Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Treth a phensiynau
Pensiynau ac ymddeoliad Treth a phensiynau

Rhyddhad treth a’ch pensiwn

Mae dwy ffordd y gallwch gael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn. Os ydych mewn cynllun pensiwn yn y gweithle mae eich cyflogwr yn dewis pa ddull i’w ddefnyddio, ac mae rhaid defnyddio hwnnw ar gyfer pob aelod o staff. Darganfyddwch sut mae rhyddhad treth yn gweithio. 

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw rhyddhad treth ar bensiwn?
  • Sut y mae rhyddhad treth yn gweithio ar gyfer pensiynau?
  • Rhyddhad treth os nad ydych yn talu treth
  • A oes terfyn ar faint o ryddhad treth y gallaf ei dderbyn?
  • Teclynnau defnyddiol
  • Beth yw enillion perthnasol yn y DU?
  • Trefniadau aberthu cyflog
  • Pensiwn personol, pensiwn personol hunan-fuddsoddedig a chynlluniau pensiwn rhanddeiliaid
  • Beth os yw rhywun arall eisiau cyfrannu at fy mhensiwn neu fy mod i eisiau cyfrannu at eu pensiwn?
  • Rhyddhad treth ar gyfraniadau i gontractau blwydd-dal ymddeol
  • Faint gallwch ei gronni yn eich pensiwn?
  • Pensiynau gweithle, ymrestru awtomatig, a rhyddhad treth

Beth yw rhyddhad treth ar bensiwn?

Un o nodweddion gorau defnyddio pensiwn i gynilo ar gyfer ymddeol yw rhyddhad treth. Pan dalwch i mewn i'ch pensiwn, mae peth o'r arian a fyddai wedi mynd i'r llywodraeth fel treth yn mynd tuag at eich pensiwn yn lle. Gall hyn helpu i leihau faint o dreth rydych yn ei thalu a  gellir ei defnyddio i helpu i gryfhau'ch cynilion ar gyfer y dyfodol.

Mae’r ‘rhyddhad treth’ ar y gyfradd uchaf o dreth incwm rydych yn ei dalu.

Fodd bynnag, yn ddibynnol ar sut mae eich cynllun pensiwn yn gweithio, os nad ydych yn talu treth efallai na chewch ryddhad treth.

Yn yr un modd, efallai y bydd rhaid i chi hawlio'r rhyddhad treth ychwanegol na chaiff ei hawlio gan eich cynllun. 

Yn ogystal, mae rhai cyfyngiadau y mae rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt a all effeithio ar faint o ryddhad treth y mae gennych hawl iddo. Ewch y tu hwnt i'r terfynau hyn ac efallai y bydd rhaid i chi dalu tâl treth sydd i bob pwrpas yn adfachu unrhyw ryddhad treth gormodol a roddir. Gwelwch isod am ragor o wybodaeth am hyn.

Angen mwy o wybodaeth am bensiynau?

Ffoniwch ni am ddim ar 0800 756 1012 neu defnyddiwch ein gwe-sgwrsYn agor mewn ffenestr newydd. Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau.

 

Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio, p’un ai yw hynny ar-lein neu dros y ffôn.

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm. Ar gau ar wyliau banc.

Nol i’r brig

Sut y mae rhyddhad treth yn gweithio ar gyfer pensiynau?

Mae dwy ffordd y gallwch gael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn. Gelwir y rhain yn rhyddhad yn y ffynhonnell a thâl net.

Os ydych mewn pensiwn yn y gweithle, bydd eich cyflogwr yn dewis pa ddull a ddefnyddir. Os ydych mewn pensiwn personol, defnyddir y dull rhyddhad yn y ffynhonnell bob amser.  

Rhyddhad yn y ffynhonnell

Gyda rhyddhad yn y ffynhonnell, mae eich cyfraniadau yn cael hwb gan y llywodraeth. Gallwch o bosibl hawlio mwy yn ôl trwy eich ffurflen dreth os ydych yn talu treth uwch na'r gyfradd sylfaenol.

Dyma sut mae trefniant rhyddhad yn y ffynhonnell yn gweithio yn fanylach: 

  1. Mae eich cyflogwr yn tynnu treth o’ch enillion trethadwy yn ôl yr arfer. 
  2. Yna maent yn tynnu 80% o’ch cyfraniad pensiwn o’ch cyflog ar ôl treth ac yn anfon hwnnw at eich darparwr pensiwn. 
  3. Mae eich darparwr pensiwn yn hawlio’r 20% arall fel rhyddhadd treth yn uniongyrchol gan y llywodraeth, ac maent yn ei ychwanegu i’ch cronfa bensiwn. Os ydych yn byw yn yr Alban ac yn talu treth ar gyfradd dechreuwr yr Alban o 19%, byddwch yn cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn ar 20% o hyd. 

Mae’r dull hwn yn well i bobl nad ydynt yn talu treth oherwydd maent yn dal i gael gostyngiad treth. Gwelwch ein hadran ar ‘Rhyddhad treth os nad ydych yn talu treth’ isod. 

Fodd bynnag, â’r trefniant hwn, bydd pobl sy’n talu cyfraddau uwch o dreth nag 20%, boed yn gyflogedig neu'n hunan-gyflogedig, yn gorfod hawlio’r rhyddhad treth ychwanegol drwy eu ffurflenni treth neu’n uniongyrchol gan CThEM

Tâl net

Gyda chyflog net, gwneir eich cyfraniadau pensiwn cyn i chi gael eich trethu. Felly byddwch fel arfer yn talu llai o dreth oherwydd bydd eich treth yn cael ei chyfrifo ar sail swm is o enillion yn y DU.

Dyma sut mae trefniant tâl net yn gweithio:

  1. Mae eich cyflogwr yn tynnu swm llawn eich cyfraniad pensiwn o’ch tâl cyn i unrhyw dreth gael ei dynnu.
  2. Yna rydych yn talu treth ar eich enillion llai eich cyfraniadau pensiwn. Felly mae eich bil treth yn is.
  3. Er eich bod wedi talu swm llawn eich cyfraniad pensiwn eich hun, cewch y rhyddhad treth drwy dalu ychydig yn llai o dreth.

Gyda’r dull hwn, waeth beth yw cyfradd y dreth a dalwch, cewch y rhyddhad treth yn llawn heb orfod cyflwyno cais amdano.

Fodd bynnag, os nad ydych yn talu treth, golyga’r dull hwn na chewch unrhyw ostyngiad treth. Gwelwch ein hadran ar ‘Gostyngiad treth os nad ydych yn talu treth’ isod. 

Nol i’r brig

Rhyddhad treth os nad ydych yn talu treth

Os ydych yn ennill llai na'r Lwfans Personol (£12,570 yn y flwyddyn dreth 2023/24) ac felly ddim yn talu treth, efallai na fyddech yn cael rhyddhad treth os ydych mewn pensiwn gweithle. Mae'n dibynnu ar ba system rhyddhad treth y mae eich cyflogwr yn ei defnyddio.

Eich sefyllfa os yw eich pensiwn yn defnyddio’r dull tâl net

Os yw'ch pensiwn gweithle yn defnyddio'r dull tâl net, cymerir swm llawn y cyfraniad pensiwn o'ch cyflog cyn didynnu treth.

Yn lle ychwanegu gostyngiad treth at y cyfraniad pensiwn, rydych yn cael rhyddhad treth trwy gael bil treth is.

Ond os nad ydych yn talu treth, nid oes bil treth – felly ni fyddwch yn elwa o ryddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn.

I ddatrys hyn, mae’r llywodraeth yn cynnig ar gyfer cyfraniadau gafodd eu gwneud ym mlwyddyn treth 2024-25 ymlaen mi fydd yna ffordd o wneud cais am rhyddhad treth ar eich cyfraniadau.

Disgwylir manylion pellach ar sut y gwnaiff hyn weithio yn 2023.

Eich sefyllfa os yw eich pensiwn yn defnyddio’r dull rhyddhad yn y ffynhonnell

O dan y dull rhyddhad yn y ffynhonnell, mae'r darparwr pensiwn bob amser yn hawlio rhyddhad treth ar y gyfradd sylfaenol (20%). Maent yn hawlio hyn gan y llywodraeth ac yn ychwanegu hyn at eich cronfa bensiwn.

Felly cyn belled â nad ydych yn talu mwy na'ch enillion perthnasol yn y DU, byddwch yn elwa o 20% mewn rhyddhad treth.

Mae'r enghraifft ganlynol yn dangos sut mae'r ddau ddull yn wahanol: 

Dull Incwm Cyfraniad i bensiwn Cymerwyd o dâl Gostyngiad treth

Dull tâl net

£200 yr wythnos

(£10,400 y flwyddyn) 

3%, £6 yr wythnos 

£6  

£0 

Dull rhyddhad yn y ffynhonnell

£200 yr wythnos

(£10,400 y flwyddyn)

3%, £6 yr wythnos 

£4.80 

£1.20  

Tra byddai’r ddau ddull yn rhoi £6 i mewn i’ch pensiwn, â threfniant tâl net, tynnir y £6 yn llawn o’ch cyflog.

Ni allwch hawlio unrhyw arian yn ôl o CThEM. A bydd gennych ychydig yn llai o arian yn eich poced o’i gymharu â defnyddio trefniant rhyddhad yn y ffynhonnell.

Os nad oes gennych unrhyw enillion neu'n ennill llai na £3,600 y flwyddyn, gallwch barhau i gyfrannu at bensiwn personol sy'n defnyddio'r dull rhyddhad yn y ffynhonnell. A byddwch yn gymwys i gael rhyddhad treth wedi ei ychwanegu at eich cyfraniadau hyd at swm penodol.

Os ydych mewn pensiwn gweithle, bydd angen i chi wirio'r ath o bensiwn sydd gennych â'ch cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn.

Yr uchafswm y gallwch ei gyfrannu yw £2,880 y flwyddyn.

Ychwanegir rhyddhad treth at eich cyfraniad felly os cyfrannwch £2,880, hawlir £720 gan y llywodraeth a'i ychwanegu at eich pensiwn. Mae hyn yn golygu y bydd cyfanswm o £3,600 yn cael ei gyfrannu i'ch cynllun pensiwn. 

Beth os wyf yn cael fy effeithio oherwydd nad wyf yn talu treth?

Os nad yw'ch cyflogwr wedi sefydlu cynllun pensiwn gweithle eto, gofynnwch iddynt ystyried cynllun sy'n gweithredu dull rhyddhad yn y ffynhonnell.

Fodd bynnag, os yw'r cynllun eisoes ar waith, mae eich opsiynau'n gyfyngedig. Mae hyn oherwydd bod rhaid i'ch cyflogwr weithredu'r un dull ar gyfer holl staff y cynllun.

Peidiwch â chael eich temptio i adael y cynllun i sefydlu un eich hun gan y byddwch yn colli unrhyw gyfraniadau y mae'ch cyflogwr yn eu gwneud. Bydd hyn yn fwy na'r rhyddhad treth rydych wedi'i golli.

Gallech ofyn i'ch cyflogwr a fyddent yn barod i ychwanegu at eich cynllun yn ôl y ffigwr rhyddhad treth neu i dalu i mewn i gynllun pensiwn sy'n rhoi rhyddhad treth i chi, ond nid oes rhaid iddynt wneud hyn. 

Sut rwyf yn gwybod pa fath o ryddhad treth mae fy nghyflogwr yn ei ddefnyddio?

Y ffordd symlaf yw gwirio llyfryn eich cynllun os gallwch ddod o hyd iddo. Fel arall, gallwch ofyn i’ch adran Adnoddau Dynol (neu bwy bynnag sy'n gneud y cyflogres ar gyfer eich cyflogwr) os ydych yn gyflogedig neu gallwch wirio â darparwr y pensiwn.

Holwch a yw’r cynllun un cael ei weithredu drwy ddefnyddio’r:

  • dull tâl net – cyfraniad pensiwn llawn yn cael ei gymryd o gyflog cyn treth, neu
  • dull rhyddhad yn y ffynhonnell  – cyfraniad pensiwn is a gesglir o gyflog ar ôl treth a rhyddhad treth yn cael ei hawlio’n uniongyrchol gan y llywodraeth gan eich darparwr pensiwn.

A oes terfyn ar faint o ryddhad treth y gallaf ei dderbyn?

Nid oes terfyn ar y swm y gellir ei arbed i'ch pensiynau bob blwyddyn dreth. Mae cyfyngiadau ar y swm y gellir ei arbed tuag at bensiwn bob blwyddyn â rhyddhad treth yn berthnasol a chyn y gallai tâl treth fod yn berthnasol.

Yn gyntaf, mae rhaid i unrhyw gyfraniadau a wneir gennych neu rywun arall ar eich rhan fod yn hafal neu'n llai na'ch enillion perthnasol yn y DU ar gyfer y flwyddyn dreth y cânt eu gwneud ynddo.

  • Er enghraifft, os ydych yn ennill £20,000 ond yn rhoi £25,000 yn eich pot pensiwn (efallai trwy ychwanegu at enillion â rhywfaint o gynilion) - dim ond £20,000 y bydd gennych hawl i gael rhyddhad treth.
  • Yn yr un modd, os ydych yn ennill £80,000 ac rydych eisiau rhoi'r swm hwnnw yn eich pensiwn mewn un flwyddyn dreth, dim ond ar £60,000 y bydd gennych hawl i ryddhad treth fel rheol.

Nid yw'r amod hwn yn berthnasol i gyfraniadau a wneir i'ch pensiynau gan gyflogwr.

Yr ail derfyn y mae rhaid i chi fod yn ymwybodol ohono yw'r lwfans blynyddol.

Os yw'r cyfanswm a arbedir tuag at bensiwn mewn blwyddyn dreth benodol yn fwy na'r lwfans blynyddol, efallai y bydd rhaid i chi dalu tâl treth sydd i bob pwrpas yn adfachu unrhyw ryddhad treth gormodol a roddir.

Y lwfans blynyddol yw £60,000 i'r rhan fwyaf o bobl; fodd bynnag, mae gan rai pobl lwfans blynyddol is.

Mae sut mae'ch cynilion pensiwn yn cael eu mesur yn erbyn y lwfans blynyddol yn dibynnu ar y math o gynllun pensiwn: cyfraniad wedi'u diffinio neu fuddion wedi'u diffinio.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans blynyddol ar gyfer cyfraniadau pensiwn

Mae’r lwfans blynyddol taprog yn cyfyngu’n bellach y nifer o ryddhad treth gall enillwyr uchel hawlio ar eu cynilion pensiwn trwy leihau eu lwfans blynyddol i swm mor isel â £10,000. Mae’r lleihad mewn lwfans yn gallu newid o flwyddyn dreth i flwyddyn dreth yn dibynnu ar eich incwm.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans blynyddol sy’n lleihau'n raddol (TAA)

Hefyd, os byddwch yn dechrau cymryd incwm ymddeoliad hyblyg o gronfa bensiwn rydych wedi'i chronni, mae'n bosibl y bydd eich lwfans hefyd yn cael ei ostwng i £10,000 yn y flwyddyn dreth hon ac yn y dyfodol ar gyfraniadau i bensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio.

Gelwir hyn yn lwfans blynyddol prynu arian.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans Blynyddol Prynu Arian (MPAA)

Mae hefyd yn bosibl defnyddio lwfans nas defnyddiwyd o hyd at y tair blynedd dreth flaenorol i dderbyn rhyddhad treth ar gyfraniadau uwch.

Gelwir hyn yn ‘cario ymlaen’ ac mae amodau’n berthnasol.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cario ymlaen

Mae rhyddhad treth ar gael dim ond ar enillion perthnasol yn y DU hyd at 75 oed. Nid yw cyfraniadau a wneir i bensiwn ar ôl 75 oed yn gymwys i gael rhyddhad treth.

Nol i’r brig

Teclynnau defnyddiol

Cyfrifiannell cyfraniadau pensiwn gweithle

Cyfrifwch faint caiff ei dalu i’ch pensiwn gennych chi a’ch cyflogwr.

Cyfrifiannell pensiwn

Darganfyddwch eich incwm ymddeoliad tebygol.

Nol i’r brig

Beth yw enillion perthnasol yn y DU?

Enillion perthnasol y DU yw'r math o enillion sy'n denu rhyddhad treth ac yn cynnwys:

  • incwm o gyflogaeth (er enghraifft cyflog, cyflogau, bonws, dros amser neu gomisiwn)
  • unrhyw daliad diswyddo sy'n uwch na'r trothwy o £30,000 sydd wedi'i eithrio rhag treth
  • buddion mewn nwyddau sy'n drethadwy
  • tâl sy'n gysylltiedig ag elw (gan gynnwys y rhan nad yw'n drethadwy)
  • incwm o grefft, proffesiwn, neu alwedigaeth a gynhelir yn unigol neu fel partner sy'n gweithredu'n bersonol mewn partneriaeth
  • incwm rhent o fusnesau gosod gwyliau wedi'u dodrefnu yn y DU neu'r AEE
  • incwm patent.

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Nol i'r brig

Trefniadau aberthu cyflog

Mae trefniadau aberthu cyflog yn gytundeb rhyngoch chi a'ch cyflogwr.

Mae'n golygu eich bod chi'n ildio rhan o'ch cyflog yn gyfnewid am i'ch cyflogwr wneud cyfraniad i'ch pensiwn.

Os ydych wedi cytuno ar hyn â'ch cyflogwr, mae'r cyfraniad cyfan yn cael ei drin fel pe bai'n dod gan eich cyflogwr. Mae hyn yn golygu na chewch unrhyw ryddhad treth fel y cyfryw.

Fodd bynnag, yn y bôn, trwy ildio cyfran o'ch cyflog, mae'r swm rydych yn ei dalu yn cael ei leihau. Mae hyn yn lleihau faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol rydych yn ei dalu.

Bydd hyn fel arfer yn golygu bod eich tâl mynd adref yn uwch.

Bydd y cyfraniadau Yswiriant Gwladol y mae eich cyflogwr yn eu gwneud yn cael eu lleihau hefyd.

Bydd rhai cyflogwyr yn trosglwyddo rhywfaint neu'r cyfan o'r arbediad Yswiriant Gwladol hwn i chi. Mae hyn, unwaith eto, yn cynyddu'r cyfraniad sy'n mynd i'ch pensiwn.

Nol i’r brig

Pensiwn personol, pensiwn personol hunan-fuddsoddedig a chynlluniau pensiwn rhanddeiliaid

Os ydych wedi sefydlu'ch pensiwn eich hun, mae'r cyfraniadau rydych yn eu gwneud i'r cynllun fel arfer yn cael eu trin fel pe baent yn dod o'ch tâl ar ôl treth.

Bydd eich darparwr pensiwn yn hawlio treth cyfradd sylfaenol yn ôl ar 20% o CThEM, ac yn ychwanegu hyn at eich cronfa bensiwn. Mae hyn yn rhoi rhyddhad treth i chi.

Mae hyn yn golygu, os byddwch yn cyfrannu £80, bydd darparwr eich pensiwn yn hawlio £20 yn ôl. Felly mae cyfanswm cyfraniad o £100 yn mynd i mewn i'ch cronfa bensiwn. 

Rhyddhad treth pensiwn cyfradd uwch

Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch, gallwch hawlio rhyddhad treth pellach (ar eich cyfradd uwch) gan CThEM.

Mae hyn fel arfer yn cael ei hawlio trwy ffurflen dreth hunanasesu. Neu gallwch gysylltu â CThEM yn uniongyrchol os nad ydych fel arfer yn llenwi ffurflen dreth.

Mae hyn yn golygu, os ydych yn talu treth incwm ar 40%, gallech hawlio rhyddhad treth o £20 ychwanegol. Mae hyn yn golygu bod cost cyfraniad o £100 yn eich pensiwn yn £60 i chi - £ 20 wedi'i hawlio gan eich darparwr pensiwn ac £20 wedi'i hawlio yn ôl gennych. 

Nol i’r brig

Beth os yw rhywun arall eisiau cyfrannu at fy mhensiwn neu fy mod i eisiau cyfrannu at eu pensiwn?

Mae'n dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych a fydd hyn yn bosibl.

Gwiriwch â'ch cyflogwr a/neu'r darparwr pensiwn - byddant yn gallu cadarnhau a yw hwn yn opsiwn a sut mae'r rhyddhad treth yn gweithio.

Os ydych mewn pensiwn gweithle sy’n defnyddio’r dull tâl net (gwelwch ein hadran ‘Sut mae rhyddhad treth yn gweithio’ uchod), efallai na fydd yn bosibl.

A ydych mewn pensiwn personol rydych wedi ei sefydlu eich hun neu mae'ch cyflogwr wedi'i sefydlu? A ydynt mewn pensiwn personol eu bod wedi ei sefydlu eu hun neu fod eu cyflogwyr wedi ei sefydlu? Yna os bydd rhywun arall (ar wahân i'ch cyflogwr) yn talu i mewn i'ch pensiwn, mae'r cyfraniad yn cael ei drin fel petaech wedi'i wneud. Felly bydd y darparwr pensiwn yn hawlio ac yn ychwanegu'r rhyddhad treth i'ch cronfa bensiwn.

Hefyd, gallwch hawlio rhyddhad cyfradd uwch os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch.

Fodd bynnag, bydd angen i chi gael digon o enillion yn y DU o hyd i dalu swm y cyfraniad, neu ni chewch y rhyddhad treth ar gyfer unrhyw gyfraniadau uwch £3,600 y flwyddyn.  

Nol i’r brig

Rhyddhad treth ar gyfraniadau i gontractau blwydd-dal ymddeol

A ydych yn cyfrannu at gontract blwydd-dal ymddeol a ddechreuoch cyn 6 Ebrill 1988? Yna nid yw'r darparwr pensiwn yn hawlio ac yn ychwanegu unrhyw rhyddhad treth i'ch cronfa bensiwn.

Mae hyn yn golygu bod angen i chi hawlio unrhyw ryddhad treth sy'n ddyledus i chi - cyfradd sylfaenol ac unrhyw ryddhad cyfradd uwch - gan CThEM.

Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â CThEM neu drwy eich ffurflen dreth. 

Nol i’r brig

Faint gallwch ei gronni yn eich pensiwn?

Nid oes terfyn i’r swm y gallwch gronni mewn pensiynau.

Mae’r terfyn lwfans gydol oes o £1,073,100 a oedd yn bodoli hyd at y flwyddyn dreth 2023/24 i fod i gael ei ddiddymu ym mis Ebrill 2024. Ar gyfer 2023/24, caiff y tâl-dros-ben ei ostwng i 0% nes y gall ddeddfwriaeth addas gael ei rhoi mewn lle.

Bydd PCLS (Arian parod di-dreth) yn parhau i gael ei gyfyngu i 25% o £1,073,100 (£268,275) oni bai bod gennych unrhyw amddiffyniad lwfans gydol oes sy’n bodoli. 

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans gydol oes ar gyfer cynilion pensiwn
Nol i’r brig

Pensiynau gweithle, ymrestru awtomatig, a rhyddhad treth

Nawr mae rhaid i bob cyflogwr gofrestru pob gweithiwr cymwys yn awtomatig i gynllun pensiwn.

Mae'n gofyn am isafswm cyfraniad - sy'n cynnwys cyfraniad y cyflogwr, cyfraniad y gweithiwr a'r rhyddhad treth. 

Darganfyddwch fwy am gyfraniadau i gynllun pensiwn gweithle ar gyfer cofrestru awtomatig yn ein canllaw:  Faint mae rhaid i mi a fy nghyflogwr ei gyfrannu?
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Treth a phensiynau

Lwfansau treth pensiwn

  • Rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn
  • 'Cario Ymlaen' Lwfans Blynyddol Pensiwn
  • Lwfans blynyddol sy’n lleihau'n raddol
  • Beth yw’r Lwfans Blynyddol Prynu Arian?
  • Lwfans blynyddol ar gyfer cyfraniadau pensiwn
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Lwfansau treth pensiwn

  • Rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn
  • 'Cario Ymlaen' Lwfans Blynyddol Pensiwn
  • Lwfans blynyddol sy’n lleihau'n raddol
  • Beth yw’r Lwfans Blynyddol Prynu Arian?
  • Lwfans blynyddol ar gyfer cyfraniadau pensiwn
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2024 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AP. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni'n fyw i gael arweiniad pensiynau gan ddefnyddio'r ffôn
  • O dramor +44 207 932 5780
  • Hunangyflogedig 0345 602 7021
Oriau
  • Llun–Gwener9am-5pm
  • Sat-Sun

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg 0800 138 7777*
  • Typetalk 18001 0800 915 4622*
  • O dramor +44203 553 2279
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sat, Sun andWedi cau

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Talk to us live about pensions guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Talk to us live about money guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Download app: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau