Byddwch yn barod i newid
Mae prisiau ynni yn uchel iawn. O 1 Ionawr 2024 ymlaen, bydd Cap ar Brisiau Ynni Ofgem wedi’i osod ar £1,928 ar gyfer cartref arferol. Bydd hyn yn newid i £1,690 y flwyddyn ar 1 Ebrill 2024.
Bellach mae mwy o fargeinion sefydlog ar gael o dan y cap ar brisiau felly cadwch lygad barcud ar brisiau. Ceisiwch ddefnyddio gwefannau cymharu a byddwch yn barod i newid pan fydd bargeinion gwell ar gael.