Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Arian bob dydd
  3. Prynu a rhedeg car
Arian bob dydd Prynu a rhedeg car

Y ffyrdd gorau o werthu’ch car

Bwriadu gwerthu’ch car? Yma cewch wybod am y dulliau a’r llefydd gwahanol y gallwch wneud hynny a sut y gallai bob un effeithio ar y pris a gewch. A pheidiwch â cholli’n hawgrymau ar yr adeg orau i werthu’ch car a beth i’w wneud os oes taliadau ar ôl i’w gwneud ar eich cynllun cyllid.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Faint yw gwerth eich car?
  • Dewis y ffordd orau o werthu’ch car
  • Alla i werthu car os oes dyled yn weddil ar gynllun cyllid?
  • Ydw i’n gallu rhan gyfnewid fy nghar gyda chyllid i’w dalu?
  • Canslo treth eich cerbyd a chael ad-daliad
  • Trafod wrth werthu eich car
  • Peidiwch â chael eich twyllo gan brynwyr twyllodrus
  • Ar ôl i chi werthu’ch car
  • Sut i gael gwared ar hen gar

Faint yw gwerth eich car?

Y cam cyntaf o werthu eich car yw gweithio allan beth yw gwerth posib eich car. 

Gallwch gael syniad am werth posibl eich car o'r gwefannau canlynol
Parkers
What Car?
HPI Valuations
Autotrader

Mae'n bwysig cofio mai amcangyfrifon yn unig yw'r rhain ac mae sawl ffactor arall a allai effeithio ar y gwerth. Er enghraifft, unrhyw ddifrod, ansawdd y teiars, cofnod gwasanaeth a pha mor hir sydd ar ôl ar y MOT.

Ond mae yna bethau eraill y mae'n rhaid i chi eu hystyried wrth brisio'ch car.

Er enghraifft, gallai gymryd mwy o amser i gael y pris gorau posibl ar gyfer eich car. Felly, os oes angen arian arnoch yn gyflym, efallai yr hoffech ystyried gwerthu am bris is.

Nol i’r brig

Dewis y ffordd orau o werthu’ch car

Mae yna nifer o wahanol opsiynau ar gyfer gwerthu'ch car. Mae'r un gorau i chi yn dibynnu ar faint rydych am ei gael am y car, faint o amser rydych chi'n barod i'w dreulio arno ac os ydych chi am gael car arall.

Mae gwerthu’n breifat yn golygu y gallech gael mwy am eich car nag y byddech chi gan ddeliwr. Ond gallai gymryd llawer o amser.

Os ydych chi eisiau car arall ar unwaith, gallai cyfnewid yn rhannol â deliwr fod yn opsiwn gwell.

Mae hyn yn golygu pe byddai’ch car werth £5,500 o’i werthu’n breifat, y byddech yn colli o leiaf £500 trwy ei werthu i ddeliwr.

Gwerthu car i ddeliwr

Os ydych chi eisiau car arall ar unwaith, yna gall cyfnewid rhan gyda deliwr ymddangos fel yr opsiwn hawsaf.

Byddwch yn debygol o gael llai amdano na thrwy werthiant preifat, ond y fantais yw y byddwch yn osgoi’r gwaith a chost o hysbysebu a delio ag ymholiadau, pobl eisiau ei weld a’i yrru i’w brofi.

Bydd gwerth rhan-gyfnewid eich car ychydig yn fwy na’r pris masnachol pe byddech yn gwerthu’ch car yn uniongyrchol i ddeliwr.

Fodd bynnag, efallai na fydd y deliwr yn barod i drafod pris rhan-gyfnewid.

Os nad ydych chi eisiau car arall ar unwaith, efallai y byddwch chi'n dal i allu gwerthu'n uniongyrchol i'r deliwr. Er y gallai hyn fod yn gyflym, mae'n annhebygol y cewch y pris gorau  

Gwerthu car yn breifat

Rhybudd sgam

Mae sgamwyr paru cerbydau yn cynnig eich rhoi mewn cysylltiad â phrynwr uniongyrchol am ffi ad-daladwy. Peidiwch â gwneud taliadau ymlaen llaw, yn arbennig ddim i ddieithriaid a pheidio teimlo o dan bwysau i wneud penderfyniad.

Gall gwerthu car yn breifat gymryd amser, ond mae’n debyg y cewch well pris.

Dyma beth sydd angen i chi ei wneud:

  • Hysbysebu eich car i brynwyr posibl – er enghraifft, arwydd ‘Ar Werth’ ar ffenestri eich car ac/neu mewn siop, hysbyseb mewn papurau lleol, neu hysbysebion ar safleoedd megis Gumtree, PistonHeads, AutoTrader a Motors. Neu efallai y gallech ddod o hyd i brynwr ymysg ffrindiau neu eu ffrindiau nhw trwy gyfryngau cymdeithasol fel Facebook, neu yn y gwaith.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn disgrifio’ch car yn gywir yn eich hysbyseb ac y gallwch brofi mai chi yw ei berchennog cyfreithlon.
  • Deliwch yn brydlon ag unrhyw alwadau neu negeseuon e-bost gan brynwyr posibl.
  • Trefnwch a byddwch yn bresennol pan fydd pobl yn dod i’w weld a’i yrru.
  • Trefnwch ffordd ddiogel o gael eich talu am y gwerthiant.

Gwefannau prynu ceir ar-lein

Mae yna lawer o safleoedd prynu ceir ar-lein fydd yn cynnig gwneud y gwaith o werthu car ar eich rhan. Byddwch yn nodi manylion eich car ar wefan y cwmni fel oed a milltiredd, yn derbyn prisiad, wedyn yn mynd â’r car i ddepo lleol i gael ei asesu.

Fodd bynnag, dywed Which? "Rydych chi bron yn sicr o gael pris gwell yn gwerthu’r car, neu hyd yn oed ei anfon yn syth i arwerthiant, eich hun. Yn ein hymchwil cudd, fe ganfuom y byddai pump allan o chwech o’n siopwyr cudd wedi bod yn gyfoethocach yn gwerthu i werthwr – mewn un achos, o dros £2,000.”

Os byddwch chi’n dewis gwerthu eich car ar-lein, dylech fod yn ymwybodol bod y prisiad ar-lein fel arfer yn amodol ar archwiliad yn y fan a’r lle o’ch car. Os bydd yr archwiliad yn datgelu rhai gwallau, efallai y bydd swm y prisiad terfynol yn sylweddol is. Efallai y bydd hefyd rhaid i chi dalu ffi weinyddol am y gwasanaeth.

Gwerthu car mewn arwerthiant

Mae mynd â char i arwerthiant yn gyflym a chymharol ddidrafferth.

Ond nid oes sicrwydd bydd eich car yn cyrraedd ei bris cadw, ac efallai y byddwch yn cael llai amdano na thrwy ddulliau eraill o werthu. Ac os nad yw’n cyrraedd eich pris cadw, bydd rhaid i chi fynd ag ef adref a rhoi cynnig arall arni mewn arwerthiant arall.

Mae’r rhan fwyaf o brynwyr arwerthiannau yn y diwydiant moduro. Os ydych chi’n ddigon ffodus i ddenu prynwr preifat, yna efallai y bydd yn barod i dalu mwy am eich car nag y byddai deliwr.

Mae gan gwmnïau arwerthiannau car mawr megis British Car Auctions a Manheim ganghennau ledled y wlad, ond efallai y byddai’n haws i chi ddefnyddio cwmni annibynnol sy’n lleol i chi.

Gallwch hefyd edrych ar wefannau ocsiwn ar-lein fel eBay, ond bydd yn rhaid i chi wneud llawer mwy o'r gwaith o amgylch creu'r hysbyseb ac ateb cwestiynau. Os yw'ch car yn gwerthu, mae'r cynigydd buddugol yn talu amdano ar unwaith ac yna mae'r cwmni ocsiwn yn rhoi'r pris gwerthu i chi llai eu comisiwn. Gall hyn fod hyd at 10% o'r pris gwerthu.

Nol i’r brig

Alla i werthu car os oes dyled yn weddil ar gynllun cyllid?

Oeddech chi’n gwybod?

Mae’n anghyfreithlon i werthu car i rywun os oes dyled yn weddill ar y car a dydych chi ddim yn eu hysbysu o’r sefyllfa.

Os ydych chi’n gwerthu car gyda dyled yn weddill ar gynllun cyllid, mae dau beth y mae’n rhaid i chi eu gwneud cyn y gallwch ei werthu’n gyfreithlon:

  • Hysbysu’r cwmni cyllid a gofyn iddynt am “swm y setliad” fyddant ei angen gennych i dalu’ch benthyciad yn llawn.
  • Talu swm y setliad, ac unrhyw ffi ad-dalu cynnar a ffi gweinyddu a godir gan y benthyciwr.

Er gwaetha’r costau hyn, dylai talu’ch benthyciad yn gynnar gostio llai i chi nag y byddai gwneud unrhyw daliadau sy’n weddill.

Cofiwch ei bod fel arfer yn anodd iawn gwerthu car sydd â dyled i’w thalu arno.

Bydd y cwmni cyllid wedi cofrestru eich car gronfeydd data HPI ac Experian wrth i chi dderbyn eich cynllun talu.

Cyn prynu car ail law, mae’r rhan fwyaf o ddelwyr a phrynwyr preifat synhwyrol yn gwirio’r cronfeydd data hyn i sicrhau nad oes unrhyw ddyled i’w thalu arno.

Gallwch drefnu gwiriad hanes neu ddata car gan yr AA, RAC, HPI Check a chwmnïau eraill am tua £20.

Darganfyddwch fwy am derfynu cyllid car yn gynnar yn ein canllaw Cwtogi costau cyllid car.

Nol i’r brig

Ydw i’n gallu rhan gyfnewid fy nghar gyda chyllid i’w dalu?

Mae’r un egwyddorion yn weithredol â phan fyddwch chi’n gwerthu car gyda chyllid yn weddill.

Rhaid i chi gysylltu â’r cwmni cyllid i gael “swm setlo” a thalu hyn ynghyd ag unrhyw ffioedd a thaliadau gweinyddol cyn rhan gyfnewid.

Cofiwch y bydd y rhan fwyaf o ddelwyr yn awyddus i wneud elw pan fyddant yn ailwerthu eich car, felly mae’n debygol y bydd y pris rhan gyfnewid yn is na’r pris y gallech ei gael wrth werthu’r car yn breifat. Ond, mae’n llawer mwy syml a chyflym i ran gyfnewid nag yw hi i restru, trefnu i bobl ei weld a’i brofi er mwyn gwerthu’r car eich hun.

Nol i’r brig

Canslo treth eich cerbyd a chael ad-daliad

Ni all gwerthwyr a phrynwyr drosglwyddo treth gyfredol mwyach pan werthir car.

Yn hytrach bydd rhaid i chi drethu’r car eich hun a gall y cyn berchennog ymgeisio am ad-daliad.

Fodd bynnag, bellach mae treth newydd yn cael ei ddyddio’n ôl i ddechrau’r mis ac ad-daliadau o ddechrau’r mis canlynol.

Golyga hynny os gwerthwch gar ac yna prynu car yn gynnar yn y mis, byddwch yn talu treth ddwywaith.

Os ydych chi’n gwneud cais am HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol) cyn diwedd y mis gallwch osgoi talu treth ar eich car presennol.

Fodd bynnag, fe wynebwch ddirwy os gyrrwch ar y ffordd heb dreth ar ôl gwneud hynny. Gallai hyn beri anhawster os bydd prynwr yn dymuno profi’ch car.

I ganslo eich treth ac i gael ad-daliad ewch i GOV.UK

Cael gwared ar eich car

Os yw’ch car yn dod i ddiwedd ei oes ac yn dod yn llai economaidd i’w gynnal, ystyriwch ei roi i elusen neu ei sgrapio.

Nol i’r brig

Trafod wrth werthu eich car

Os ydych yn gwerthu'ch car yn breifat neu i ddeliwr, mae'n debyg y bydd y prynwr eisiau bargeinio am y pris. Felly, peidiwch â chael eich dal allan - darllenwch ein hawgrymiadau trafod isod fel eich bod yn gwybod sut i gynyddu gwerth eich car heb golli'r gwerthiant.

Am awgrymiadau ar drafod wrth brynu car, darllenwch wefan Which?
Nol i’r brig

Peidiwch â chael eich twyllo gan brynwyr twyllodrus

Gall gwerthu eich car yn breifat ddod â chi i gysylltiad â lladron sy'n ymddangos fel prynwyr posibl.

Dyma rai sgamiau diweddar i fod yn wyliadwrus amdanynt:

  • Rhywun yn cymryd arnynt bod yn allforiwr ceir, sy’n gofyn i chi drosglwyddo ‘ffioedd cludo’ i ‘brynwyr’ tramor.
  • E-byst gwe-rwydo o wefannau prynu a gwerthu ceir fel y'u gelwir yn gofyn am fanylion mewngofnodi a thalu ar gyfer eich cerdyn.
  • Negeseuon testun yn mynegi diddordeb yn eich car dim ond i dâl gael ei godi ar gyfradd premiwm os ydych yn ymateb dros y ffôn neu drwy neges destun.
  • Prynwr sy'n talu â siec ac yn mynd â'r car cyn i'r siec glirio, ond mae'r siec yn bownsio ychydig ddyddiau'n ddiweddarach oherwydd ei fod yn ffugiad neu'n ffug
  • Prynwr sy'n cynnig prynu'ch car heb ei weld sy'n talu'r swm llawn trwy PayPal. Yna cewch eich hysbysu eich bod wedi cael gordaliad a gofynnir ichi ddychwelyd y gwahaniaeth trwy ddull talu ar-lein gwahanol. Wrth i chi wneud hyn, mae’r twyllwr yn trefnu bod ei drafodiad PayPal gwreiddiol yn cael ei wrthdroi ac rydych yn colli’r arian rydych wedi’i ‘ddychwelyd’.
I gael mwy o awgrymiadau ar osgoi twyll wrth werthu a phrynu car, ewch i wefan Get Safe Online
Nol i’r brig

Ar ôl i chi werthu’ch car

Ar ôl i chi werthu'ch car mae angen i chi roi gwybod i'r DVLA nad chi yw'r perchennog mwyach.

Mae rhaid i chi a'r person rydych yn gwerthu iddo, lofnodi a dyddio'r rhan berthnasol o'r V5C a'i hanfon i’r DVLA. 

Peidiwch ag anghofio hysbysu’r DVLA eich bod wedi gwerthu’ch cerbyd

Peidiwch ag anghofio talu unrhyw gyllid sy'n dal i fod heb ei dalu ar eich car, a rhoi gwybod i'ch yswiriwr eich bod wedi gwerthu'r car.

Am awgrymiadau ar sut i baratoi eich car ar gyfer ei werthu darllenwch Which?
Nol i’r brig

Sut i gael gwared ar hen gar

Daw pwynt gyda phob car pan nad yw bellach yn ymarferol nac yn ddiogel i ymestyn ei oes. Yn fwy na hynny, os nad yw'n addas ar gyfer y ffordd fawr, efallai y cewch bwyntiau ar eich trwydded yrru neu ddirwy. Felly, os yw'ch car yn cyrraedd pen y ffordd, darllenwch ymlaen i ddarganfod sut y gallwch gael gwared arno.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae’r Ddeddf Delwyr y Sgrap Metel yn golygu ei bod yn erbyn y gyfraith i dalu am geir sgrap mewn arian parod yng Nghymru a Lloegr - felly peidiwch ag ymddiried yn unrhyw un sy’n ceisio talu mewn arian parod.

Os penderfynwch sgrapio'ch car, mae ychydig o bwyntiau i'w cofio cyn i chi ddechrau arni

  • Trefnwch y dogfennau. Pan fydd car yn cael ei sgrapio mae angen hysbysu'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) gan ddefnyddio Tystysgrif Dinistrio (CoD). Dim ond canolfannau ailgylchu ceir sgrap y gellir eu cyhoeddi, o'r enw Cyfleusterau Triniaeth Awdurdodedig (ATFs). Os na wnewch, rydych yn dal i fod yn gyfrifol am y cerbyd a gallech gael dirwy. 
  • Cadwch eich manylion personol yn ddiogel. Mae rhaid i gwsmeriaid yng Nghymru a Lloegr brofi pwy ydynt wrth werthu eu car fel sgrap. Gofynnir i chi ddangos ID llun a phrawf cyfeiriad, fel bil cyfleustodau. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio am dair blynedd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei rhannu â sefydliad ag enw da.  .
  • Adennill yswiriant a threth. Pan fyddwch wedi scrapio eich cerbyd mewn ATF a bod CoD wedi'i gyhoeddi, bydd y DVLA yn ad-dalu unrhyw fisoedd llawn o dreth car sy'n weddill (a elwir yn swyddogol yn VED ond y cyfeirir ati weithiau fel treth ffordd). Dylech hefyd ddweud wrth gyflenwr yswiriant eich car a gofyn am ad-daliad, neu roi unrhyw gredyd tuag at bolisi yswiriant arall.  
Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar wefan GOV.UK

Scrapio car

Mae pobl fel arfer yn sgrapio eu ceir os ydynt yn torri i lawr, yn methu MoT, angen atgyweiriadau drud, neu os nad ydynt yn gallu dod o hyd i brynwr.

Dylai sgrapio'ch car fod yn ddewis olaf y gallech ddewis ei wneud os yw wedi'i ddifrodi y tu hwnt i'w atgyweirio neu os na allwch ddod o hyd i unrhyw un sy'n barod i'w brynu.

Cofiwch, oni bai bod eich car wedi malurio’n llwyr, gallai fod yn werth rhywbeth o hyd, felly ni ddylai fod rhaid i chi dalu i gael ei halio i ffwrdd.

Cofiwch, gallai ailgylchwr y cerbyd (a elwir hefyd yn iard sgrap, torrwr neu ddatgymalwr) wneud cannoedd o bunnoedd dim ond trwy werthu rhai o'i rannau, hyd yn oed os gallai'ch car fod werth y metel sgrap yn unig.

Os penderfynwch wneud hyn, mae rhaid mynd â'ch car i ATF i'w sgrapio.

Yna anfonir CoD atoch.

Mae'n anghyfreithlon sgrapio'ch cerbyd yn unrhyw le arall.

Bydd sgrapio'ch car yn sicrhau ei fod wedi'i ailgylchu'n iawn heb niweidio'r amgylchedd.

Mae prisiau ceir sgrap yn amrywio gan ddibynnu ar y model car, y rhanbarth y mae wedi'i gasglu ynddo, p'un a oes ganddo unrhyw rannau y gellir eu hail-werthu a chyfraddau'r farchnad gyfredol.

Gallwch ddod o hyd i ddeliwr ATF, mwy o wybodaeth am sgrapio'ch car a chysylltu â DVLA ar GOV.UK

Rewarding Recycling a CarTakeBack yw'r partneriaid ailgylchu swyddogol ar gyfer detholiad o wneuthurwyr moduron.

Mae gan eu holl ganolfannau ailgylchu ceir sgrap drwyddedau ATF.

Gallwch hefyd ei ddanfon yn uniongyrchol i ATF os yw'n well gennych

Sicrhewch ddyfynbris ar unwaith am werth sgrap eich car ar CarTakeBack neu Rewarding Recycling

Cyfrannwch eich hen gar i elusen

Os nad yw’ch car werth llawer neu os nad oes gennych amser i drefnu ei werthu, beth am ei roi i Charitycar 

Byddant yn ei gasglu am ddim a bydd gennych y boddhad o wybod fod gwerth eich car yn mynd i’r elusen o’ch dewis.

Gallech hefyd ystyried rhoi eich car drwy Giveacar

Os ydych yn rhoi’ch hen gar yn rhodd, bydd naill ai’n cael ei werthu mewn arwerthiant neu ei sgrapio.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Prynu a rhedeg car

Costau rhedeg car

  • Bandiau treth car wedi’u hegluro
  • Prawf MOT wedi’i esbonio
  • Dibrisiant car wedi’i esbonio
  • Cwtogwch ar gostau car a theithio
  • Rhedeg car fel gyrrwr ifanc neu newydd
  • Y ffyrdd gorau o werthu'ch car
  • Hurio neu logi car dramor ac yn y DU
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Costau rhedeg car

  • Bandiau treth car wedi’u hegluro
  • Prawf MOT wedi’i esbonio
  • Dibrisiant car wedi’i esbonio
  • Cwtogwch ar gostau car a theithio
  • Rhedeg car fel gyrrwr ifanc neu newydd
  • Y ffyrdd gorau o werthu'ch car
  • Hurio neu logi car dramor ac yn y DU
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2024 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AP. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio...
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni'n fyw i gael arweiniad pensiynau gan ddefnyddio'r ffôn
  • O dramor +44 207 932 5780
  • Hunangyflogedig 0345 602 7021
Oriau
  • Llun–Gwener9am-5pm
  • Sat-Sun

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg 0800 138 7777*
  • Typetalk 18001 0800 915 4622*
  • O dramor +44203 553 2279
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sat, Sun andWedi cau

Calls are free. We’re committed to providing you with a quality service, so calls may be recorded or monitored for training purposes and to help us develop our services.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Talk to us live about pensions guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Talk to us live about money guidance using our web form

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Download app: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau