Os byddwch yn penderfynu nad ydych am fod yn hunangyflogedig mwyach, rhaid i chi roi gwybod i CThEM eich bod wedi rhoi’r gorau i fasnachu fel unig fasnachwr neu eich bod yn dod â phartneriaeth fusnes i ben neu’n gadael.
Byddwch hefyd angen anfon ffurflen dreth derfynol.
Os ydych wedi bod yn hunangyflogedig ers tro, ni allwch fel arfer hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) dull newydd os oeddech yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn unig.
Os ydych wedi bod yn hunangyflogedig ers tro, ni allwch fel arfer hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) dull newydd os oeddech yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn unig.
Fodd bynnag, os ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 fel gweithiwr yn y ddwy i dair blynedd dreth ddiwethaf, efallai y gallwch wneud cais am JSA dull newydd.
Os yw incwm a chynilion eich cartref yn isel a bod gennych gynilion o lai na £16,000, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle JSA. Bydd incwm eich priod neu bartner yn cael ei ystyried fel rhan o'r cais.