Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Adeiladu eich cronfa bensiwn
Pensiynau ac ymddeoliad Adeiladu eich cronfa bensiwn

Dewisiadau buddsoddi pensiwn - trosolwg

Os oes gennych bensiwn, neu os ydych yn ymuno â phensiwn neu'n sefydlu un i chi'ch hun, efallai y gofynnir i chi benderfynu sut y bydd eich arian yn cael ei fuddsoddi yn ystod y blynyddoedd tan eich ymddeoliad. Nod buddsoddi arian mewn pensiwn yw helpu i dyfu'r arian i swm mwy.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • A oes angen i chi wneud dewisiadau buddsoddi?
  • Beth yw'r prif opsiynau buddsoddi?
  • Pethau allweddol i'w hystyried wrth ddewis eich buddsoddiadau

Ar ôl unrhyw gyfraniadau, bydd hyn yn cael yr effaith fwyaf ar faint fydd ar gael i chi pan fyddwch yn ymddeol. Darganfyddwch am yr opsiynau buddsoddi a beth i'w ystyried wrth gronni arian mewn pensiwn.

A oes angen i chi wneud dewisiadau buddsoddi?

Mae p'un a oes angen i chi wneud dewis buddsoddi yn debygol o ddibynnu ar:

  • y math o bensiwn rydych ynddo, ac
  • a ydych wedi ymuno â phensiwn a sefydlwyd gan eich cyflogwr, neu un rydych wedi'i sefydlu eich hun.
Os ydych yn bwriadu cadw'ch pensiwn wedi'i fuddsoddi a chymryd arian allan fel y dymunwch, gweler ein canllaw Buddsoddi mewn ymddeoliad

Cynlluniau buddion wedi’u diffinio

Os ydych yn aelod o  gynllun buddion wedi'u diffinio (a elwir yn aml yn gynllun cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa) yn eich gweithle, nid ydych yn gyfrifol am y penderfyniadau buddsoddi.

Mae ymddiriedolwyr y cynllun yn penderfynu sut i fuddsoddi, er mwyn gallu darparu’r incwm ymddeoliad a addawyd.

Ond efallai y bydd angen i chi wneud penderfyniadau buddsoddi pensiwn ar ryw adeg, er enghraifft, os penderfynwch roi hwb i'ch cynilion pensiwn trwy wneud cyfraniadau ychwanegol i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio. Yn aml, gelwir y rhain yn gyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (AVCs).

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Cynlluniau pensiwn buddion wedi'u diffinio (neu cyflog terfynol) wedi’u hesbonio
Beth yw AVCs a FSAVCs?

Cynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio

Mewn pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, rydych yn cronni cronfa pensiwn a fydd yn talu incwm ymddeoliad i chi yn seiliedig ar faint rydych chi a/neu'ch cyflogwr yn ei gyfrannu a faint mae hyn yn tyfu.

Fel arfer, buddsoddir eich arian mewn naill ai un gronfa neu nifer o gronfeydd. Mae cronfa yn ffordd i fuddsoddi arian.

Gan ddibynnu ar ba fath o gronfa ydyw, gallai eich arian gael ei fuddsoddi mewn eiddo, cyfranddaliadau mewn cwmnïau, bondiau, neu gymysgedd o wahanol fathau o fuddsoddiad.

Pensiynau gweithle

Pan fyddwch yn ymuno â phensiwn gweithle bydd eich arian fel arfer yn cael ei fuddsoddi'n awtomatig mewn cronfa i chi.

Weithiau gelwir hyn yn gronfa ‘ddiofyn’ a bydd wedi cael ei dewis gan y cynllun pensiwn i ddiwallu anghenion buddsoddi mwyafrif yr aelodau.

Os ydych yn fodlon â'r gronfa hon, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall. Yn aml, cronfa ‘ffordd o fyw’ neu ‘dyddiad targed’ fydd hon. Mae mwy o wybodaeth am y mathau hyn o gronfa isod.

Bydd y mwyafrif o bensiynau gweithle hefyd yn rhoi'r opsiwn i chi ddewis cronfa wahanol os yw'n well gennych. Felly mae'n werth edrych ar y rhain rhag ofn eu bod yn fwy addas i chi.

Er enghraifft, gallai fod cronfeydd sy'n cynnig twf uwch ond gallai'r rhain fod â mwy o risg, sy'n golygu y gallai eich cronfa pensiwn godi a chwympo mewn gwerth yn amlach.

Neu efallai bod cronfa foesegol neu gymdeithasol gyfrifol sy'n apelio atoch.

Mae rhai pensiynau hefyd yn cynnig cronfeydd sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia sy’n buddsoddi yn unol â chyfreithiau Islamaidd, er enghraifft osgoi cwmnïoedd sy’n ymwneud â hapchwarae neu alcohol. Os yw un o’r mathau hyn o gronfeydd o ddiddordeb i chi , gwiriwch os yw darparwr pensiwn eich cyflogwr yn eu cynnig. Os na, gofynnwch i’ch cyflogwr os byddent yn gwneud cyfraniadau pensiwn i bensiwn gwahanol sydd yn cynnwys yr opsiynau hyn. 

Darganfyddwch fwy am gynilion sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia yn ein canllawiau:
Cynilion sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia
Cynlluniau prynu cartref sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia

Hyd yn oed os penderfynwch aros yn y gronfa a ddewiswyd ar eich cyfer gan y cynllun pensiwn am y tro, fel arfer gallwch newid eich meddwl yn nes ymlaen. Yna gallwch newid i gronfa wahanol neu ledaenu'ch arian ar draws nifer o gronfeydd trwy gydol yr amser rydych yn cronni'ch cronfa bensiwn.

Pensiynau rydych yn eu sefydlu'ch hun

Os byddwch yn sefydlu pensiwn eich hun, fel arfer bydd angen i chi wneud dewis ymlaen llaw ynglŷn â sut i fuddsoddi'r arian.

Bydd darparwyr pensiwn fel arfer yn cynnig ystod o fuddsoddiadau a chymorth i'ch helpu i ddewis. Fodd bynnag, gall hyn amrywio yn dibynnu ar y math o bensiwn a'r darparwr.

Bydd rhai darparwyr yn cynnig dewis llai ac mae ganddynt opsiynau ar gyfer y rhai sydd eisiau opsiynau mwy syml. Bydd darparwyr eraill yn cynnig ystod lawer mwy ac efallai y byddant yn cynnig offer ychwanegol i helpu buddsoddwyr mwy hyderus i leihau eu dewisiadau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn buddsoddi eich pensiwn mewn cronfa moesegol, gymdeithasol gyfrifol neu sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia, sicrhewch eich bod yn dewis darparwr pensiwn sy’n cynnig yr opsiynau hyn. 

Darganfyddwch fwy am gynilion sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia yn ein canllawiau:
Cynilion sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia
Cynlluniau prynu cartref sy’n cydymffurfio â chyfraith Sharia

Mae rhaid i ddarparwyr ddarparu gwybodaeth benodol i'ch helpu i benderfynu, er enghraifft:

  • gwybodaeth ar sut mae'r gronfa'n cael ei buddsoddi
  • pa enillion y mae'r gronfa wedi'u gwneud yn y gorffennol
  • beth yw'r taliadau
  • pa risg sy'n gysylltiedig â'r gronfa.

Fel arfer, cynigir y dewis ehangaf o gronfeydd gan bensiynau buddsoddi personol (SIPPs).

Os oes gennych bensiwn cyfranddeiliaid, bydd opsiwn buddsoddi safonol y gallwch ei ddewis. Yn aml bydd hon yn gronfa ‘ffordd o fyw’ neu ‘dyddiad targed’. Mae rhagor o wybodaeth am hyn isod.

Nol i’r brig

Beth yw'r prif opsiynau buddsoddi?

Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio yn cynnig ystod o gronfeydd buddsoddi sydd wedi'u cynllunio i fuddsoddi'ch arian mewn gwahanol ffyrdd dros y blynyddoedd tan eich ymddeoliad.

Fel arfer, gallwch ddewis buddsoddi mewn un gronfa neu ledaenu'ch arian dros nifer o gronfeydd.

Mae arbenigwyr buddsoddi'r gronfa yn delio â'r holl fanylion - fel y dewis o'r mathau buddsoddi penodol y mae'r gronfa'n buddsoddi ynddynt.

Ymhlith y mathau o fuddsoddiadau mae cyfranddaliadau, eiddo a bondiau cwmni. Gallai'r rhain fod yn y DU neu dramor.

Cronfeydd ffordd o fyw a dyddiad targed

Mae llawer o gynlluniau pensiwn yn cynnig cronfa ‘ffordd o fyw’ neu ‘dyddiad targed’. Mae hyn fel arfer yn golygu dau beth. Yn gyntaf, mae mwy o'ch cronfa yn cael ei fuddsoddi mewn buddsoddiadau sydd â mwy o risg (fel cyfranddaliadau cwmni) pan ydych yn iau. Yn ail, wrth i chi agosáu at ymddeoliad mae balans eich buddsoddiadau yn symud tuag at asedau sydd â llai o risg (fel bondiau ac arian parod).

Sefydlir llawer o gronfeydd diofyn ar y sail hon. Rheolwyr buddsoddi'r gronfa sy'n delio â'r newid hwn.

Nol i’r brig

Pethau allweddol i'w hystyried wrth ddewis eich buddsoddiadau

Dewis eich buddsoddiadau eich hun

Mae llawer o bethau i'w cofio wrth feddwl am fuddsoddiadau ar gyfer eich pensiwn, gan gynnwys:

  • hyd y buddsoddiad
  • chwyddiant
  • risg
  • lledaenu'ch arian rhwng gwahanol fathau o fuddsoddiadau
  • ffioedd a chostau
  • adolygu'ch buddsoddiadau.

Buddsoddi ar gyfer yr hirdymor

Buddsoddiadau hirdymor yw pensiynau.

Fel arfer ni allwch gyffwrdd â'r arian yn eich cronfa pensiwn tan 55 oed ar y cynharaf, ac efallai na fydd angen yr arian arnoch tan yn llawer hwyrach pan fyddwch yn stopio gweithio.

Mae hyn yn golygu y gallwch fuddsoddi'r arian yn wahanol i arian y gwyddoch y bydd ei angen arnoch yn y tymor byr, er enghraifft i dalu bil y mis nesaf.

Pan fydd gwerth buddsoddiadau yn cwympo (fel y gwnânt o bryd i'w gilydd) mae'n werth cofio, bod gwerthoedd yn tueddu i godi dros amser er nad yw hyn wedi'i warantu.

Os oes gennych nifer o flynyddoedd cyn eich bod yn bwriadu tynnu'ch pensiwn, gallai fod amser o hyd i'ch cronfa adfer ar ôl codiadau a chwympiadau yn y farchnad stoc sy'n digwydd yn y byrdymor i'r tymor canolig.

Chwyddiant

Er mwyn i'r arian yn eich cronfa pensiwn dyfu fel ei fod yn werth mwy i chi yn y dyfodol nag ydyw ar hyn o bryd, mae angen iddo fod yn fwy na chwyddiant.

Os na fydd, bydd pŵer gwario eich arian yn gostwng. Hyd yn oed pan fydd chwyddiant yn ymddangos yn isel, dros y hirdymor gall y codiadau bach hynny ychwanegu at lawer. Mae hyn yn golygu y bydd eich arian heddiw yn prynu llawer llai yn y blynyddoedd i ddod. Mae cyfraddau llog isel yn golygu, os ydych yn buddsoddi'ch cronfa bensiwn mewn arian parod, efallai y byddwch hyd yn oed yn gweld ei fod yn ennill llai na chwyddiant. Mae hyn yn achosi i wir werth eich cronfa ddisgyn.

Mae chwyddiant yn arbennig o bwysig i ystyried pensiynau gan eu bod yn gallu rhedeg am gyfnodau mor hir. Mae hyn yn golygu bod angen i chi ystyried mathau o fuddsoddiadau sy'n anelu at gynhyrchu enillion gwell na chwyddiant.

Mae'r mwyafrif o gronfeydd diofyn wedi'u cynllunio i wneud hyn i chi.

Darganfyddwch yn ein canllaw Chwyddiant – beth mae’n golygu ar gyfer eich cynilion

Risg

Efallai y byddai'n naturiol meddwl, gan fod eich cronfa pensiwn yn bwysig, eich bod am ei gadw'n ddiogel ac nad ydych am fentro ag ef trwy fuddsoddi mewn unrhyw beth a all godi a chwympo gormod mewn gwerth.

Ond os ydych am i'ch buddsoddiadau dyfu, mae'n anodd cyflawni hynny os mai dim ond buddsoddiadau risg is y byddwch yn eu dewis, fel arian parod neu fondiau.

Yn hanesyddol mae cyfranddaliadau cwmni wedi perfformio'n well nag arian parod neu fondiau dros y tymor hwy, ond byddwch yn ymwybodol nad oes unrhyw warantau y byddant bob amser yn gwneud hynny. Er bod yr holl gronfeydd wedi'u cynllunio i dyfu dros y tymor canolig i'r hirdymor, bydd y mathau o fuddsoddiad y mae cronfa benodol yn buddsoddi ynddynt yn effeithio ar broffil risg y gronfa. Mae hyn yn y bôn yn golygu a fydd y buddsoddiadau yn y gronfa yn risg isel, canolig neu uchel.

Mae gan gronfeydd sy'n buddsoddi mewn mathau buddsoddi risg uwch y potensial i gynhyrchu enillion buddsoddiad uwch dros y tymor hwy.

Ond gallent golli gwerth oherwydd anweddolrwydd y farchnad fuddsoddi. Mae hyn yn golygu y gallai dirywiad y farchnad a ffactorau eraill effeithio'n ddifrifol arnynt.

Gallai cronfeydd risg is fod yn llai cyfnewidiol, ond dros y tymor hwy gallai gynhyrchu enillion is na chronfeydd risg uwch.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Canllaw dechreuwyr i fuddsoddi

Gwasgaru eich arian

I ddiogel eich hun rhag buddsoddiad penodol sy'n cwympo mewn gwerth, gallwch ledaenu'ch arian rhwng gwahanol fathau o fuddsoddiadau - er enghraifft, cyfranddaliadau cwmni, eiddo a bondiau. Gelwir hyn yn arallgyfeirio.

Bydd perfformiad gwahanol fathau o fuddsoddiadau yn amrywio dros amser. Gan fod gan bob math o fuddsoddiad nodweddion gwahanol, bydd amodau'r farchnad a digwyddiadau'r byd yn effeithio'n wahanol arnynt.

Prif fantais arallgyfeirio yw, pe bai gwerth un math o fuddsoddiad yn cwympo, efallai na fyddai mathau eraill yn cwympo - a gallent hyd yn oed godi.

Bydd dal ystod amrywiol o fathau o fuddsoddiadau yn unol â'ch nodau a'ch goddefgarwch risg yn helpu i leihau perfformiad gwael un math o fuddsoddiad ar eich buddsoddiadau cyffredinol. A bydd yn helpu i fanteisio ar gyfleoedd ar draws y farchnad.

Buddsoddir llawer o gronfeydd diofyn mewn ystod o fathau o fuddsoddiadau i roi'r arallgyfeirio hwn i chi heb i chi orfod gwneud unrhyw beth. Bydd eich darparwr yn gallu dweud wrthych sut mae eu cronfeydd yn cael eu buddsoddi.

Ffioedd a chostau

Mae gan bob cronfa gostau. Un cyffredin yw'r tâl rheoli blynyddol.

Dangosir yn aml fel canran y mae eich darparwr yn ei dynnu allan o'ch cronfa yn awtomatig.

Mae'r taliadau'n talu costau'r darparwr wrth fuddsoddi'ch arian.

Mewn llawer o bensiynau gweithle, mae costau’r gronfa hefyd yn talu costau gweinyddu eich cronfa pensiwn. Weithiau codir tâl am hyn ar wahân, yn enwedig mewn pensiynau rydych yn eu sefydlu'ch hun. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r holl gostau wrth gymharu'r costau rhwng gwahanol ddarparwyr.

Darganfyddwch fwy am gostau cynllun pensiwn yn ein canllaw Costau cynllun pensiwn

Gwiriwch faint a godir gan y gwahanol gronfeydd sy'n cael eu cynnig. Mae hyn oherwydd, er y gall perfformiad eich buddsoddiadau amrywio dros amser, bydd rhaid i chi dalu taliadau waeth pa mor dda y mae eich buddsoddiadau yn ei wneud. Dros amser, gall taliadau cronfa wneud gwahaniaeth enfawr i'r swm a gewch ar y diwedd.

Fel cyfeiriad, os ydych mewn pensiwn gweithle a'ch bod wedi dewis aros yn y buddsoddiad a ddewiswyd ar eich cyfer gan y pensiwn (‘y rhagosodiad’), yr uchafswm tâl rheoli blynyddol yw 0.75% y flwyddyn. Mae rhai taliadau yn llawer is na hyn ac mae rhai yn llawer uwch.

Wrth edrych ar fuddsoddiadau, mae angen i chi ystyried y math o gronfa fuddsoddi, nod y gronfa a'i pherfformiad.

Efallai y bydd rheolwr cronfa dda yn cyfiawnhau taliadau uwch. Er enghraifft, gallent gynnig y potensial i gyflawni perfformiad gwell neu fod wedi gosod y gronfa i esmwytho'r cynnydd a'r anfanteision.

Os ydych yn edrych ar berfformiad yn y gorffennol, cofiwch bob amser na ddylid dibynnu ar berfformiad yn y gorffennol i ragfynegi perfformiad cronfa yn y dyfodol.

Adolygwch eich dewisiadau buddsoddi yn rheolaidd

Efallai na fydd rhaid i chi wneud unrhyw newidiadau, ond mae'n bwysig gwirio'ch dewisiadau buddsoddi yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn dal yn gyffyrddus â lefel y risg ac nad yw'r taliadau wedi codi.

Argymhellir gwirio'ch cronfeydd o leiaf unwaith y flwyddyn.

Mae'r wybodaeth ar eich datganiad blynyddol yn lle da i ddechrau. Bydd hyn yn dweud wrthych sut mae gwerth eich cronfa pensiwn wedi newid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r rhan fwyaf o ddatganiadau blynyddol hefyd yn darparu gwybodaeth am y taliadau.

Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach wrth i chi agosáu at ymddeol.

Ar y pwynt hwn, byddwch am sicrhau bod eich buddsoddiadau yn unol â'r hyn rydych yn bwriadu ei wneud. Er enghraifft:

  • os ydych am ddefnyddio'ch cronfa pensiwn i brynu incwm ymddeol gwarantedig (a elwir yn flwydd-dal), efallai yr hoffech symud i fuddsoddiadau risg is i helpu i amddiffyn y gronfa rydych wedi'i hadeiladu rhag unrhyw sioc ym mherfformiad y farchnad stoc.
  • os ydych am ddefnyddio'ch cronfa pensiwn ar gyfer incwm ymddeol hyblyg (a elwir hefyd yn dynnu i lawr pensiwn), efallai na fyddech eisiau bod mewn buddsoddiadau sy'n lleihau risg gan y gallai chwyddiant ddechrau effeithio ar bŵer prynu eich buddsoddiadau.

Felly dylech edrych ar fuddsoddiadau sy'n diwallu'ch anghenion parhaus.

Ble i gael mwy o help

  • Gofynnwch i'ch darparwr am wybodaeth am yr arian y maent yn ei gynnig a gofynnwch a allant ddarparu unrhyw arweiniad.
  • Ystyriwch gael cyngor ariannol rheoledig ar sut i fuddsoddi'ch cronfa. Oherwydd y costau dan sylw, mae hyn yn fwy tebygol o fod yn addas pan fyddwch wedi cronni'ch cronfa. Am help i ddod o hyd i un, chwiliwch ein cyfeirlyfr ar ein tudalen Dod o hyd i gynghorydd ymddeoliad.
  • Os ydych yn 50 oed neu'n hŷn, gallwch gael apwyntiad Pensiwn Wise am ddim a diduedd. Bydd yn egluro'r gwahanol ffyrdd y gallwch gymryd arian o'ch cronfa pensiwn, a allai fod yn berthnasol wrth benderfynu sut i fuddsoddi'r gronfa.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol
Logo Pension Wise

A oes gennych gwestiwn am sut y gall eich pensiwn gael ei dalu?

Logo Pension Wise

Os oes angen help arnoch i wneud synnwyr o sut a phryd y gallwch gael mynediad at eich cronfa bensiwn, gallwch siarad ag arbenigwr Pension Wise, gwasanaeth am ddim gan HelpwrArian.

Trefnu apwyntiad am ddim

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Adeiladu eich cronfa bensiwn

Adeiladu cronfa ymddeol

  • Dewisiadau buddsoddi pensiwn - trosolwg
  • Aberthu cyflog a’ch pensiwn
  • Lwfans oes ar gyfer cynilion pensiwn
  • Gwneud y gorau o’ch pensiynau
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Adeiladu cronfa ymddeol

  • Dewisiadau buddsoddi pensiwn - trosolwg
  • Aberthu cyflog a’ch pensiwn
  • Lwfans oes ar gyfer cynilion pensiwn
  • Gwneud y gorau o’ch pensiynau
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2024 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AP. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni'n fyw i gael arweiniad pensiynau gan ddefnyddio'r ffôn
  • O dramor +44 207 932 5780
  • Hunangyflogedig 0345 602 7021
Oriau
  • Llun–Gwener9am-5pm
  • Sat-Sun

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg 0800 138 7777*
  • Typetalk 18001 0800 915 4622*
  • O dramor +44203 553 2279
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sat, Sun andWedi cau

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Talk to us live about pensions guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Talk to us live about money guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Download app: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau