnod asesu.

Os ydych yn meddwl y byddwch yn cael trafferth talu costau gofal plant ymlaen llaw, siaradwch â’ch anogwr gwaith.

Gogledd Iwerddon

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon a'ch bod yn gymwys i’r elfen gofal plant o Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill sy'n seiliedig ar incwm, gallwch wneud cais am grant heb fod angen i’w ad-dalu, hyd at £1,500 o'r Gronfa Ddisgresiwn yr Ymgynghorydd (ADF) trwy Anogwr Gwaith yn eich Canolfan Gwaith a Budd-daliadau leol.

Telir hwn ymlaen llaw i ddarparwr gofal plant cofrestredig. Bydd unrhyw swm a ddyfernir am gostau gofal plant yn cael ei gynnwys o fewn y terfyn uchaf o £1,500 sy'n daladwy am ddyfarniadau ADF mewn cyfnod o 12 mis.

Darganfyddwch fwy am yr Gronfa Ddisgresiwn yr Ymgynghorydd (ADF) yn indirectYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Credyd Treth Gwaith - yr elfen gofal plant

Credyd Treth Gwaith yw un o’r budd-daliadau sy’n cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol.

Os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Gwaith, gallwch barhau i’w hawlio nes bod eich amgylchiadau’n newid, neu os gofynnir i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Ni allwch wneud cais newydd am Gredyd Treth Gwaith.

Gallwch wneud gwiriad cyflym i weld a yw’n werth symud i neu hawlio Credyd Cynhwysol gan ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau. Ond os ydych eisoes yn cael budd-daliadau (yn enwedig credydau treth) dylech siarad ag arbenigwr budd-daliadau a fydd yn gallu eich helpu i weithio allan beth sydd orau i chi cyn i chi wneud cais oherwydd ni allwch fynd yn ôl at eich hen fudd-daliadau unwaith rydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Mae Advice LocalYn agor mewn ffenestr newydd yn lle da i ddechrau i ddod o hyd i arbenigwr budd-daliadau yn eich ardal.

Darganfyddwch fwy am symud o Gredyd Treth Gwaith i Gredyd Cynhwysol

Beth yw’r elfen gofal plant?

Yr ‘elfen gofal plant’ yw un o’r elfennau, neu’r cydrannau, sy’n ffurfio Credyd Treth Gwaith.

Os ydych yn gymwys, gallai dalu hyd at 70% o’ch costau gofal plant.

Pwy sy’n ei gael?

Gallwch wneud cais am yr elfen gofal plant o’r Credyd Treth Gwaith os ydych yn:

  • Gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos (os ydychyn gwpl, mae angen i’r ddau ohonoch weithio o leiaf 16 awr yr wythnos).
  • Talu am ofal plant sydd wedi’i gofrestru neu ei gymeradwyo. Darganfyddwch fwy am gostau gofal plant ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Faint yw’r elfen gofal plant?

Gyda'r elfen gofal plant, gallwch gael help gyda hyd at 70% o’ch costau gofal plant.

Mae'r tabl isod yn dangos faint y gallech chi ei gael ym mlwyddyn dreth 2024/2025:

Nifer o blant Os ydych yn talu hyd at: Gallech gael hyd at:

1

£175 yr wythnos

£122.50 yr wythnos

2 neu fwy

£300 yr wythnos

£210 yr wythnos                                        

Os ydych yn talu mwy na hyn am ofal plant, dim ond yr uchafswm a restrir uchod y byddwch chi'n ei gael o hyd.

Os ydych yn gymwys ar gyfer yr elfen gofal plant, ni fyddwch o reidrwydd yn cael y symiau llawn.

Bydd faint a gewch yn dibynnu ar:

  •  eich incwm
  • yr oriau rydych chi’n gweithio
  • eich costau gofal plant.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Treth Gwaith
Nol i’r brig

Meithrinfeydd yn y gweithle

Mae rhai cyflogwyr yn sefydlu eu meithrinfa eu hunain, naill ai yn eich gweithle neu mewn lleoliad arall.

Eich cyflogwr sy’n penderfynu faint rydych yn ei dalu am fynediad i feithrinfa yn y gweithle.

Ond p'un a yw’n rhad ac am ddim neu â chymhorthdal, mae’n cyfrif fel cyfran ddi-dreth o’ch swydd.

Darganfyddwch gan eich cyflogwr a yw’n cynnig meithrinfa yn y gweithle.

Nol i’r brig

Neiniau a theidiau yn gofalu am wyrion

Ydych chi’n nain neu daid neu berthynas arall sy’n gofalu am blant tra bod eu rhieni yn y gwaith? Yna mae credydau Yswiriant Gwladol ar gael i’ch helpu chi i barhau i adeiladu’ch hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth yn ystod yr amser hwn.

Bydd angen 35 mlynedd gymwys arnoch i gael y Pensiwn y Wladwriaeth llawn newydd.

Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Gelwir y credydau Yswiriant Gwladol hyn yn gredydau Gofal Plant Oedolion Penodedig ac mae angen i chi wneud cais amdanynt.

Darganfyddwch fwy am gredydau Gofal Plant Oedolion Penodedig a sut i wneud cais yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Dod yn rhiant

Cymorth a chostau gofal plant

  • Costau gofal plant cyfartalog
  • Dewisiadau gofal plant
  • Help gyda chostau gofal plant
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Cymorth a chostau gofal plant

  • Costau gofal plant cyfartalog
  • Dewisiadau gofal plant
  • Help gyda chostau gofal plant
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2024 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AP. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni'n fyw i gael arweiniad pensiynau gan ddefnyddio'r ffôn
  • O dramor +44 207 932 5780
  • Hunangyflogedig 0345 602 7021
Oriau
  • Llun–Gwener9am-5pm
  • Sat-Sun

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg 0800 138 7777*
  • Typetalk 18001 0800 915 4622*
  • O dramor +44203 553 2279
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sat, Sun andWedi cau

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Talk to us live about pensions guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Talk to us live about money guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Download app: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau