Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Ysgariad a gwahanu
Teulu a gofal Ysgariad a gwahanu

Amddiffyn eich hun rhag cam-drin ariannol

Mae gan bawb yr hawl i gael annibyniaeth ariannol. Os yw’ch partner yn rheoli’ch arian neu’n mynd i ddyled yn eich enw chi, mae’n cael ei alw'n cam-drin ariannol. Ond nid oes rhaid i chi frwydro ymlaen ar eich pen eich hun. Dyma rai o’r pethau y gallwch eu gwneud a lle i fynd am help a chymorth.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Coronafeirws a cham-drin ariannol
  • Beth yw cam-drin ariannol?
  • Poeni am daliadau sengl Credyd Cynhwysol?
  • Ble gallwch gael cyngor
  • Sut i adael yn ddiogel
  • A allaf gael cymorth cyfreithiol?
  • Ble i gael arian parod mewn argyfwng
  • Pethau i’w hystyried
  • Mynediad trydydd parti
  • Diogelu eich arian yn ystod ysgariad neu wahaniad
  • Mwy o wybodaeth

Coronafeirws a cham-drin ariannol

Oeddech chi’n gwybod?

Os ydych angen cymorth a chyngor, mae llawer o fferyllwyr y stryd fawr– gan gynnwys Boots, Superdrug a Morrisons – wedi sicrhau bod ystafelloedd ymgynghori fferyllol ar gael fel lleoedd diogel i bobl sy’n profi cam-driniaeth domestig sydd angen cael help yn gwbl cyfrinachol.  Gwiriwch siopau lleol i ddarganfod un yn agos i chi.

Mae sefyllfa’r coronafeirws yn gyfnod heriol i lawer o bobl, ond mae’n heriol tu hwnt os ydych yn profi cam-driniaeth domestig ac ariannol.

Efallai bydd cadw pellter cymdeithasol a hunan-ynysu yn cynyddu pŵer camdrinwyr, a’u cyfleoedd i reoli eu dioddefwyr. Gall hyn gynnwys:

  • rheoli neu eu gwneud hi’n anodd i chi weithio o gartref
  • gwrthod rhannu cyfrifoldebau gofal plant
  • eich rhwystro rhag defnyddio ffonau symudol neu liniaduron
  • eich gorfodi i dorri lawr ar hanfodion megis gwresogi neu fwyd, neu
  • eich rhwystro rhag cysylltu â ffrindiau neu deulu.

Os ydych yn dioddef cam-drin economaidd, neu'n cefnogi rhywun sydd yn y sefyllfa honno, gallwch gael help ar unwaith.

Cysylltwch â’r Llinell Gymorth Trais yn y Cartref Cenedlaethol ar 0808 200 0247, neu Linell Gyngor y Dynion ar 0808 801 0327.

Darganfyddwch lawer mwy o wybodaeth ar wefan Surviving Economic Abuse
Nol i’r brig

Beth yw cam-drin ariannol?

Mae cam-drin ariannol yn fath o gam-drin domestig. Mae’n drosedd a dylid ei adrodd i’r heddlu.

Mae sawl ffurf wahanol o gam-drin ariannol, felly bydd yn edrych yn wahanol mewn gwahanol berthnasau.

Yn aml partner fydd yr un sy'n cyflawni’r camdriniaeth, ond gall hefyd ddod o berthnasau eraill - fel aelodau o’r teulu, ffrindiau a gofalwyr.

Efallai y bydd rhywun sy’n cam-drin yn eich rhwystro rhag rheoli’ch arian fel ffordd o geisio eich rheoli chi.

Weithiau gallent fod yn gorfforol dreisgar.

Gall cam-drin ariannol yn y cartref – os oes trais corfforol neu agwedd ymosodol neu beidio – beri i chi deimlo’n unig, yn brin o hyder a chaeth.

Gall cam-drin ariannol gan aelod o’r teulu, ffrind, partner neu ofalwr fod pan fydd rhywun:

  • yn codi arian neu gael credyd yn eich enw heb eich gwybodaeth neu ganiatâd
  • yn eich gorfodi i drosglwyddo rheolaeth o’ch cyfrifon
  • yn cyfnewid eich pensiwn neu sieciau eraill am arian heb eich awdurdod
  • yn ychwanegu ei enw i’ch cyfrif
  • yn gofyn i chi newid eich ewyllys
  • yn cynnig prynu eich siopa neu dalu’ch biliau i chi, ond na fyddwch yn gweld hyn yn digwydd, neu
  • yn eich rhwystro rhag gweld ffrindiau a theulu eraill.

Gall cam-drin ariannol gan bartner fod pan fydd rhywun:

  • yn eich rhwystro rhag gweithio, neu ddychwelyd i’r gwaith
  • yn eich rhwystro rhag mynd i’r coleg neu brifysgol
  • yn gofyn i chi roi cyfiawnhad o bob un peth fyddwch yn ei wario
  • yn eich rhwystro rhag cael mynediad at eich cyfrifon banc, benthyciad neu gardiau credyd
  • yn eich rhwystro rhag gwario ar eitemau hanfodol
  • yn cymryd cardiau credyd neu fenthyciadau yn eich enw
  • yn gwario cyllideb eich cartref ar bethau heb roi gwybod i chi, neu
  • yn rhoi’r biliau i gyd yn eich enw chi yn unig.

Mae cymryd y camau cyntaf hyn i dorri’n rhydd o gam-drin ariannol yn ddewr iawn. Efallai ei fod yn frawychus, ond does dim rhaid i chi wneud hyn ar ben eich hun.

Mae ffyrdd y gall eich banc, cymdeithas adeiladu, darparwr benthyciadau a darparwr gwasanaethau ariannol eraill eich helpu. Mae’n bwysig iawn siarad â rhywun.

Nol i’r brig

Poeni am daliadau sengl Credyd Cynhwysol?

Gyda chyflwyniad Credyd Cynhwysol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae nifer o’r budd-daliadau presennol a chredydau treth yn cael eu cyfuno yn un taliad misol.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol

Bydd cyplau sy’n byw gyda’i gilydd yn gwneud cais ar y cyd am Gredyd Cynhwysol.  Fel arfer bydd yn cael ei dalu i un cyfrif banc.

Bydd Budd-dal Plant yn aros fel budd-dal ar wahân i Gredyd Cynhwysol.

Pan fyddwch yn gwneud eich cais, gofynnir i chi i ba gyfrif banc rydych am i’ch arian gael ei dalu iddo. Os oes gennych blant, your bydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych y dylai’ch taliad Credyd Cynhwysol fynd i mewn i gyfrif banc y prif ofalwr.

Os nad ydych chi a’ch partner yn cytuno ar gyfrif ar gyfer eich taliadau Credyd Cynhwysol, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn enwebu un.

Os ydych yn poeni am eich partner yn rheoli’ch holl incwm o fudd-daliadau - gan eich gadael chi (a’ch plant) heb unrhyw neu swm rhesymol o arian parod – dylech siarad â rywun yn y Ganolfan Gwaith.

Os gallwch, trefnwch i’ch Credyd Cynhwysol gael ei dalu i’ch cyfrif eich hunan neu ei rannu’n daliadau ar wahân. Y ffordd honno, byddwch yn cael arian i chi’ch hunan (a’ch plant) a bydd eich partner yn cael taliad ar wahân.

Mae hwn yn opsiwn i bawb mewn ‘amgylchiadau eithriadol’ - er enghraifft, pobl sydd mewn perygl o gam-drin domestig neu ariannol.

Mae swyddogion cymorth camdriniaeth ddomestig ym mhob Canolfan Byd Gwaith yn y DU. Maent wedi’u hyfforddi i’ch helpu i ddelio â’r sefyllfaoedd hyn ac yn cynnig cymorth ymarferol os oes angen hynny arnoch.

Nol i’r brig

Ble gallwch gael cyngor

Os ydych chi neu eich plant mewn perygl dybryd, ffoniwch yr heddlu ar 999. Os na allwch siarad, ffoniwch 999 wedi’i ddilyn gan 55.

Os nad yw’r perygl yn un brys, mae nifer o sefydliadau a all roi help a chyngor i chi.

Cymorth i Ferched

Gall Cymorth i Ferched gynnig help a chymorth os ydych yn dioddef cam-drin ariannol.

Efallai y bydd eich sefydliad Cymorth i Ferched lleol hefyd yn gallu cymeradwyo cyfreithiwr addas os oes angen un arnoch.

Gallwch gael gwybodaeth ar eu gwefannau neu trwy ffonio eu llinell gymorth 24awr:

  • Yn Lloegr ewch i Cymorth i Ferched neu ffoniwch Linell Gymorth Genedlaethol Rhadffôn 24 Awr Trais yn y Cartref (a redir mewn partneriaeth rhwng Cymorth i Fenywod a Refuge) ar 0808 200 0247.
  • Yng Nghymru ewch i wefanCymorth i Ferched Cymru neu ffoniwch Linell Gymorth Genedlaethol Rhadffôn 24 Awr Trais yn y Cartref Cymru ar 0808 801 0800.
  • Yng Ngogledd Iwerddon ewch i wefan Cymorth i Ferched neu ffoniwch Linell Gymorth Genedlaethol Rhadffôn 24 Awr Trais yn y Cartref ar 0808 802 1414.
  • Yn yr Alban ewch i wefan Cymorth i Ferched yr Alban neu ffoniwch Linell Gymorth Genedlaethol Rhadffôn 24 Awr Trais yn y Cartref ar 0800 027 1234.

Llinell Gyngor i Ddynion

Ffoniwch y Llinell Gyngor i Ddynion ar 0808 801 0327. Mae am ddim o linellau tir a’r mwyafrif o ffonau symudol.

Mae’n cynnig cefnogaeth emosiynol, cyngor ymarferol a gall eich cyfeirio at wasanaethau eraill i gael help arbenigol.

Fel arall, ewch i wefan Llinell Gyngor i Ddynion

Llinell Gymorth Cam-drin yn y Cartref Genedlaethol LGBT+

Cefnogaeth emosiynol ac ymarferol ar gyfer pobl LGBT+ sy’n profi cam-drin domestig, emosiynol neu ariannol.

Am help i ddelio â cham-drin domestig, ffoniwch 0800 999 5428, anfon e-bost at help@galop.org.uk neu gallwch ymweld â gwefan Galop (Opens in a new window)

Nol i’r brig

Sut i adael yn ddiogel

Os ydych am adael eich partner, mae cyfres o gamau y gallwch eu cymryd i sicrhau eich diogelwch a gwneud yn siŵr y bydd eich sefyllfa ariannol mor hylaw â phosibl.

  • Cysylltwch â chyfreithiwr cyfraith teulu.
  • Cadwch gofnod o bob digwyddiad. Tynnwch ffotograffau o unrhyw niwed corfforol i chi, eich cartref neu bethau sy’n eiddo i chi.
  • Rhowch wybod am bob digwyddiad wrth eich heddlu lleol a’r meddyg fel eu bod yn cadw cofnod
  • Gwnewch gynllun diogelwch rhag ofn y bydd angen i chi adael eich cartref mewn argyfwng.
  • Casglwch ddogfennau pwysig (gweler isod), cyn rydych angen gadael.

Dogfennau pwysig

Os ydych am wahanu oddi wrth eich partner, ceisiwch gasglu’r gwaith papur pwysig at ei gilydd cyn i chi adael. Efallai y byddwch angen rhywfaint o’r rhain i allu gwneud cais am gymorth cyfreithiol.

Ceisiwch ddod o hyd i:

  • pasbortau
  • cyfriflenni banc
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • slipiau cyflog, llythyrau dyfarniad budd-dal neu brawf o addysg neu ddarparwyr hyfforddiant
  • dogfennau treth fel eich P60 a P45
  • tystysgrifau geni (i chi a’ch plant)
  • os ydych yn briod – eich tystysgrif priodas
  • dogfennau’n dangos perchenogaeth o unrhyw feddiannau
  • biliau cardiau credyd a biliau eraill sydd yn eich enw chi neu mewn enwau ar y cyd
  • eich trwydded yrru.

Os nad yw’n bosibl – neu os nad yw’n ddiogel – i gymryd y rhai gwreiddiol, yna ceisiwch wneud copïau, neu ysgrifennu gwybodaeth allweddol fel rhifau cyfrifon ar bapur.

Ond nid yw’n syniad da i gymryd gwybodaeth na allwch gael mynediad ati yn rhwydd. Er enghraifft, mae’n well peidio â mynd ar gyfrifiadur eich partner heb eu caniatâd.

Nol i’r brig

A allaf gael cymorth cyfreithiol?

Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth cyfreithiol i helpu i dalu costau cyngor cyfreithiol am gymryd camau cyfreithiol i’ch amddiffyn chi a’ch plant.

Gall hyn gynnwys cymorth cyfrieithiol i ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil.

Er mwyn profi eich bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, bydd angen copïau o rai dogfennau pwysig arnoch. Rhestrir rhai o'r rhain uchod. Darganfyddwch fwy o wefan GOV.UK

Chwiliwch am gyfreithiwr sy'n cymryd achosion cymorth cyfreithiol. Gallwch ddod o hyd i un ar Wefan Cymdeithas y Gyfraith

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i dalu ffioedd cyfreithiol ar ysgariad neu ddiddymiad
Nol i’r brig

Ble i gael arian parod mewn argyfwng

Os oes rhaid i chi adael ar frys ac nad oes gennych fynediad at arian parod, cysylltwch â’ch awdurdod lleol (neu’r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru) i wirio a allant eich helpu â chymorth brys.

  • Os ydych yn byw yng Nghymru, darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael Taliad Cymorth mewn Argyfwng gan Lywodraeth Cymru o’r Gronfa Cymorth Dewisol
  • Os ydych yn byw yn Lloegr, i ddarganfod help i ddioddefwyr trais a cham-drin domestig gan Adran Gwaith a Phensiynau, ewch i wefan GOV.UK
  • Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch at wefan Llywodraeth Gogledd Iwerddon i gael gwybodaeth am gymorth ariannol ychwanegol.
  • Os ydych yn byw yn yr Alban, darganfyddwch a allwch gael Grant Argyfwng gan y Gronfa Lles Albanaidd ar wefan Llywodraeth yr Alban
Nol i’r brig

Pethau i’w hystyried

Cyfrineiriau a diogelwch

Os ydych wedi rhoi cyfrineiriau i unrhyw un (partner, aelodau o’r teulu neu ffrindiau), mae’n bwysig eu newid ar unwaith. Bydd hyn yn golygu nad yw’r sawl sy’n eich cam-drin yn cael mynediad at eich cyfrifon personol.

Cymerwch gip ar ein blog ar Sut i ddewis cyfrinair diogel a'i gadw'n ddiogel

Llythyrau a chyfriflenni banc

Os gallwch, ceisiwch ddod o hyd i’ch holl ddogfennau pwysig. Bydd hyn yn ei gwneud yn llawer haws i chi agor cyfrifon newydd, gwneud cais am fudd-daliadau neu ymgeisio am swyddi yn y dyfodol.

Os nad ydych yn gwybod ble mae’r pethau hyn neu nad ydyn nhw gennych, mae pethau y gallwch eu gwneud o hyd. Ceisiwch nodi neu gofio unrhyw wybodaeth neu rifau pwysig - er enghraifft, eich rhif Yswiriant Gwladol a rhif cyfrif. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i’ch darparwr gwasanaethau ariannol ddod o hyd i chi ar eu system.

Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel

Nid ydych eisiau i wybodaeth gan eich darparwyr gwasanaethau ariannol gyrraedd y dwylo anghywir. Meddyliwch am ble mae eich llythyrau, ac i ble maent yn cael eu postio.

Os nad ydych eisiau iddynt fynd i’r un cyfeiriad, holwch eich darparwr gwasanaethau ariannol i’w hanfon i rywle arall.

Mae’n bwysig nodi y gall rhai trafodion ar eich cyfriflenni banc ddatgelu eich lleoliad (fel pa beiriannau codi arian ydych wedi defnyddio). Felly mae’n bwysig cadw’r wybodaeth yma mor ddiogel â phosibl.

Cyfrifon ar y cyd

Os oes gennych gyfrif ar y cyd â’ch partner neu gyn-bartner, gallwch siarad â’ch banc neu gymdeithas adeiladu am eich dewisiadau.

Os ydych yn poeni am dynnu arian o’ch cyfrif heb eich caniatâd, gallwch ofyn i’ch banc neu gymdeithas adeiladu weithredu ar gyfarwyddiadau gan ddau ddeiliad neu bob deiliad y cyfrif. Mae hyn yn golygu na all taliadau fynd allan heb gyfarwyddyd ar y cyd. Ond ar lefel ymarferol gallai hyn olygu y bydd eich taliadau rheolaidd, cardiau a mynediad ar-lein yn cael eu hatal.

Noder, gall y sawl sy’n eich cam-drin hefyd atal eich cyfrif ar y cyd gan gyfyngu mynediad at eich arian. Gallwch wirio sut ydych wedi’ch cysylltu’n ariannol i rywun trwy gyrchu eich adroddiad credyd ar-lein am ddim.

Mae mwy o wybodaeth yn ein canllaw Trefnu cyfrifon banc ar y cyd, yswiriant, biliau a chyllid arall â'ch cyn-bartner

Agor cyfrif newydd

Efallai yr hoffech agor cyfrif newydd gan y bydd hyn yn helpu gwahanu eich arian chi o’r sawl fu’n eich cam-drin.

Os nad ydych eisiau i’ch dogfennau personol gael eu danfon i’ch cartref, siaradwch â’ch darparwr am gael eu postio i rywle arall.

I agor cyfrif banc newydd, bydd angen i chi ddarparu prawf hunaniaeth a chyfeiriad amgen. Os na allwch gael gafael ar y dogfennau hyn, esboniwch eich sefyllfa i’ch banc i weld sut all helpu. Yn aml gall dderbyn llythyrau gan loches, gweithiwr cymdeithasol neu awdurdod lleol.

Adolygu'ch taliadau

Os nad ydych yn siŵr beth sy’n dod i mewn ac allan o’ch cyfrif banc, cysylltwch â’ch darparwr a gall eich helpu i gyfrifo hyn.

Efallai y byddai’n syniad da i lenwi cynllunydd cyllideb.  Gall hyn eich helpu i gynllunio eich arian ychydig yn fwy.

Cynlluniwr cyllideb

I’ch helpu i reoli eich arian, defnyddiwch ein Cynlluniwr cyllideb hawdd i’w ddefnyddio, rhad ac am ddim.

Statws credyd

Gall llawer o newidiadau ariannol effeithio ar eich statws credyd. Pryd bynnag byddwch yn gwneud cais am orddrafft, cerdyn credyd a benthyciad, cofnodir hyn ar eich adroddiad credyd.

Gall colli ad-daliadau, mynd dros eich terfyn credyd neu gymryd llawer o gredyd newydd effeithio ar eich adroddiad credyd.

Gallai hyn i gyd olygu y bydd eich graddiad credyd wedi ei effeithio gan eich cam-drin ariannol – yn arbennig os oes rhywun wedi cymryd credyd yn eich enw.

Mae’n bwysig cadw llygad ar eich sgôr credyd oherwydd gallai statws isel ei gwneud yn anoddach i chi wneud cais am gredyd yn y dyfodol. 

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i wella'ch sgôr credyd
Nol i’r brig

Cardiau credyd

Yn gyffredinol, os oes gennych gerdyn credyd, bydd un ohonoch wedi ymgeisio amdano mewn un enw’n unig - dyma fyddai ‘prif ddeiliad y cerdyn’.

Yn wahanol i gyfrifon ar y cyd, dim ond prif ddeiliad y cerdyn sy’n gyfrifol am y cerdyn hyd yn oed os yw’r person arall yn gwario arno, neu os oes gan y person yma gerdyn atodol fel ‘ail ddeiliad cerdyn’. Yn gyfreithiol ni fydd rhaid i’r ail ddeiliad cerdyn dalu unrhyw beth yn ôl.

Os mai chi yw prif ddeiliad y cerdyn, efallai yr hoffech dynnu’r person arall o’ch cyfrif i’w rhwystro rhag gwario rhagor o arian.

Nol i’r brig

Mynediad trydydd parti

Os ydych angen cefnogaeth ychwanegol, efallai yr hoffech roi mynediad atodol i rywun yr ymddiriedir ynddo i’ch cyllid. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os:

  • nad ydych yn gallu mynd i’r gangen
  • ydych angen iddynt i ffonio neu siarad â rhywun yn eich banc neu gymdeithas adeiladu, neu
  • nad ydych yn teimlo’n hyderus i wneud hyn eich hun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael help anffurfiol i reoli eich arian

Morgeisi

Os oes gennych forgais ar y cyd, bydd y ddau ohonoch yn dal i fod yn gyfartal gyfrifol am ad-daliadau’r morgais.

Os oes angen, gallwch siarad â darparwr eich morgais a chael datganiad gyda’r balans ac anfon gwybodaeth dalu i gyfeiriad arall.

Ymdrin â dyledion

Bydd rhai pobl sy’n cam-drin yn cymryd benthyciadau, gorddrafftiau neu gardiau credyd yn eich enw, neu’n defnyddio eich eiddo yn erbyn benthyciad - naill ai â neu heb eich gwybodaeth a chaniatâd.

Mae’n werth edrych ar eich adroddiad credyd am ddim ar-lein i weld pa gredyd sydd yn erbyn eich enw.

Darganfyddwch sut i wirio a gwella'ch sgôr credyd yn ein canllaw Sut i wella’ch sgôr credyd

Os ydych yn meddwl bod cyfrifon eraill wedi eu hagor yn eich enw, gallwch hefyd gofrestru â Cifas sydd  (am ffi) yn darparu gwasanaeth Cofrestru Amddiffynnol. Bydd hyn yn golygu byddant yn cysylltu â chi i ddilysu unrhyw geisiadau cyfrif pellach yn eich enw.

Ond dylid nodi y gallai cofrestru â Cifas arafu ceisiadau am gredyd gan y bydd angen iddynt wirio’r cais â llaw.

Darganfyddwch fwy ar wefan Cifas

Os ydych yn cael anhawster â dyledion, gall fod yn anodd gwybod ble i droi. Serch hynny, â llawer iawn o wasanaethau cynghori rhad ac am ddim ar gael ledled y DU, gallwch ddod o hyd i gymorth sy’n addas ar eich cyfer chi.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth â dyledion
Nol i’r brig

Diogelu eich arian yn ystod ysgariad neu wahaniad

Mae'n werth edrych ar ein canllawiau defnyddiol:
Sut i ddiogelu eich arian yn ystod ysgariad neu ddiddymiad
Sut i ddiogelu eich arian wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw
Nol i’r brig

Mwy o wybodaeth

I ddarganfod mwy, lawrlwythwch ganllaw UK Finance ar Sut y gall cwmnïau gwasanaethau ariannol helpu os ydych yn dioddef cam-drin ariannol (PDF, 4.45MB)
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Ysgariad a gwahanu

Gwahanu - delio ag arian ac asedau

  • Rhannu diddordebau busnes wrth wahanu os oeddech yn byw gyda’ch gilydd
  • Sut i rannu eich eiddo os ydych yn gwahanu
  • Rhannu buddsoddiadau a chynilion yn ystod ysgariad neu ddiddymiad
  • Sut i gael trefn ar eich arian wrth wahanu neu ddiddymu
  • Rhannu buddsoddiadau a chynilion pan fyddwch chi’n gwahanu os oeddech chi’n cyd-fyw
  • Rhannu diddordebau busnes wrth ysgaru neu ddiddymu
  • Sut i drefnu eich arian wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw
  • Cyfrifiannell ysgariad ac arian
  • Sut i ddiogelu eich arian wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw
  • Trefnu cynhaliaeth priodasol dros dro yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
  • Sut i ddiogelu eich arian yn ystod ysgariad neu ddiddymiad
  • Ysgaru neu ddiddymu partniaeth sifil: apwyntiad i drafod pensiynau
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Gwahanu - delio ag arian ac asedau

  • Rhannu diddordebau busnes wrth wahanu os oeddech yn byw gyda’ch gilydd
  • Sut i rannu eich eiddo os ydych yn gwahanu
  • Rhannu buddsoddiadau a chynilion yn ystod ysgariad neu ddiddymiad
  • Sut i gael trefn ar eich arian wrth wahanu neu ddiddymu
  • Rhannu buddsoddiadau a chynilion pan fyddwch chi’n gwahanu os oeddech chi’n cyd-fyw
  • Rhannu diddordebau busnes wrth ysgaru neu ddiddymu
  • Sut i drefnu eich arian wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw
  • Cyfrifiannell ysgariad ac arian
  • Sut i ddiogelu eich arian wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw
  • Trefnu cynhaliaeth priodasol dros dro yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
  • Sut i ddiogelu eich arian yn ystod ysgariad neu ddiddymiad
  • Ysgaru neu ddiddymu partniaeth sifil: apwyntiad i drafod pensiynau
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2024 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AP. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni'n fyw i gael arweiniad pensiynau gan ddefnyddio'r ffôn
  • O dramor +44 207 932 5780
  • Hunangyflogedig 0345 602 7021
Oriau
  • Llun–Gwener9am-5pm
  • Sat-Sun

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg 0800 138 7777*
  • Typetalk 18001 0800 915 4622*
  • O dramor +44203 553 2279
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sat, Sun andWedi cau

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Talk to us live about pensions guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Talk to us live about money guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Download app: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau