Wyddech chi fod hawlio Budd-dal Plant yn golygu y gallech chi gael mwy o Bensiwn y Wladwriaeth? Efallai mai ymddeol yw’r peth olaf ar eich meddwl wrth i chi ofalu am fabi newydd, ond gallai’r hyn a wnewch yn awr gael effaith sylweddol ar eich sefyllfa ariannol yn y dyfodol.
Diogelu eich Pensiwn gan y Wladwriaeth
Nid oes neb yn cael Pensiwn y Wladwriaeth llawn fel mater o drefn pan fyddant yn ymddeol.
Byddwch ond yn cael y swm llawn os byddwch wedi talu - neu wedi cael eich credydu â - chyfraniadau Yswiriant Gwladol am 35 o flynyddoedd. Fel arfer byddwch yn cronni blwyddyn o gyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy dalu trethi ar eich cyflog, ond pan fyddwch yn hawlio Budd-dal Plant, byddwch yn cael eich credydu gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol nes bydd eich plentyn ieuengaf yn 12 oed, hyd yn oed os nad ydych yn ennill.
Ychwanegir y credydau fel mater o drefn i’ch cyfrif Yswiriant Gwladol pan hawliwch Fudd-dal Plant - felly nid oes angen i chi wneud dim.
Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, byddwch yn cael Pensiwn newydd y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Esbonio Pensiwn newydd y Wladwriaeth
Swm llawn Pensiwn newydd y Wladwriaeth ar gyfer 2023/24 fydd £203.85 yr wythnos.
Beth yw Budd-dal Plant?
Taliad rheolaidd gan y llywodraeth yw Budd-dal Plant i roi cymorth gyda’r cost o fagu plentyn.
Gallwch hawlio Budd-dal Plant am bob plentyn rydych yn gyfrifol amdanynt os ydynt:
- dan 16 oed
- dan 20 oed ac yn parhau mewn hyfforddiant neu addysg amser llawn a gymeradwyir.
Darganfyddwch fwy ar GOV.UK am Fudd-dal Plant pan fydd eich plentyn yn troi’n 16 oedYn agor mewn ffenestr newydd
Yn y flwyddyn dreth 2023/24 gallech gael:
- £24.00 yr wythnos am eich plentyn cyntaf
- £15.90 yr wythnos am unrhyw blant eraill
Nid oes treth i’w thalu os nad yw yr un o’r rhieni’n ennill mwy na £50,000 y flwyddyn.
Os byddwch yn ennill mwy na hyn, bydd rhaid i chi dalu rhywfaint o’r arian yn ôl fel Treth Incwm ychwanegol. Gelwir hyn yn ‘Daliad Budd-dal Plant Incwm Uchel’.
Os bydd y naill ohonoch yn ennill dros £60,000, gallwch ddewis peidio â chael y taliadau – ac osgoi'r dreth – ond parhau i gael y hawliadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-dal Plant ar gyfer pobl sy'n ennill £50,000+
Sut i hawlio Budd-dal Plant
Lawrlwythwch ffurflen gais (CH2) o wefan GOV.UK
Hyd yn oed os nad ydych yn meddwl y bydd gennych hawl i rywbeth gan eich bod chi neu’ch partner yn ennill mwy na’r terfyn di-dreth o £50,000 – mae dal werth hawlio. Mae hyn er mwyn i chi beidio â cholli allan ar gredydau Yswiriant Gwladol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i hawlio Budd-dal Plant
Os ydych yn ofalwr maeth
Os ydych yn ofalwr maeth cofrestredig, bydd angen i chi wneud cais i CThEM am gredydau Yswiriant Gwladol.
Lawrlwythwch gais ar GOV.UK am gredydau Yswiriant Gwladol os ydych yn rhiant neu’n ofalwrYn agor mewn ffenestr newydd
Trosglwyddo Credydau Yswiriant Gwladol
Os ydych yn gweithio ac yn cael Budd-dal Plant – efallai’ch bod yn cronni mwy o gredydau Yswiriant Gwladol nac sydd eu hangen mewn gwirionedd.
Y newyddion da yw y gallwch eu trosglwyddo i’ch partner os nad ydynt yn gweithio neu eu bod ar incwm isel a ddim yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Gallwch hawlio ar gyfer trosglwyddo credydau bob blwyddyn ar ddiwedd pob blwyddyn dreth.
Lawrlwythwch ffurflen gais ar GOV.UK i drosglwyddo credydau Yswiriant GwladolYn agor mewn ffenestr newydd
Credydau teidiau a neiniau
Gallwch hefyd drosglwyddo credydau Yswiriant Gwladol i rywun arall yn eich teulu – er enghraifft:
- brawd neu chwaer
- taid neu nain, neu
- aelod uniongyrchol arall o’r teulu
os ydynt yn gofalu am eich plentyn (dan 12 oed) am o leiaf 20 awr yr wythnos.
Nid oes dim angen iddyn nhw fod yn ofalwyr plant cofrestredig.
Yr enw cyffredin ar y rhain yw ‘credydau teidiau a neiniau’.
Lawrlwythwch ffurflen gais ar GOV.UK i wneud cais am gredydau neiniau a theidiauYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i gael datganiad Pensiwn y Wladwriaeth
Mae’n hawdd edrych faint o flynyddoedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd gennych - a faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gall y rhain ei roi i chi.
Hefyd gallwch gyfrifo faint yn fwy o flynyddoedd – os o gwbl – rydych eu hangen i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn.